Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Na, ddim o gwbl, nid gyda'r llyfr archebion yn dod i gyfanswm o £800 miliwn a threnau o'r radd flaenaf ar waith o 2023. Mae Trafnidiaeth Cymru yn defnyddio canllawiau'r diwydiant a safonau'r diwydiant wrth gyfrifo capasiti, ac rwy'n falch o ddweud y byddwn yn gweld trenau dosbarth 170 yn cael eu cyflwyno ar reilffordd Maesteg. Byddant ymysg y 12 trên dosbarth 170 a fydd yn cael eu cyflwyno o fis Rhagfyr eleni, a byddant yn sicrhau yn y tymor byr fod problemau capasiti'n cael sylw wrth inni aros am y cerbydau newydd o 2023.