Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 4 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 1:59, 4 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Mewn gwirionedd, gofynnais fy nghwestiwn mewn gobaith yn fwy na disgwyliad, o gofio, yn amlwg, mai gan gwmni TVR eu hunain y byddai'r dyddiadau ar gyfer dechrau.

Gan droi at ddatblygiad y parc ei hun, a allwch roi unrhyw fanylion inni ynglŷn â chwmnïau eraill sydd wedi mynegi diddordeb mewn dod i Lyn Ebwy, ac a allech gadarnhau adroddiadau fod cwmni Williams Advanced Engineering Ltd, sy'n rhan o dîm Fformiwla 1 Williams, yn dal i fod â diddordeb mewn datblygu presenoldeb ar y safle? Mae hwn, wedi'r cyfan, yn brosiect hanfodol os ydym am adfywio ardal sydd wedi bod yn economaidd farwaidd ers cau'r gwaith dur oddeutu 17 mlynedd yn ôl.