Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Wel, mae ystod enfawr o fentrau ar gael gan Lywodraeth Cymru a'n partneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol. Rydym wedi darparu £2.4 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol er mwyn darparu mwy o ryddhad ardrethi yn ôl disgresiwn i fusnesau lleol, gan ganiatáu iddynt ymateb i anghenion lleol penodol. Yn 2019-20, bydd oddeutu £9.5 miliwn mewn rhyddhad ardrethi yn cael ei gynnig i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, gyda £6.4 miliwn ohono'n cael ei gynnig drwy ein cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach.
Fodd bynnag, byddwn hefyd yn cynnig cefnogaeth drwy Busnes Cymru, drwy Fanc Datblygu Cymru, a thrwy gymorth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, a byddaf yn sicrhau, fel rhan o ddatblygiad y fframwaith economaidd rhanbarthol yng ngogledd Cymru, fod busnesau bach ar draws y rhanbarth yn cael eu hystyried yn llawn wrth iddynt ddatblygu mentrau yn y dyfodol.