Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 4 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:00, 4 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn o allu dweud y byddaf gyda Williams yfory, yn yr uwchgynhadledd fodurol rydym wedi'i chynnull, ac yn y cinio nos yfory ar gyfer fforwm modurol Cymru. Rwy'n siŵr na fyddent yn bresennol yng Nghymru yfory pe na bai ganddynt ddiddordeb mewn presenoldeb yng Nghymru yn y tymor hwy. Byddaf yn trafod hynny gyda hwy, ac wrth gwrs, os gallwn ddenu cwmni mor enwog, bydd Llywodraeth Cymru yn gwbl gefnogol.