Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Wel, yn sicr, mae yna alw am unedau busnes, am ofod swyddfa, ac am unedau diwydiannol hefyd ar draws gogledd Cymru, ac yn arbennig yn yr ardal y mae'r Aelod yn ei chynrychioli. Fe ofynnaf i fy mhrif swyddog rhanbarthol yng ngogledd Cymru gysylltu â Busnes Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i asesu'r galw sy'n bodoli ar hyn o bryd am unedau busnes o'r math hwn ac i sicrhau eu bod yn ateb y galw hwnnw gyda gweithredwyr yr unedau dan sylw fel y gallwn sicrhau bod swyddi'n cael eu creu yn yr ardal honno.
Mae'n rhaid dweud bod Busnes Cymru wedi gwneud gwaith rhagorol ar draws gogledd Cymru ers 2015 wrth helpu i greu mwy na 740 o fentrau newydd, sydd, yn eu tro, wedi creu mwy na 2,780 o swyddi. Byddaf yn sicrhau bod ein tîm rhanbarthol yn gweithio'n agos gyda'r awdurdod lleol a gyda Busnes Cymru i wireddu potensial y cyfleuster penodol hwn.