Cyllid Grant

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 4 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 1:41, 4 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Ken—ar ran Conwy. Mae hynny'n hollol wych. Rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr.

Weinidog, microfusnesau a busnesau bach yw asgwrn cefn ein heconomi. Rwy’n falch fod fy mhlaid yn cydnabod hyn ac wedi ymrwymo i sicrhau mwy o chwarae teg. Rydym yn addo adolygu'r drefn ardrethi busnes a rhoi'r hwb sydd ei angen ar fusnesau lleol a'n stryd fawr. Beth yw eich cynlluniau i gefnogi busnesau lleol yn rhanbarth y ddau ohonom?