Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Yn ystod ein hymchwiliad, clywsom am fentrau sydd wedi cael rhywfaint o lwyddiant yn sicrhau bod eiddo'n cael ei ddefnyddio unwaith eto, ond mae'r cynnydd wedi aros yn ei unfan. Credwn fod angen dull strategol er mwyn i newid sylweddol ddigwydd. Hoffem weld Llywodraeth Cymru yn arwain ar hyn, gan ymgysylltu ag awdurdodau lleol i flaenoriaethu'r mater a deall y cymorth y gall ei ddarparu.
Rwy'n falch bod argymhelliad 1 wedi'i dderbyn. Mae hwn yn argymhelliad allweddol sy'n ymwneud â Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer mynd i’r afael ag eiddo gwag, a ddylai gynnwys pennu blaenoriaethau a thargedau. Gwnaethom argymell y dylid cyhoeddi’r cynllun gweithredu erbyn mis Hydref y flwyddyn nesaf. Bydd hwn yn gam pwysig ymlaen o ran pennu blaenoriaethau cenedlaethol a darparu'r cyfeiriad strategol y mae awdurdodau lleol ei angen i flaenoriaethu ymdrechion i fynd i'r afael â'r broblem.
Wrth gwrs, mae sicrhau bod y lefel gywir o adnoddau ar gael yn gwbl allweddol os yw awdurdodau lleol am gael eu harfogi'n llawn i fynd i'r afael â'r materion hyn. Gall cael swyddog eiddo gwag penodol wneud gwahaniaeth sylweddol; gall roi mwy o ffocws i waith yr awdurdod a chydlynu'r gweithgareddau amrywiol sy'n cael eu cyflawni ar draws adrannau. Wrth gwrs, mae pawb ohonom yn gwybod bod adnoddau'n dynn, ond mae'r effaith hirdymor y gall eiddo gwag ei chael, yn economaidd ac yn gymdeithasol, yn cyfiawnhau'r penderfyniad i nodi hwn fel maes blaenoriaeth. Clywsom gyngor arbenigol y dylai swyddog penodedig dalu am eu hunain sawl gwaith drosodd, felly mae'n cynrychioli gwerth da am arian.
Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gan awdurdodau lleol becyn cymorth sy'n angenrheidiol ar gyfer eu hanghenion ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr adnoddau sydd eu hangen erbyn mis Medi y flwyddyn nesaf.
Roeddem yn pryderu am y dystiolaeth a glywsom ynghylch defnyddioldeb data a ddefnyddir i fesur cynnydd wrth ymdrin ag eiddo gwag. Yn benodol, y ffaith nad yw'r data ond yn cynnwys eiddo ar restr y dreth gyngor, sy'n golygu nad yw'n cynnwys adeiladau segur ac eiddo amhreswyl—sydd, wrth gwrs, yn ffynhonnell i lawer o gwynion yn gysylltiedig ag eiddo.
Clywsom hefyd fod eiddo sy'n wag am dros 12 mis yn fwy problemus ac yn fwy tebygol o gael effaith negyddol ar gymdogion a chymunedau. Yn aml, byddai'r rhai a oedd yn wag am gyfnodau byrrach yn cael eu defnyddio unwaith eto heb unrhyw ymyrraeth gan yr awdurdod lleol. O ganlyniad, roeddem yn argymell defnyddio ffrâm amser o 12 mis i ddiffinio eiddo gwag yn y dyfodol, yn hytrach na'r chwe mis presennol, a bod dangosyddion perfformiad perthnasol yn cael eu diweddaru i adlewyrchu hyn.
Rwy'n falch fod ein hargymhellion 5 a 6 ynglŷn â data wedi cael eu derbyn. Dylai'r newidiadau hyn sicrhau bod y data a gesglir yn fwy defnyddiol ac yn adlewyrchiad cywir o waith awdurdodau lleol ar fynd i'r afael â'r broblem hon. Mae gan awdurdodau lleol ystod o opsiynau gorfodi ar gael iddynt eisoes, ond clywsom nad yw defnyddio'r pwerau hynny'n syml. Anaml y defnyddir rhai o'r pwerau, a hynny'n aml oherwydd eu cymhlethdod, sydd wedi arwain at sefyllfa lle nad yw swyddogion wedi datblygu digon o arbenigedd i fod yn hyderus wrth eu defnyddio. Rydym wedi argymell y dylid datblygu ffynhonnell arbenigedd ranbarthol neu genedlaethol, a fyddai ar gael i dimau eiddo gwag ei defnyddio pan fydd ei hangen. Derbyniwyd yr argymhelliad hwn, yn ogystal â'n hargymhelliad y dylid cyflwyno hyfforddiant ar yr opsiynau gorfodi i aelodau a swyddogion awdurdodau lleol. Edrychaf ymlaen at y diweddariad rydym wedi gofyn amdano gan y Dirprwy Weinidog ynglŷn â'r cynnydd a wnaed ar ddarparu'r sesiynau hyn erbyn y Pasg y flwyddyn nesaf.
Clywsom rai enghreifftiau o waith da sy'n cael ei wneud gan landlordiaid cymdeithasol, yn enwedig Cymdeithas Tai Unedig Cymru, sydd wedi mynd ati'n rhagweithiol i sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu hailddefnyddio. Hoffem weld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector cymdeithasau tai i ddeall y cynlluniau sydd ganddo ar waith, sut y gellir rhannu arferion da a chyflwyno cynlluniau effeithiol ledled Cymru. Rwy'n croesawu ymrwymiad y Dirprwy Weinidog i gydweithio â'r sector i gyflawni hyn.
Opsiwn arall sydd ar gael i awdurdodau lleol yw gweithredu premiwm treth gyngor o hyd at 100 y cant ar eiddo gwag hirdymor. Mae hyn yn ddisgresiynol ac mae rhai awdurdodau wedi dewis cyflwyno premiwm.
Pan gyflwynwyd y polisi yn 2014, roedd y memorandwm esboniadol a oedd yn cyd-fynd â Bil Tai (Cymru) yn nodi gobaith Llywodraeth Cymru y byddai awdurdodau lleol yn defnyddio'r pwerau ychwanegol a fyddai ar gael iddynt a'r refeniw a gesglid i helpu i ddiwallu anghenion tai lleol. Clywsom fod Cyngor Gwynedd wedi penderfynu dyrannu ei refeniw ychwanegol at ddibenion tai, ond rydym yn pryderu mai ychydig o dystiolaeth a geir mewn mannau eraill fod arian yn cael ei gyfeirio yn y fath fodd.
Felly, rydym yn siomedig fod ein hargymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru archwilio'r posibilrwydd o glustnodi'r refeniw wedi'i wrthod, yn enwedig gan fod y Dirprwy Weinidog wedi mynegi awydd i ymchwilio i opsiynau o'r fath yn ei phapur tystiolaeth i ni. Er ein bod yn sylweddoli nad yw'r refeniw a gesglir drwy'r dreth gyngor wedi'i neilltuo, mae'n ymddangos bod peidio â defnyddio'r arian at ddibenion tai yn mynd yn groes i nodau'r ddeddfwriaeth wreiddiol. Felly, hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog roi ystyriaeth bellach i sut y gall Llywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod yr adnodd hwn yn cael ei ddefnyddio i liniaru problemau tai.
Clywsom dystiolaeth anecdotaidd hefyd am bobl yn ceisio osgoi'r premiwm drwy wneud cais i newid categori eu heiddo gwag, naill ai drwy honni ei fod yn cael ei ddefnyddio fel llety hunanddarpar neu fod aelod o'r teulu wedi symud i mewn. Hoffem weld rhagor o wybodaeth yn cael ei chasglu ar hyn er mwyn cael gwell syniad o hyd a lled arferion o'r fath. Sylwaf fod awdurdodau lleol wedi cael eu gwahodd i gyflwyno enghreifftiau sydd ganddynt, ac edrychaf ymlaen at gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwn maes o law.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae diffyg cynnydd wedi bod o ran sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto, ond credaf y bydd ein gwaith yn cyfrannu at wneud y mater pwysig hwn yn faes blaenoriaeth. Rydym yn croesawu'r ffaith bod tîm penodol wedi'i sefydlu o fewn Llywodraeth Cymru a bod y Dirprwy Weinidog wedi derbyn bron bob un o'n hargymhellion. Rwy'n gobeithio y bydd y camau hyn yn darparu ffocws newydd ac yn arwain at newid gwirioneddol. Byddwn yn parhau i fonitro'r mater fel pwyllgor, gan gynnwys effeithiolrwydd y dull o weithredu, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael y diweddariadau y mae'r Dirprwy Weinidog wedi ymrwymo i'w darparu fel y gallwn wneud asesiadau pellach o effeithiolrwydd polisïau, timau a syniadau newydd.