1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 4 Rhagfyr 2019.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid grant ar gyfer busnesau lleol yn Aberconwy? OAQ54790
Gwnaf, wrth gwrs. Rydym yn cynnig ystod eang o opsiynau cyllido i bob math o fusnesau ledled Cymru. Fel enghraifft o gyllid diweddar yn Aberconwy, rydym wedi cefnogi 16 o fusnesau gyda'u prosiectau ymchwil a datblygu drwy SMARTCymru â chyfanswm o £1.1 miliwn, gyda hanner y ffigur hwnnw yn gyllid grant.
Diolch. Gan fod Cymru'n dathlu Dydd Sadwrn y Busnesau Bach y penwythnos hwn, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru, a chithau fel Gweinidog, yn gwneud popeth yn eich gallu i gefnogi datblygiad busnesau, ac yn sicr mae gan Aberconwy ystod wych o fusnesau bach. Nawr, yn ôl adroddiad siopau lleol Cymru 2020, mae 73 y cant o siopau cyfleus annibynnol yn ariannu buddsoddiadau yn eu busnesau eu hunain o’u cronfeydd wrth gefn. Mae llawer iawn, iawn ohonynt—y rhan fwyaf, mewn gwirionedd—yn mynd heb unrhyw gymorth ariannol. Felly mae'n debyg fod hynny yn ein gwneud yn awyddus i graffu ar y grantiau rydych yn eu darparu, er mwyn sicrhau eu bod wedi'u darparu’n ddoeth.
Nawr, yn 2016, darparodd Llywodraeth Cymru £400,000 i G.M. Jones, i adeiladu swyddfeydd pwrpasol hollol wych. Nawr, gwyddoch fy mod i wedi codi sawl cwestiwn ysgrifenedig yn y Cynulliad ynglŷn â hyn, gan fod yr eiddo wedi bod yn wag am fwy o flynyddoedd nag y cofiaf, a dim ond am ychydig fisoedd y bu rhywun yno cyn i'r busnes fynd i’r wal, yn anffodus. Mae pobl yn cysylltu â mi yn rheolaidd ynghylch busnesau llai o faint sy’n awyddus i ddefnyddio'r swyddfeydd hyn o bosibl. Rwyf wedi ffonio fy hun, wedi siarad â Busnes Cymru, ac rwyf wedi ceisio, yn groes i bob gobaith, sicrhau bywyd newydd i'r eiddo, oherwydd, yn y pen draw, mae wedi cael £400,000 o arian trethdalwyr, ac erbyn hyn nid oes busnes yno o gwbl. Mae yn y rhan wledig o fy etholaeth. Felly, rwy'n awyddus iawn i weld y busnes hwn yn cael ei feddiannu a'i ddefnyddio'n llawn fel na allwn ddweud bod arian trethdalwyr wedi’i wastraffu. Pa gamau rydych yn eu cymryd neu y gallech fod yn eu cymryd i weithio gyda'n hawdurdod lleol a rhanddeiliaid eraill i weld sut y gallwn ddatrys y mater hwn yn y dyfodol, gan y gallaf ddweud wrthych fod perchnogion busnesau eraill yng Nghonwy, ac yn wir, y trigolion, yn gandryll wrth weld y swyddfeydd gwych hyn yn dirywio am eu bod yn wag?
Wel, yn sicr, mae yna alw am unedau busnes, am ofod swyddfa, ac am unedau diwydiannol hefyd ar draws gogledd Cymru, ac yn arbennig yn yr ardal y mae'r Aelod yn ei chynrychioli. Fe ofynnaf i fy mhrif swyddog rhanbarthol yng ngogledd Cymru gysylltu â Busnes Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i asesu'r galw sy'n bodoli ar hyn o bryd am unedau busnes o'r math hwn ac i sicrhau eu bod yn ateb y galw hwnnw gyda gweithredwyr yr unedau dan sylw fel y gallwn sicrhau bod swyddi'n cael eu creu yn yr ardal honno.
Mae'n rhaid dweud bod Busnes Cymru wedi gwneud gwaith rhagorol ar draws gogledd Cymru ers 2015 wrth helpu i greu mwy na 740 o fentrau newydd, sydd, yn eu tro, wedi creu mwy na 2,780 o swyddi. Byddaf yn sicrhau bod ein tîm rhanbarthol yn gweithio'n agos gyda'r awdurdod lleol a gyda Busnes Cymru i wireddu potensial y cyfleuster penodol hwn.
Diolch am eich ateb, Ken—ar ran Conwy. Mae hynny'n hollol wych. Rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr.
Weinidog, microfusnesau a busnesau bach yw asgwrn cefn ein heconomi. Rwy’n falch fod fy mhlaid yn cydnabod hyn ac wedi ymrwymo i sicrhau mwy o chwarae teg. Rydym yn addo adolygu'r drefn ardrethi busnes a rhoi'r hwb sydd ei angen ar fusnesau lleol a'n stryd fawr. Beth yw eich cynlluniau i gefnogi busnesau lleol yn rhanbarth y ddau ohonom?
Wel, mae ystod enfawr o fentrau ar gael gan Lywodraeth Cymru a'n partneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol. Rydym wedi darparu £2.4 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol er mwyn darparu mwy o ryddhad ardrethi yn ôl disgresiwn i fusnesau lleol, gan ganiatáu iddynt ymateb i anghenion lleol penodol. Yn 2019-20, bydd oddeutu £9.5 miliwn mewn rhyddhad ardrethi yn cael ei gynnig i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, gyda £6.4 miliwn ohono'n cael ei gynnig drwy ein cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach.
Fodd bynnag, byddwn hefyd yn cynnig cefnogaeth drwy Busnes Cymru, drwy Fanc Datblygu Cymru, a thrwy gymorth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, a byddaf yn sicrhau, fel rhan o ddatblygiad y fframwaith economaidd rhanbarthol yng ngogledd Cymru, fod busnesau bach ar draws y rhanbarth yn cael eu hystyried yn llawn wrth iddynt ddatblygu mentrau yn y dyfodol.