– Senedd Cymru am 3:54 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Eitem 6 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar eiddo gwag. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar eiddo gwag, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad. Mae eiddo gwag yn broblem wirioneddol sy'n effeithio ar ein holl gymunedau. Mae tua 27,000 o dai gwag hirdymor ledled Cymru, felly mae angen gweithredu ar fyrder i fynd i'r afael â'r broblem. Rydym wedi gwneud 13 o argymhellion yn ein hadroddiad, ac mae 12 ohonynt wedi'u derbyn yn llawn neu mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru.
Yn ystod ein hymchwiliad, clywsom am fentrau sydd wedi cael rhywfaint o lwyddiant yn sicrhau bod eiddo'n cael ei ddefnyddio unwaith eto, ond mae'r cynnydd wedi aros yn ei unfan. Credwn fod angen dull strategol er mwyn i newid sylweddol ddigwydd. Hoffem weld Llywodraeth Cymru yn arwain ar hyn, gan ymgysylltu ag awdurdodau lleol i flaenoriaethu'r mater a deall y cymorth y gall ei ddarparu.
Rwy'n falch bod argymhelliad 1 wedi'i dderbyn. Mae hwn yn argymhelliad allweddol sy'n ymwneud â Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer mynd i’r afael ag eiddo gwag, a ddylai gynnwys pennu blaenoriaethau a thargedau. Gwnaethom argymell y dylid cyhoeddi’r cynllun gweithredu erbyn mis Hydref y flwyddyn nesaf. Bydd hwn yn gam pwysig ymlaen o ran pennu blaenoriaethau cenedlaethol a darparu'r cyfeiriad strategol y mae awdurdodau lleol ei angen i flaenoriaethu ymdrechion i fynd i'r afael â'r broblem.
Wrth gwrs, mae sicrhau bod y lefel gywir o adnoddau ar gael yn gwbl allweddol os yw awdurdodau lleol am gael eu harfogi'n llawn i fynd i'r afael â'r materion hyn. Gall cael swyddog eiddo gwag penodol wneud gwahaniaeth sylweddol; gall roi mwy o ffocws i waith yr awdurdod a chydlynu'r gweithgareddau amrywiol sy'n cael eu cyflawni ar draws adrannau. Wrth gwrs, mae pawb ohonom yn gwybod bod adnoddau'n dynn, ond mae'r effaith hirdymor y gall eiddo gwag ei chael, yn economaidd ac yn gymdeithasol, yn cyfiawnhau'r penderfyniad i nodi hwn fel maes blaenoriaeth. Clywsom gyngor arbenigol y dylai swyddog penodedig dalu am eu hunain sawl gwaith drosodd, felly mae'n cynrychioli gwerth da am arian.
Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gan awdurdodau lleol becyn cymorth sy'n angenrheidiol ar gyfer eu hanghenion ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr adnoddau sydd eu hangen erbyn mis Medi y flwyddyn nesaf.
Roeddem yn pryderu am y dystiolaeth a glywsom ynghylch defnyddioldeb data a ddefnyddir i fesur cynnydd wrth ymdrin ag eiddo gwag. Yn benodol, y ffaith nad yw'r data ond yn cynnwys eiddo ar restr y dreth gyngor, sy'n golygu nad yw'n cynnwys adeiladau segur ac eiddo amhreswyl—sydd, wrth gwrs, yn ffynhonnell i lawer o gwynion yn gysylltiedig ag eiddo.
Clywsom hefyd fod eiddo sy'n wag am dros 12 mis yn fwy problemus ac yn fwy tebygol o gael effaith negyddol ar gymdogion a chymunedau. Yn aml, byddai'r rhai a oedd yn wag am gyfnodau byrrach yn cael eu defnyddio unwaith eto heb unrhyw ymyrraeth gan yr awdurdod lleol. O ganlyniad, roeddem yn argymell defnyddio ffrâm amser o 12 mis i ddiffinio eiddo gwag yn y dyfodol, yn hytrach na'r chwe mis presennol, a bod dangosyddion perfformiad perthnasol yn cael eu diweddaru i adlewyrchu hyn.
Rwy'n falch fod ein hargymhellion 5 a 6 ynglŷn â data wedi cael eu derbyn. Dylai'r newidiadau hyn sicrhau bod y data a gesglir yn fwy defnyddiol ac yn adlewyrchiad cywir o waith awdurdodau lleol ar fynd i'r afael â'r broblem hon. Mae gan awdurdodau lleol ystod o opsiynau gorfodi ar gael iddynt eisoes, ond clywsom nad yw defnyddio'r pwerau hynny'n syml. Anaml y defnyddir rhai o'r pwerau, a hynny'n aml oherwydd eu cymhlethdod, sydd wedi arwain at sefyllfa lle nad yw swyddogion wedi datblygu digon o arbenigedd i fod yn hyderus wrth eu defnyddio. Rydym wedi argymell y dylid datblygu ffynhonnell arbenigedd ranbarthol neu genedlaethol, a fyddai ar gael i dimau eiddo gwag ei defnyddio pan fydd ei hangen. Derbyniwyd yr argymhelliad hwn, yn ogystal â'n hargymhelliad y dylid cyflwyno hyfforddiant ar yr opsiynau gorfodi i aelodau a swyddogion awdurdodau lleol. Edrychaf ymlaen at y diweddariad rydym wedi gofyn amdano gan y Dirprwy Weinidog ynglŷn â'r cynnydd a wnaed ar ddarparu'r sesiynau hyn erbyn y Pasg y flwyddyn nesaf.
Clywsom rai enghreifftiau o waith da sy'n cael ei wneud gan landlordiaid cymdeithasol, yn enwedig Cymdeithas Tai Unedig Cymru, sydd wedi mynd ati'n rhagweithiol i sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu hailddefnyddio. Hoffem weld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector cymdeithasau tai i ddeall y cynlluniau sydd ganddo ar waith, sut y gellir rhannu arferion da a chyflwyno cynlluniau effeithiol ledled Cymru. Rwy'n croesawu ymrwymiad y Dirprwy Weinidog i gydweithio â'r sector i gyflawni hyn.
Opsiwn arall sydd ar gael i awdurdodau lleol yw gweithredu premiwm treth gyngor o hyd at 100 y cant ar eiddo gwag hirdymor. Mae hyn yn ddisgresiynol ac mae rhai awdurdodau wedi dewis cyflwyno premiwm.
Pan gyflwynwyd y polisi yn 2014, roedd y memorandwm esboniadol a oedd yn cyd-fynd â Bil Tai (Cymru) yn nodi gobaith Llywodraeth Cymru y byddai awdurdodau lleol yn defnyddio'r pwerau ychwanegol a fyddai ar gael iddynt a'r refeniw a gesglid i helpu i ddiwallu anghenion tai lleol. Clywsom fod Cyngor Gwynedd wedi penderfynu dyrannu ei refeniw ychwanegol at ddibenion tai, ond rydym yn pryderu mai ychydig o dystiolaeth a geir mewn mannau eraill fod arian yn cael ei gyfeirio yn y fath fodd.
Felly, rydym yn siomedig fod ein hargymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru archwilio'r posibilrwydd o glustnodi'r refeniw wedi'i wrthod, yn enwedig gan fod y Dirprwy Weinidog wedi mynegi awydd i ymchwilio i opsiynau o'r fath yn ei phapur tystiolaeth i ni. Er ein bod yn sylweddoli nad yw'r refeniw a gesglir drwy'r dreth gyngor wedi'i neilltuo, mae'n ymddangos bod peidio â defnyddio'r arian at ddibenion tai yn mynd yn groes i nodau'r ddeddfwriaeth wreiddiol. Felly, hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog roi ystyriaeth bellach i sut y gall Llywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod yr adnodd hwn yn cael ei ddefnyddio i liniaru problemau tai.
Clywsom dystiolaeth anecdotaidd hefyd am bobl yn ceisio osgoi'r premiwm drwy wneud cais i newid categori eu heiddo gwag, naill ai drwy honni ei fod yn cael ei ddefnyddio fel llety hunanddarpar neu fod aelod o'r teulu wedi symud i mewn. Hoffem weld rhagor o wybodaeth yn cael ei chasglu ar hyn er mwyn cael gwell syniad o hyd a lled arferion o'r fath. Sylwaf fod awdurdodau lleol wedi cael eu gwahodd i gyflwyno enghreifftiau sydd ganddynt, ac edrychaf ymlaen at gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwn maes o law.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae diffyg cynnydd wedi bod o ran sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto, ond credaf y bydd ein gwaith yn cyfrannu at wneud y mater pwysig hwn yn faes blaenoriaeth. Rydym yn croesawu'r ffaith bod tîm penodol wedi'i sefydlu o fewn Llywodraeth Cymru a bod y Dirprwy Weinidog wedi derbyn bron bob un o'n hargymhellion. Rwy'n gobeithio y bydd y camau hyn yn darparu ffocws newydd ac yn arwain at newid gwirioneddol. Byddwn yn parhau i fonitro'r mater fel pwyllgor, gan gynnwys effeithiolrwydd y dull o weithredu, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael y diweddariadau y mae'r Dirprwy Weinidog wedi ymrwymo i'w darparu fel y gallwn wneud asesiadau pellach o effeithiolrwydd polisïau, timau a syniadau newydd.
Fel y dywed ein hadroddiad, mae tua 27,000 o gartrefi sector preifat yng Nghymru wedi bod yn wag am fwy na chwe mis. Nodwyd gennym fod llawer o berchnogion,
'nad ydynt yn dymuno gweld eu heiddo yn gorwedd yn segur a dylid eu cynorthwyo i’w hailddefnyddio. Pan fydd ymdrechion i fynd i’r afael â’r broblem yn methu’n anffurfiol, mae gan awdurdodau lleol bwerau i ymdrin ag eiddo gwag; ond nid yw hyn yn fater syml.’
Fel y clywsom, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn 10 o'n 13 argymhelliad. Bydd cael cynllun gweithredu cenedlaethol ar waith, mabwysiadu dulliau cymunedol go iawn, mesurau atebolrwydd a sefydlu ffynhonnell o arbenigedd cyfreithiol i dimau eiddo gwag gael mynediad ati yn allweddol. Fel y dywedasom, dylai hyn gynnwys gwaith i ddeall yr effeithiau y gall cael swyddog penodol â chyfrifoldeb am eiddo gwag eu cael, a bydd hyfforddiant i swyddogion ac aelodau o awdurdodau lleol ar yr opsiynau gorfodi sydd ar gael yn hanfodol, ynghyd â darparu atebion cyllido hyblyg sy'n sensitif i anghenion lleol a chynorthwyo perchnogion eiddo.
Fel cyn aelod o fwrdd gwirfoddol cymdeithas dai, rwy’n croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru i’r ffaith bod cymdeithasau tai yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto, ond bydd angen inni weld tystiolaeth eu bod wedi'u cynnwys yn iawn gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.
Er bod Llywodraeth Cymru yn gwrthod clustnodi refeniw a gesglir gan awdurdodau lleol trwy bremiwm y dreth gyngor ar gartrefi gwag at ddibenion tai, rhaid inni weld tystiolaeth fod awdurdodau lleol wedi cael eu hannog i ddefnyddio'r cyllid i fynd i'r afael ag anghenion y cyflenwad tai lleol.
Mae'n destun gofid mawr nad yw Llywodraeth Cymru ond wedi cytuno mewn egwyddor i'n hargymhelliad eu bod yn cynnal adolygiad gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru o'r pwerau gorfodi statudol cyfredol sydd ar gael i awdurdodau lleol fynd i'r afael ag eiddo gwag er mwyn eu symleiddio a'u gwneud yn fwy effeithiol.
Mae'n destun pryder hefyd nad ydynt ond wedi cytuno mewn egwyddor i'n hargymhelliad eu bod hwy a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cynnal ymarfer i asesu a yw perchnogion ail gartrefi yn osgoi talu premiwm y dreth gyngor trwy gofrestru eu heiddo'n ffug fel busnes hunanarlwyo neu honni bod aelod o'r teulu wedi symud i mewn. Gwnaethpwyd honiadau difrifol wrthym ynglŷn â hyn ac mae angen y ffeithiau arnom, yn enwedig lle gallai hyn gynnwys gweithgaredd twyllodrus.
Fodd bynnag, fel y dywedais pan oeddem yn trafod Cyfnod 3 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, mae perygl mai perchnogion ail gartrefi sydd wedi rhoi eu cynilion bywyd tuag at wireddu eu breuddwydion fydd yn cael eu taro galetaf gan bremiwm y dreth gyngor, ac sydd felly'n gosod eu hail gartrefi ar rent yn hytrach na'u colli, pan na fydd yn effeithio ar y bobl sy'n gallu ei fforddio. Wrth ymateb i mi yn y pwyllgor, nododd cynrychiolydd Cyngor Gwynedd:
'[nid yw’r] syniad yma bod lot o'n heiddo gwag ni o dan berchnogaeth pobl o'r tu allan i Wynedd ddim… yn llwyr, oherwydd mae yna nifer o dai gwag yng Ngwynedd dan berchnogaeth pobl leol’
Ychwanegodd fod dros 1,000 eiddo wedi trosglwyddo. Ac fel y dywedais yma ym mis Hydref:
'gan weithio gyda'r swyddfa brisio, rhaid i Lywodraeth Cymru, felly, roi sylw i ganlyniad ei deddfwriaeth a allai fod yn anochel... ni ddylent gosbi'r cyfraniad a wneir gan fusnesau hunanddarpar... i'n heconomi dwristiaeth, na pherchnogion ail gartrefi sy'n dilyn y rheolau, ond [a orfodir] i gynhyrchu incwm ychwanegol ar sail fforddiadwyedd.’
Clywsom gan dystion yn y pwyllgor y bydd sawl awdurdod yn Lloegr yn mabwysiadu model partneriaeth ranbarthol, gan benodi swyddog rhyngddynt i rannu'r gost ac adnoddau; fod cael swyddog cartrefi gwag yn hollbwysig a bod dull strategol corfforaethol yn helpu i fynd i'r afael ag oedi a rhwystrau enfawr; fod chwe phrosiect cymunedol yn Lloegr wedi cael £3 miliwn ar gyfer adnewyddu cartrefi gwag ac wedi creu 65 o gartrefi ar gyfer pobl leol dros dair blynedd; fod angen cyllid mwy hirdymor os yw'r cynllun Troi Tai’n Gartrefi yn mynd i gyrraedd y nod; fod y bonws cartrefi newydd yn Lloegr yn sicrhau bod cartrefi a fu’n wag yn hirdymor yn cael eu defnyddio unwaith eto; fod profiant a phrofedigaeth yn yr Alban yn eithriad penodol o bremiwm y dreth gyngor; fod Cymru ar ei hôl hi yng nghyd-destun y safon tai addas symlach a fabwysiadwyd yn yr Alban; a bod dulliau cymunedol effeithiol yn chwarae rhan allweddol oherwydd bod pobl yn teimlo eu bod yn rhan o’r broses a bod ganddynt lais go iawn yn y modd yr adnewyddir cartrefi.
Fel y dywedais yma yn 2011, gan ddyfynnu swyddog cartrefi gwag Sir Ddinbych ar y pryd, a gyllidwyd gan gymdeithasau tai yng ngogledd Cymru, mae gan bob cartref gwag stori wahanol, a'r allwedd yw deall pam y mae'n wag a gweithio'n agos gyda'r perchennog i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio unwaith eto. Diolch yn fawr.
Nid oes angen ailadrodd y ddadl ganolog yn fanwl yma. Gyda thua 27,000 o gartrefi gwag yng Nghymru, gallai sicrhau bod y rhain yn cael eu defnyddio unwaith eto wneud gwahaniaeth sylweddol i'n cyflenwad tai, yn enwedig pe gallem alluogi darparwyr tai cymdeithasol i'w prynu, eu hadnewyddu, a'u defnyddio i gartrefu teuluoedd incwm isel. Tra bod tai'n parhau’n wag mewn cymunedau, gallant fod yn falltod i’r cymunedau hynny. Ac mae'r dadleuon hyn wedi cael eu derbyn i raddau helaeth ar draws y Siambr, ac maent wedi cael eu derbyn ers cryn dipyn o flynyddoedd bellach.
Pam felly nad yw problem cartrefi gwag wedi'i datrys? Wel, yn rhannol am nad y cartrefi sy'n wag heddiw yw’r un cartrefi ag a oedd yn wag flwyddyn yn ôl. Wrth i un gael ei ddefnyddio unwaith eto, daw un arall yn wag. Ond rheswm arall yw am nad yw'r gwahanol haenau o Lywodraeth yn defnyddio'r pwerau sydd ganddynt i wneud tolc go iawn yn y broblem. Nid yw rhai awdurdodau lleol yn defnyddio'u pwerau i osod cyfraddau cosbol o’r dreth gyngor ar berchnogion eiddo gwag. Ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, mae cymaint â 14 o awdurdodau lleol yn dal i roi gostyngiad i berchnogion cartrefi gwag, ac mae bylchau yn y gyfraith sy'n golygu bod yr awdurdodau lleol sydd am godi tâl ychwanegol am gartrefi gwag wedi cael eu rhwystro rhag gwneud hynny.
Ceir rhywfaint o ddryswch hefyd. Dywedodd un cynghorydd Plaid Cymru wrthyf, mewn dadl yn y cyngor ar gael gwared ar y gostyngiad hwn, nad oedd swyddogion yn yr awdurdod lleol penodol hwnnw, nad wyf yn mynd i’w enwi, i’w gweld yn ymwybodol fod gan awdurdodau lleol bŵer nid yn unig i gael gwared ar y gostyngiad ond hefyd i osod cyfradd gosbol. A dengys hyn fod problem gyfathrebu glir rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.
At hynny, gwyddom nad oes gan bob awdurdod lleol swyddogion cartrefi gwag penodol, y dangosodd tystiolaeth ein pwyllgor eu bod yn eithaf hanfodol ar y mater hwn. Pan fydd swyddogion cartrefi gwag ar waith, nid yw pob un ohonynt yn gallu cael cymorth cyfreithiol ac ar brydiau, gall defnyddio pwerau gorfodi arwain at risg ansicr.
Mae rhwystrau eraill a amlygwyd gan ein hadroddiad yn ymwneud â'r anawsterau sy’n codi mewn awdurdodau lleol mewn perthynas â rhannu data, yn ogystal â'r adnoddau a ddefnyddir ar gyfer ymchwilio i ymdrechion i osgoi premiymau’r dreth gyngor. Gwneir nifer o argymhellion yma i fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn, er y gallem ddadlau bod un allweddol ar goll, sef bod cyni parhaus ar lywodraeth leol yn anghydnaws â llawer o’r amcanion ar yr agenda hon y mae’r mwyafrif ohonom am eu gweld.
Gobeithio bod hon yn ddadl ddefnyddiol i'r Gweinidog, pe na bai ond er mwyn sefydlu bod angen seilwaith mwy sylfaenol i gyflawni'r polisïau y mae pawb ohonom wedi'u cefnogi ac y mae pawb ohonom am eu gweld yn cael eu gweithredu.
Er nad wyf yn aelod o'r pwyllgor hwn, hoffwn eu canmol am yr hyn y credaf ei fod yn waith pwysig iawn. Bydd pawb ohonom wedi gweld canfyddiadau syfrdanol Shelter y bydd y nifer uchaf o blant ers 12 mlynedd mewn tai dros dro y Nadolig hwn ledled Prydain. Nawr, mae cyfraddau Cymru yn is nag mewn mannau eraill o'r DU ond maent yn dal i fod wedi codi dros chwarter dros y pedair blynedd diwethaf. Mae llawer o’r bai ar gyni a newidiadau lles creulon. Ond un ateb i hyn yw troi eiddo gwag yn gartrefi ac mae'n dda iawn gweld bod yr adroddiad hwn yn rhoi cyfle inni ganolbwyntio ar y cysyniad hwn heddiw. Yn fy nghyfraniad, roeddwn eisiau canolbwyntio ar yr hyn y mae fy awdurdod lleol, Rhondda Cynon Taf, yn ei wneud i fynd i'r afael â chartrefi gwag, a chrybwyllir eu strategaeth cartrefi gwag yn yr adroddiad, felly roeddwn yn meddwl y byddai'n ddefnyddiol pe bawn yn ei archwilio’n fanylach yn y Siambr.
Datblygodd y cyngor y polisi am eu bod yn cydnabod bod y cartrefi gwag yn y fwrdeistref yn gyfle i ddarparu tai fforddiadwy mawr eu hangen i breswylwyr, a hefyd am eu bod yn cydnabod y problemau a achosir gan gartrefi gwag. Gallant niweidio lles cymunedol, a pheri trallod i breswylwyr yr effeithir arnynt gan eu hymddangosiad hyll, a gweithredu fel magnedau ar gyfer trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Felly, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae cyngor Rhondda Cynon Taf wedi datblygu ystod o wahanol offer a dulliau i annog defnyddio cartrefi gwag unwaith eto. Ac fe af drwy rai o brif elfennau eu strategaeth yn sydyn.
Y cyntaf yw gweithgaredd gorfodi yn maes tai; yn ail, darparu benthyciadau Troi Tai’n Gartrefi, gan ddefnyddio cyllid ad-daladwy Llywodraeth Cymru; y trydydd yw darparu grantiau, gan ddefnyddio cyllid y cyngor ei hun, a olygodd dros £4 miliwn yn y blynyddoedd 2016-17 yn unig; yn bedwerydd, cynlluniau tai fforddiadwy sy'n sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto; pump, cyngor a chymorth i ddarpar berchnogion tai; y chweched elfen ohono yw darparu cartrefi uwchben adeiladau manwerthu yng nghanol trefi, rhywbeth a fu'n llwyddiant arbennig yn Aberdâr, gan ailddefnyddio adeiladau a fu’n wag yn y gorffennol; y seithfed yw dileu gostyngiad y dreth gyngor o 50 y cant ar gyfer cartrefi gwag, ac roedd grant cartrefi gwag disgresiynol y cyngor yn allweddol i hyn, grant sy'n cefnogi cyflawniad blaenoriaeth fuddsoddi'r cyngor a Llywodraeth Cymru o sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto.
Mae'n cynnig llety addas i bobl leol ond mae hefyd yn helpu i adfywio cymunedau ehangach hefyd. Rhoddir meini prawf cymhwysedd cadarn ar waith hefyd i sicrhau cynaliadwyedd y cynllun. Felly, yn allweddol, er enghraifft, rhaid i ymgeiswyr fod yn ddarpar berchen-feddianwyr, nid yn landlordiaid, sy'n bwriadu byw yn yr eiddo fel eu prif breswylfa am gyfnod o bum mlynedd o leiaf. Rhaid bod yr eiddo wedi bod yn wag am gyfnod o chwe mis cyn ei brynu ac ar adeg y cais am grant, rhaid iddo fodloni anghenion tai teulu'r ymgeisydd sy'n bwriadu meddiannu'r eiddo, ac mae'n ofynnol i ymgeiswyr wneud uchafswm cyfraniad o 15 y cant o gyfanswm cost gwaith sy'n gymwys i gael grant. Gall y grant hwnnw fod yn unrhyw beth rhwng £1,000 ac £20,000, ac fe'i defnyddir wedyn i wneud yr eiddo'n saff ac yn ddiogel.
Mae'r fenter wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Ers 2016, fe'i defnyddiwyd yn uniongyrchol i sicrhau bod 165 o gartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto, ac yn gyffredinol mae dull y cyngor o fynd i'r afael â chartrefi gwag yn effeithio’n sylweddol ar nifer y cartrefi gwag ar draws y fwrdeistref. Felly, os edrychwch ar gofnodion y dreth gyngor, er enghraifft, rhwng 2017-18 a 2018-19, y cyfnod y gweithredwyd y strategaeth cartrefi gwag mewn gwirionedd, dangosant fod 671 yn llai o gartrefi gwag ar draws y fwrdeistref. Rwy'n credu bod hwnnw'n ffigur rhagorol. At hynny, yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, sicrhaodd Rhondda Cynon Taf fod cyfanswm o 213 o gartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto yn uniongyrchol yn sgil ymyrraeth y cyngor. Ar 7.4 y cant, mae'n gynnydd o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol a bron i 3 y cant yn uwch na chyfartaledd Cymru.
Mae dull Rhondda Cynon Taf o fynd i'r afael â chartrefi gwag yn feiddgar ac yn edrych tua'r dyfodol. Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod eu hymarfer fel un sy'n arwain y sector. Yn fwyaf arbennig, mae'n newyddion gwych fod Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, fel cadeirydd tasglu'r Cymoedd, wedi cytuno i ddarparu cyllid o £10 miliwn i gyflwyno grant cartrefi gwag Rhondda Cynon Taf ar draws holl awdurdodau tasglu'r Cymoedd. Bydd Rhondda Cynon Taf yn gweithredu fel y corff arweiniol ac yn cydlynu’r gwaith o ddarparu'r grant. Bydd y buddsoddiad llwyddiannus hwn yn darparu cefnogaeth bellach ac yn cyflymu nifer y cartrefi gwag sy'n cael eu defnyddio eto ar draws y Cymoedd i gyd. Roeddwn yn falch iawn o ymuno â'r Dirprwy Weinidog, y Gweinidog tai, cynghorwyr a swyddogion o Rondda Cynon Taf ar gyfer y cyhoeddiad y bydd yn cael ei gyflwyno yn Ynys-y-bŵl, ac edrychaf ymlaen at ddilyn cynnydd y polisi yn y dyfodol.
Hoffwn gofnodi fy niolch i glercod y pwyllgor a phawb a gymerodd ran yn ein hymchwiliad i eiddo gwag. Nid oeddwn ar y pwyllgor ar ddechrau'r ymchwiliad ac ni chefais gyfle i holi'r rhan fwyaf o'r tystion, ond rwy'n ddiolchgar i bawb a roddodd o'u hamser i'n goleuo.
Mae gennym argyfwng tai yng Nghymru, ac mae dros 60,000 o aelwydydd ar restr aros, ond llond dwrn yn unig o dai cymdeithasol newydd sy'n cael eu hadeiladu bob blwyddyn. Cyhoeddodd Shelter Cymru ffigurau brawychus ddoe sy'n dangos y bydd tua 1,600 o blant yn treulio'r Nadolig mewn llety dros dro oherwydd digartrefedd, nifer sydd wedi codi bron i hanner mewn pedair blynedd. Dangosodd data a ddatgelwyd gan ITV Cymru fis diwethaf fod ychydig dros 43,000 eiddo gwag yng Nghymru, ac fel y canfu ein pwyllgor, mae tua 27,000 eiddo preifat wedi bod yn wag ers dros chwe mis.
Gyda chymaint o deuluoedd angen cartref yn ddybryd, mae'n ofnadwy gweld cynifer o gartrefi gwag, ac yn aml gall fod yn falltod ar y dirwedd, gan annog fandaliaeth. Fodd bynnag, rhaid inni gofio hefyd y gall fod llu o resymau pam y mae eiddo'n wag. Gallai'r eiddo fod mewn profiant, sy'n gallu cymryd blynyddoedd lawer i'w ddatrys. Pan ddaw allan o brofiant, efallai y bydd y perchnogion newydd yn cael trafferth gwerthu ac yn methu talu'r bil treth etifeddiant. Yn aml, gall landlordiaid ei chael hi'n anodd dod o hyd i denantiaid, sy'n golygu y gall eu heiddo fod yn wag am fisoedd. Gall eiddo gael ei adael yn wag am na all y perchennog fforddio'r bil atgyweirio i bobl allu byw yn yr eiddo. Ac rwy'n derbyn y gall fod problem gyda chartrefi gwyliau, ond mae'r rhain yn rhan lai o'r darlun cyfan, a gyda datblygiadau megis Airbnb, mae eiddo o'r fath wedi dod yn llai gwag.
Yn Rhondda Cynon Taf y mae'r nifer fwyaf o gartrefi gwag, nid ar y traeth, felly mae cynifer o achosion pam fod eiddo'n wag fel na allwn fynd ati i chwilio am un ateb i bawb. Rhaid inni hefyd ddefnyddio'r abwyd yn fwy na'r ffon, ac mae Llywodraethau'n sôn yn aml am gamau gorfodi a chosbi perchennog eiddo gwag drwy drethi eiddo caeth, ac nid yw dull o'r fath yn helpu'r rhai sy'n cael trafferth gydag eiddo na allant ei ddefnyddio neu na allant ei werthu ac mae diffyg cymorth cyfreithiol o ran gorfodaeth yn gwneud bywyd y swyddog gorfodi'n anos. Dyna pam rwy'n cefnogi trydydd argymhelliad y pwyllgor: gall swyddog penodol sydd â chyfrifoldeb dros eiddo gwag gysylltu â pherchennog eiddo a chanfod y rhesymau pam ei fod yn wag. Gyda'i gilydd, gallant ddod o hyd i atebion, boed yn gymorth i wneud yr eiddo'n addas i bobl fyw ynddo neu ganiatáu i gyngor neu landlord cymdeithasol cofrestredig brynu'r eiddo i'w ddefnyddio fel eiddo rhent cymdeithasol. Mae disgresiwn cyngor ar gartrefi gwag yn amrywio o gyngor i gyngor, sy'n peri ansicrwydd i'r perchennog ac i weithiwr cyngor, ond yr ymateb difeddwl yn aml yw dweud y bydd yr eiddo hwn yn datrys ein hargyfwng tai, a byddai'n wych pe bai'n gwneud hynny, ond a bod yn realistig, bydd yn helpu i fynd i'r afael â'r angen am dai os gallwn ddefnyddio'r eiddo, ond nid yw hynny'n rhyddhau llywodraethau olynol o'u methiant truenus i ddarparu digon o dai fforddiadwy.
Bydd argymhellion y pwyllgor yn mynd beth o'r ffordd tuag at fynd i'r afael â phroblem cartrefi gwag. Nid oes neb am weld eiddo gwag, yn enwedig perchnogion y cyfryw eiddo. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi argymhellion y pwyllgor. Diolch.
Siaradaf fel rhywun nad yw'n aelod o'r pwyllgor, ond rwy'n cael y fraint o siarad am dai ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, felly mae gennyf ddiddordeb mawr yn yr adroddiad hwn. Nawr, er gwaethaf nifer o gynlluniau da a weithredwyd dros y blynyddoedd gan Lywodraeth Cymru, megis canllawiau arferion da ar gartrefi gwag, yn 2010 rwy'n credu, a chyflwyno'r cynllun Troi Tai'n Gartrefi, ymddengys nad ydym eto wedi datrys y broblem, ac yn wir, efallai fod cynnydd wedi arafu ychydig. Felly, rwy'n credu ei bod yn briodol iawn ein bod yn edrych ar y mater eto.
Rydym wedi clywed y ffigurau: tua 27,000 o gartrefi yn y sector preifat sy'n wag. Nawr, mae'n anochel y byddai nifer benodol o gartrefi yn wag ar unrhyw un adeg, ond does bosibl nad yw'r lefel hon yn llawer uwch nag elfen amrywiol o'r fath y byddech yn ei disgwyl mewn marchnad dai. Felly, mae'n rhywbeth y mae gwir angen ei ddatrys. Pan fyddwn yn ei gymharu â tharged Llywodraeth Cymru ar gyfer pum mlynedd gyfan y Cynulliad hwn i godi 20,000 o gartrefi fforddiadwy, mae'n ei roi mewn persbectif, maint yr her a nifer yr eiddo gwag sydd ar gael. Rwy'n sicr yn credu bod rhai o'r cynlluniau sydd wedi'u hawgrymu, sy'n ei gwneud yn haws pan fydd pobl yn etifeddu eiddo nad yw mewn cyflwr da iawn neu nad oes ganddynt fodd i ymdrin ag ef, ac os bydd cymdeithas dai, er enghraifft, neu'r cyngor yn gallu cynnig bargen resymol i'r perchennog i werthu'r eiddo a'i fod yn dod ar gael fel cartref cymdeithasol, dyna ffordd ddeniadol iawn yn fy marn i, a ffordd sy'n llawn dychymyg o helpu i ddatrys y broblem hon a lleihau'r perygl o ddigartrefedd hefyd neu—. Y peth arall sydd gennym—a soniodd Caroline am yr argyfwng tai ehangach—mae gennym lawer iawn o aelwydydd mewnblanedig. Aelwydydd yw'r rhain nad ydynt wedi gallu ffurfio oherwydd nad oes unrhyw dai priodol iddynt fynd iddynt. Felly, maent mewn tai anaddas, yn aml gyda'u rhieni, ac mae hyn, rwy'n credu, wedi bod yn falltod go iawn ar y genhedlaeth bresennol hon, ac un na wnaeth y rhan fwyaf ohonom ni—rhai fy oed i yn sicr—ei hwynebu pan oeddem yn ein 20au. Felly, mae angen i'r cyflenwad tai gynyddu'n sylweddol, ac mae hyn yn rhan o'r ateb.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y Ceidwadwyr Cymreig eu strategaeth dai, 'Cartrefu Cenedl', a datgelwyd ystadegau a ddangosai fod tua 4,000 o dai cymdeithasol gwag yng Nghymru ar hyn o bryd. Nawr, sylwaf yn yr adroddiad hwn ei fod yn dweud 1,400, ac mae problem gyda'r modd y byddwch yn cyfrif cartrefi gwag—beth yw'r trothwy lle dylid eu categoreiddio yn y fath fodd? Ond rwy'n credu bod problem gyffredinol ynghylch casglu data, a byddai gwella'r ystadegau yn help mawr i ni. Ac o ganlyniad, rwy'n croesawu argymhelliad 5 yn yr adroddiad hwn yn enwedig. Felly, rwy'n meddwl bod angen edrych ar hynny, a chael strategaeth—rwy'n credu bod hynny'n allweddol iawn. Rwy'n credu y dylai'r Llywodraeth fod â thargedau pendant ac ni ddylem adael i bethau lithro fel y gwnaethant ers 2010, dyweder—yr ymdrech benderfynol olaf i'n symud ymlaen ar y mater hwn. Ac rwy'n credu y dylai'r Llywodraeth anelu, er enghraifft, at sicrhau bod yr holl gartrefi cymdeithasol gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto; ni ddylid eu gadael yn wag yn hir, ac nid am dros chwe mis yn sicr. Felly, mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn ei weld cyn gynted ag y bo modd.
Rwyf hefyd yn meddwl bod problemau gyda defnyddio cronfa ddata'r dreth gyngor ei hun ar gyfer llawer o'r gwaith casglu data, oherwydd—ac rwy'n meddwl bod Caroline, eto, wedi sôn am hyn—nid yw'n dweud llawer wrthych pam y mae eiddo'n wag, a dyna sydd angen i ni ei wybod mewn gwirionedd. Ac rwy'n cymeradwyo'r sefydliad Action on Empty Homes am eu gwaith yn y maes hwn, lle maent wedi amlinellu'r nifer o resymau pam y gallai eiddo fod yn wag, ac abwyd yn hytrach na ffon sy'n mynd i wella'r sefyllfa mewn gwirionedd. Felly, mae amryw o resymau pam y mae eiddo'n mynd yn wag, ac rwy'n sicr yn meddwl bod gan y wladwriaeth ac awdurdodau lleol rôl i'w chwarae yn hyn o beth.
Rwyf am orffen drwy gymeradwyo'r pwyllgor am ei adroddiad. Mae'n ddefnyddiol iawn, ac rwy'n gobeithio y gwelwn fwy o weithredu'r math o bolisïau sydd eu hangen arnom—mae llawer ohonynt wedi cael eu derbyn bellach ers 10 mlynedd neu fwy, gyda chonsensws rhwng y pleidiau, fel y nododd Leanne yn gynharach. Felly, mae gwir angen inni fwrw iddi a gwneud hyn.
A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor a hefyd i'r Cadeirydd am ei stiwardiaeth ragorol ar hyn, fel bob amser? Roedd yn wych fod y Cadeirydd a'r pwyllgor wedi penderfynu dychwelyd at y mater hwn yn hytrach na gwthio adroddiadau blaenorol i'r naill ochr a gadael iddynt, ond yn hytrach, eu bod wedi dychwelyd ato gyda'r bwriad o annog, cynorthwyo, dangos i'r Llywodraeth lle mae angen inni wneud cynnydd o hyd. Ac rwy'n credu ei bod yn werth i bwyllgorau wneud hynny'n arfer—ailedrych ar y gwaith y maent wedi'i wneud. Hoffwn ddiolch hefyd i'r holl dystion a ddaeth ger ein bron a rhoi gymaint o'u hamser a'u harbenigedd hefyd.
Aeth Vikki, fy nghyd-Aelod—rydym yn rhannu awdurdod lleol yn Rhondda Cynon Taf—drwy'r arferion da a gyflawnwyd yno, a'r ffaith bod Rhondda Cynon Taf yn cael ei weld yn awr fel esiampl i'w dilyn gan Lywodraeth Cymru. Ac mewn gwirionedd, caiff y gwaith y mae wedi'i wneud ei gyflwyno bellach ar draws ardal tasglu Cymoedd de Cymru. Yn wir, mae'n debyg ei fod ychydig ar y blaen yn hyn o beth. Cyfeirir at lawer o bethau yn yr adroddiad mewn perthynas â'r dull o weithredu dan arweiniad arbenigwyr, y cyswllt â'r gymuned, gan gynnwys gydag elfennau megis mentrau tai cydweithredol a mentrau dan arweiniad y gymuned hefyd. Maent wedi mynd o'n blaenau ni yma, ac maent yn dangos y ffordd yn dda iawn. Felly, gwyddom y gellir ei wneud, ac maent wedi defnyddio pob arf sydd ar gael iddynt, nid pwerau gorfodi yn unig, nid cyllid grant a mecanweithiau ariannol eraill yn unig, ond gweithio gyda pherchnogion yr eiddo a'r perchen-feddianwyr yn ogystal i ddweud, 'Iawn, sut y defnyddiwn hyn, nid yn unig i adfywio cartrefi ond i adfywio cymunedau ar raddfa lawer ehangach?'
Rwy'n croesawu'r adroddiad yn fawr a'r ymateb cadarnhaol gan y Llywodraeth i hyn hefyd—mae pob un ond un o'r argymhellion wedi'u derbyn. Mae un wedi'i wrthod, a dof yn ôl at hwnnw mewn munud, ac un neu ddau wedi'u derbyn mewn egwyddor. Ond yr un sylfaenol cyntaf, yr alwad hon am gynllun gweithredu cenedlaethol—rwy'n croesawu'n fawr eich bod wedi cytuno i gyflwyno hwnnw'n gynt, ac i'w gyflwyno erbyn dyddiad—cawsom rywfaint o drafodaeth yn y pwyllgor—y credem y byddai'n un heriol. Llwyddwyd i gytuno ar fis Hydref y flwyddyn nesaf, ac roeddem yn meddwl, 'A all y Llywodraeth wneud hyn?' Nawr, rydych wedi cytuno i gyflwyno'r drafft erbyn hynny, ac rwy'n credu y gallwn fyw gyda hynny. Ac yna, ddeufis yn ddiweddarach, erbyn mis Rhagfyr—Hydref, Tachwedd, Rhagfyr—ddau fis yn ddiweddarach, cyflwyno'r un terfynol. Mae hynny'n eithaf uchelgeisiol, ond rwy'n credu ein bod yn hapus ynglŷn â hynny, ac yn enwedig ynglŷn â'r ffaith eich bod wedi cytuno i'w wneud.
O ran y dulliau dan arweiniad y gymuned, a gaf fi argymell i'r Gweinidog, wrth iddi geisio ymateb i'r hyn y mae'r pwyllgor wedi'i ddweud ac edrych ymlaen—? Cafwyd cyflwyniad rhagorol yma yn adeiladau'r Senedd y diwrnod o'r blaen, a drefnwyd, mewn gwirionedd, gan fy nghyd-Aelod, yn ei rôl fel cadeirydd yn sefydliad cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol y fenter tai Tai Fechan ar ystâd Gellideg. Dyna enghraifft o'r radd flaenaf o ymgysylltu â'r gymuned, oherwydd mae'r bobl hynny'n ymwneud â llawer mwy nag adfywio eu cartrefi, maent yn rheoli'r gwaith o adfywio eu cartrefi ar y cyd â'r awdurdod lleol, ac maent wedi sefydlu eu hunain fel cydweithfa. Nawr, mae llawer mwy o botensial yn hyn, felly byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed gan y Gweinidog, yn unol â'n cefnogaeth i'r mudiad cydweithredol a hefyd i fentrau tai dan arweiniad y gymuned, faint yn fwy y gallem ei wneud ar hyn.
Mae gennym 137 o gartrefi cydweithredol mewn chwe awdurdod lleol gwahanol yng Nghymru. Ymddengys i mi y gallai hyn fod yn rhan sylweddol o'r ateb mewn cymunedau lle mae eiddo wedi bod yn wag nid yn unig ers misoedd, ond ers blynyddoedd lawer—eu galluogi i gamu ymlaen a chymryd rheolaeth dros adfywio cartrefi a chartrefi fforddiadwy yn eu hardaloedd.
Hoffwn droi at yr arbenigedd sy'n bodoli mewn awdurdod. Mae hon yn thema gyffredin a nodwyd gennym, a dyna pam y gwnaethom gyflwyno argymhellion i gael swyddog o fewn awdurdod. Nawr, rwy'n meddwl bod y Gweinidog yn ymateb y Llywodraeth wedi derbyn hynny wrth gwrs, ond nid wyf yn siŵr eu bod wedi nodi y dylid cael swyddog ym mhob awdurdod lleol, y dylai'r holl offer fod ar gael. Felly, hoffwn wybod beth yw barn y Gweinidog ar hynny: os nad swyddog, sut y gwnawn yn siŵr fod yr arferion da y clywsom amdanynt yn digwydd ym mhob awdurdod lleol?
Mae'r arbenigedd cyfreithiol yn argymhelliad hollbwysig. Clywsom dro ar ôl tro fod pryder mewn rhai awdurdodau lleol nad oedd eu swyddogion yn gallu manteisio ar arbenigedd cyfreithiol digonol yn fewnol pan oeddent yn defnyddio rhai o'r pwerau gorfodi llymach, ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw. Rwyf hefyd yn falch nad ydym wedi gwrthod y syniad o archwilio ymhellach y gorchmynion gwerthu gorfodol y maent yn eu treialu yn yr Alban. Mae ymateb y Llywodraeth yn peri penbleth i mi:
'Rydym yn hapus i adolygu’r Gorchymyn Gwerthu Gorfodol mewn ymgynghoriad â'n cydweithwyr yn y maes cynllunio, gan ystyried a fyddai’n ymarferol ei weithredu yng Nghymru.'
Rwy'n gwybod, Weinidog, fod yn rhaid i chi edrych i weld a yw'n gweithio'n effeithiol yn yr Alban, ond dywedwyd wrthym fod potensial gwirioneddol i hyn, am ei fod yn cael gwared ar y fiwrocratiaeth a'r costau a'r risgiau i awdurdodau lleol o ddilyn trywydd y gorchmynion prynu gorfodol.
Dyma fy nghwestiwn olaf i'r Gweinidog: sut y mae hyn yn ein harwain i ymdrin ag eiddo masnachol amhreswyl hefyd—yr adeiladau lawn mor hyll hynny mewn cymunedau sy'n eiddo masnachol a adawyd yn wag flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn aml ar y ffordd i mewn i gymunedau, ac maent yn falltod go iawn ar y cymunedau hynny. A oes gwersi i'w dysgu o hyn y gallwn eu cymhwyso ar gyfer y rheini hefyd?
A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn?
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Cadeirydd a'r pwyllgor am archwiliad manwl o'r materion niferus sy'n ymwneud ag eiddo gwag, ac i'r Aelodau sydd hefyd wedi cyfrannu at yr ymchwiliad a'r ddadl heddiw. Roedd yr ymchwiliad a'r adroddiad yn fanwl ac yn ddiduedd, a bydd y dadansoddiad a'r argymhellion sy'n deillio ohono yn ein helpu i ffurfio rhaglen gynhwysfawr a chynhwysol i gefnogi ein gwaith ar wella gorfodaeth.
Rydym am i'r rhaglen ei gwneud yn norm, yn hytrach nag yn eithriad, i fynd i'r afael ag eiddo gwag drwy orfodaeth. Rydym am ddatblygu gwybodaeth a gallu a'i gwneud yn glir i berchnogion eiddo o'r fath nad yw'r malltod hwn ar ein cymunedau a'n trefi yn dderbyniol mwyach ac y byddwn yn eu targedu. O'r herwydd, rydym yn derbyn neu'n derbyn mewn egwyddor—fel y clywsom—y rhan fwyaf o argymhellion y pwyllgor a gyfeiriwyd at Lywodraeth Cymru. Mae ein sail resymegol wedi'i nodi'n fanylach yn fy ymateb ffurfiol i'r adroddiad, felly nid fy mwriad y prynhawn yma yw ailadrodd yr ymateb hwnnw'n fanwl iawn.
Ond wrth roi'r agenda hon ar waith, ein her gyntaf fel Llywodraeth yw creu amgylchedd ar gyfer cydweithredu. Gwyddom fod adnoddau o dan bwysau, ac yn aml, gall mynd i'r afael ag eiddo gwag gael ei weld, neu mae wedi cael ei weld, fel rhywbeth sy'n 'braf i'w gael' yn hytrach na'i fod yn cynnal gwasanaethau statudol allweddol megis iechyd, gofal cymdeithasol, addysg ac yn y blaen. Ond mae'n bwysig sefydlu'r amodau lle mae ein partneriaid cyflenwi yn gweld budd y gwaith, boed drwy lai o achosion o gwynion yn ymwneud â diogelwch, iechyd yr amgylchedd neu, fel y clywsom heddiw, ymddygiad gwrthgymdeithasol, sy'n aml yn ymddangos fel pe bai'n tynnu at neu'n ymgynnull o amgylch eiddo gwag. Mae effaith ganlyniadol i hyn oll ar ein cymunedau a hefyd ar lwyth gwaith swyddogion, a gellid mynd i'r afael â hyn drwy ymyrraeth gynnar ar eiddo gwag.
Mae angen inni chwalu'r rhwystrau mewnol ac allanol i ymdrin ag eiddo gwag drwy ddod o hyd i ffyrdd gwell o weithio, darparu atebion pwrpasol a nodi sut y gall awdurdodau lleol weithio'n fwy clyfar ac yn fwy effeithlon. I gefnogi hyn, mae Llywodraeth Cymru yn caffael arweinydd diwydiant i weithredu pecyn hyfforddi cynhwysfawr ac i gynorthwyo i weithredu cynlluniau gweithredu lleol. Rydym am ddatblygu sgiliau pob un o'n hawdurdodau i fod mor effeithiol ac effeithlon ag sy'n bosibl wrth ymdrin â'r eiddo gwag yn eu hardaloedd, gan greu cronfa heb ei hail o arbenigedd, lle mae awdurdodau'n cydweithio ar ffyrdd arloesol o weithio, yn hytrach na'u bod yn teimlo her efallai, neu reidrwydd i fod yn ymosodol. Ond i fod yn glir, nid yw'r dull newydd hwn yn adlewyrchiad o berfformiad yn y gorffennol, ac mae'n ymwneud mwy â sut rydym eisiau ailsefydlu ein dull o weithio gyda'n gilydd yng Nghymru i fynd i'r afael â'r broblem hon.
Bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar ddarparu'r offer a'r adnoddau cywir i gyflawni hyn, a bydd tîm mwy hyderus yn gallu creu atebion mwy arloesol a nodi cysylltiadau gwell er mwyn mynd i'r afael â'r problemau rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Rydym wedi ymrwymo i nodi'r bylchau hyn, dod o hyd i'r arfau cywir, a chefnogi ein partneriaid i deithio ar hyd y llwybr problemus hwn. Er enghraifft, rydym wrthi'n adolygu cylchlythyr a llawlyfr gweithredu'r gorchymyn prynu gorfodol er mwyn galluogi awdurdodau lleol i wneud y defnydd gorau o'r dulliau sydd ar gael iddynt i geisio sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto.
Rwy'n credu bod yn rhaid i bobl a lleoedd fod yn ganolog i'r hyn a wnawn. Mae gwybodaeth a dealltwriaeth leol yn aml yn adnodd nad yw'n cael ei werthfawrogi na'i ddefnyddio'n ddigonol yn fy marn i, ac mae angen inni wneud yn siŵr fod mwy o gynigion yn cynnwys y gymuned er mwyn cynyddu cynaliadwyedd ac atebolrwydd ein cynlluniau, a bod angen nodi mwy o atebion yn y gymuned a chreu llwyfan ar gyfer arferion gorau, a pharhau i feithrin yr adnodd hwn fel bod gan ein partneriaid cyflenwi fwy o opsiynau ar gael iddynt. Rydym wedi clywed heddiw am fenter gydweithredol Tai Fechan, ac mae'n rhywbeth rydym yn awyddus i'w archwilio'n fanylach o ran sut y gallem edrych ar hynny a defnyddio hynny. Rwy'n deall fy mod i fod i gyfarfod â chynrychiolwyr yr wythnos nesaf i weld sut y gallwn fynd â hyn ymhellach.
A wnaiff y Gweinidog ildio yn y fan honno? Tybed a fyddai'r Gweinidog yn edrych yn ogystal ar fodelau adfywio ymddiriedolaethau cymunedol llai o faint. Bûm yn ymwneud â'r rhain yn y gorffennol, ac ar lefel y stryd, mae eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth leol, a rhai pobl sydd â bwriadau da—os oes ganddynt yr arbenigedd iawn y tu ôl iddynt a'r cymorth ariannol cywir i'w roi ar ben ffordd, mawredd, gallant wneud gwaith aruthrol yn eu hardaloedd, o ran gwaith adfywio. Felly, y tu hwnt i ymwneud y cwmnïau cydweithredol mwy o faint a'r cymdeithasau tai, mae potensial gan yr ymddiriedolaethau cymunedol llai hyn hefyd yn fy marn i.
Yn bendant, ac mae'n ymwneud â darparu'r cymorth a'r atebion pwrpasol, felly, os oes gan unrhyw Aelodau yn y Siambr enghreifftiau yn eich etholaethau neu'n lleol, cysylltwch â ni a'u bwydo i mewn i wneud yn siŵr y gallwn ddefnyddio'r arbenigedd ac adeiladu arno.
Hyd yn hyn, rwyf wedi amlinellu'r hyn a wnawn i gefnogi ein partneriaid, ond i fod yn glir, nid yw'r cymorth hwn yn golygu ein bod yn camu'n ôl, ond yn hytrach y byddwn yn sefyll yn gadarn. Neges y Llywodraeth i berchnogion eiddo gwag yw: gweithiwch gyda ni ac fe weithiwn ni gyda chi a'ch helpu i gael adnoddau fel sy'n briodol i allu sicrhau bod eich eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto, ond os nad ydych yn ymwneud â ni ac yn meddwl y gallwch barhau fel rydych chi, fe fyddwch yn camgymryd yn arw, a byddwn yn rhoi unrhyw gamau fydd eu hangen ar waith.
Byddwn yn rhoi cymaint o gymorth ag sydd ei angen i'r awdurdodau lleol gyflawni cymaint o gamau gorfodi ag y bo angen, a bydd y canlyniad yr un fath, ond dewis y perchnogion eiddo gwag yw sut y maent yn dymuno cyrraedd yno.
A wnewch chi ildio? Gan gyfeirio at y sylwadau blaenorol ynghylch ymddiriedolaethau cymunedol, yn y gorffennol, roedd gan Lywodraeth Cymru raglen ar gyfer hyn a gyflwynwyd gyda Keith Edwards yn Sefydliad Tai Siartredig Cymru, pan oedd yn gyfarwyddwr, a gyda Chanolfan Cydweithredol Cymru. Euthum i lansiad y rhaglen yng Ngorllewin Rhyl, er enghraifft, a châi ei gweithredu ar y cychwyn gan gymdeithas dai, gyda'r nod o drosglwyddo i ymddiriedolaeth gymunedol, ond roedd y problemau a wynebwyd yn deillio o fethiant ar y dechrau i ymgysylltu'n briodol ac yn gydgynhyrchiol gyda'r gymuned leol honno, ac rwy'n gobeithio eich bod yn cytuno bod yn rhaid i hynny ddod yn gyntaf.
Yn hollol. Fel y dywedais yn gynharach, rwy'n meddwl bod gwybodaeth leol—nid gwybodaeth leol yn unig sy'n aml yn adnodd nad yw'n cael ei weithredu a'i ddefnyddio'n ddigonol, ond os ydym am sicrhau bod yr atebion hyn yn gweithio ar ran y cymunedau lle maent wedi'u lleoli, mae angen i'r gymuned fod yn rhan iawn o hynny. Felly, wrth fwrw ymlaen â'r cam gweithredu hwn, byddwn yn cefnogi awdurdodau i ddod yn ffynhonnell o niwsans cyson fel rwy'n ei ddisgrifio—niwsans cyson i'r rhai nad ydynt yn dymuno ymgysylltu neu sy'n credu ei bod yn iawn iddynt wneud cyn lleied â phosibl. Ac fel rhan o hyn, rydym yn mynd i'r afael â sut y gallwn weithredu cosbau llymach a nodi llwybrau mwy llwyddiannus ar gyfer gorfodi.
Dywedodd Cadeirydd y pwyllgor wrth agor fod eiddo gwag yn broblem sy'n effeithio ar ein holl gymunedau, ac nid wyf yn credu bod yna gynrychiolydd etholedig yma neu'r tu allan i'r lle hwn sydd heb gael pobl yn dwyn y broblem hon i'w sylw, neu heb gael sylwadau yn ei chylch. Wrth gloi, rwyf am ailddatgan bod y Llywodraeth hon yng Nghymru yn croesawu'r adroddiad yn fawr, adroddiad sydd, yn ffodus, yn atgyfnerthu rhai o'r camau rydym yn eu cymryd a'r cynlluniau sydd ar y gweill. Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor unwaith eto am ei ganfyddiadau, ac rwy'n falch fy mod i a fy swyddogion wedi gallu chwarae rhan a oedd yn adeiladol ac yn gynhyrchiol, gobeithio, ac edrychaf ymlaen at fwrw ymlaen â'r gwaith fel nad yw Cymru mwyach yn wlad lle caiff eiddo gwag ei adael i bydru, i ddod yn falltod ar ein cymunedau, ac i effeithio ar ein balchder mewn lleoedd. Rydym yn gweithredu ac fe fyddwn yn gweithredu.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar John Griffiths i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb a gymerodd ran? Rwy'n credu ei bod yn glir fod consensws cryf ynglŷn â phwysigrwydd y materion hyn, a hefyd, yn gyffredinol, y math o gamau sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael â hwy. Ond roedd rhywfaint o gonsensws hefyd, rwy'n credu, ynglŷn â'r ffaith fod y consensws rwyf newydd ei ddisgrifio wedi bod yno ers cryn dipyn o amser, ond nid ydym wedi gweld parhad o'r cynnydd a fu'n digwydd dros y blynyddoedd diwethaf mewn gwirionedd. Felly, mae angen inni gryfhau ein hymdrechion ac adnewyddu ein ffocws, ac rwy'n gobeithio'n fawr iawn y bydd yr adroddiad hwn yn gatalydd i hynny.
Dechreuodd Mark Isherwood drwy sôn am yr angen i weithio gyda pherchnogion a deall eu hamgylchiadau unigol. A chredaf i hynny gael ei gyfleu'n gadarn yn y dystiolaeth a gawsom mai dyna yw dull yr awdurdodau lleol o weithredu. Yn y lle cyntaf, mae'n amlwg eu bod am weithio gyda pherchnogion yn hytrach nag ymdrin â phroblemau mewn ffordd lawdrwm. Maent am weithio gyda pherchnogion, deall eu hamgylchiadau, a gweld a allant helpu i sicrhau bod yr eiddo'n cael ei ddefnyddio unwaith eto. Ond yn amlwg, ni fydd hynny bob amser yn bosibl, a dyna pam rwy'n croesawu'r ymrwymiad a roddodd y Gweinidog tuag at ddiwedd ei haraith fod rhaid gweithio gyda pherchnogion mewn modd mor effeithiol â phosibl, ond os na fydd rhai perchnogion—ac rwy'n siŵr mai lleiafrif fyddent—yn agored i ba awgrymiadau bynnag a pha gymorth bynnag a gynigir, yna, yn amlwg, rhaid cael dull wrth gefn sy'n galw am orfodaeth a ffordd gadarn o sicrhau bod yr eiddo'n cael eu defnyddio'n bwrpasol unwaith eto.
Siaradodd Mark hefyd am gymdeithasau tai a sut y mae angen i ymwneud â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol fod yn ddiffuant, ac unwaith eto, credaf y byddai pawb yn cytuno â hynny. Wedyn, soniodd Mark, a daeth yn ôl ato hefyd yn ei ymyriad yn ddiweddarach pan oedd y Gweinidog yn siarad, am ddull cymunedol o weithredu. Ac unwaith eto, rwy'n credu bod cryn dipyn o gefnogaeth i hynny. Cawsom enghreifftiau gwych gan Vikki Howells a Huw Irranca-Davies i ddangos sut y mae'r dulliau hynny'n dwyn ffrwyth. Rwy'n credu bod Rhondda Cynon Taf wedi cael sylw yn yr adroddiad, ac roedd yn wych gweld Vikki'n nodi rhai o elfennau eu strategaeth effeithiol, ac yn galw'n briodol am ei chydnabod a lledaenu arferion da o amgylch Cymru, buaswn yn gobeithio.
Gwn fod gan Huw gysylltiad gwych â'r sector cydweithredol a grwpiau cymunedol, a rhaid wrth ddull gweithredu o'r gwaelod i fyny o'r math hwnnw. Fel y dywedwyd, mae'n rhaid iddo fod yn ddiffuant. Mae'n rhaid iddo ymwneud â chydgynhyrchu ystyrlon o'r cychwyn cyntaf, heb unrhyw ymdeimlad fod unrhyw beth yn cael ei orfodi na diffyg didwylledd a chyfathrebu angenrheidiol.
Rwy'n credu bod Leanne wedi disgrifio rhai o'r anawsterau—Leanne Wood—gyda haenau o Lywodraeth yn rhan o hyn a methiant i ddefnyddio pwerau'n effeithiol bob amser, ac effaith cyni dros y 10 mlynedd diwethaf wrth gwrs, a diffyg adnoddau. Ac rwy'n meddwl, unwaith eto, y bydd llawer ohonom yma yn cydnabod hynny, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth a amlygwyd yn sgil gwaith y pwyllgor yn casglu tystiolaeth. Felly, rwy'n gobeithio y byddai'r hyn a ddywedodd y Gweinidog, ac ymateb ysgrifenedig y Llywodraeth, yn mynd beth o'r ffordd tuag at ddiwallu'r pryderon ynghylch y materion hynny.
Soniodd Caroline Jones am yr angen i helpu i fynd i'r afael â'r angen am dai, ac yn wir, dechreuodd Vikki Howells drwy sôn am adroddiad Shelter a pharhad y sefyllfa ofnadwy sydd gennym o ran digartrefedd, ac wrth gwrs, gallu eiddo gwag sy'n cael ei ddefnyddio unwaith eto i gyfrannu tuag at gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy. Ac mae honno'n agwedd bwysig iawn ar yr adroddiad hwn, onid yw, a'i arwyddocâd.
Soniodd David Melding am eiddo a etifeddwyd, a sut y gallai'r sector tai cymdeithasol ymgysylltu â phobl sy'n etifeddu eiddo ac sy'n cael anhawster i ddod o hyd i ffordd ymlaen i'r cartrefi hynny. Ac rwy'n meddwl bod angen dulliau arloesol ac mae angen cyflwyno llawer o syniadau, ac rwy'n croesawu'r holl syniadau a'r cynlluniau posibl sy'n cael eu cynnig.
Ac mae'n bwysig iawn, fel y dywedodd David Melding, fod gennym ddata cywir sy'n mynd i'n goleuo ynglŷn â ble rydym arni a hefyd i roi gwybod a ydym yn gwneud y math o gynnydd sy'n rhaid inni ei wneud. Felly, rwy'n credu bod ein hargymhelliad 5 yn arwyddocaol ac y bydd yn welliant pwysig ar yr hyn sydd gennym yn awr.
Rwy'n credu bod y Dirprwy Weinidog wedi rhoi sylw i lawer o'r pryderon ac wedi sôn am arwyddocâd malltod. Ac mae hynny'n ganolog i'r materion hyn, onid yw? A chlywsom hynny fel pwyllgor—fod eiddo gwag yn falltod go iawn ar gymunedau. Maent yn denu problemau iechyd yr amgylchedd, ymddygiad gwrthgymdeithasol, maent yn gwneud adfywio a buddsoddi mewn cymunedau yn anos, ac maent hefyd yn gwneud i bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny deimlo—mae eu hymdeimlad o les yn llai o ganlyniad i'r eiddo gwag a'r malltod nag y byddai fel arall. Felly, mae'n wirioneddol arwyddocaol mewn cymaint o ffyrdd. Mae rhywfaint ohono'n ymarferol iawn ac mae rhywfaint ohono'n ymwneud â delwedd ac enw da ardal. Felly, roeddwn yn falch iawn, fel y dywedais, o glywed ymrwymiad y Dirprwy Weinidog i ganolbwyntio ar y materion hyn yn awr a'u blaenoriaethu, i weithredu ar argymhellion y pwyllgor ac i ddatblygu ein safbwyntiau a'n hargymhellion.
Ac i gloi, rwy'n adleisio'r hyn a ddywedodd y Gweinidog, sef y byddai pob un ohonom, fel cynrychiolwyr etholedig, yn ymwybodol o'r materion hyn; rwy'n siŵr eu bod wedi cael eu dwyn i sylw pob un ohonom gan ein hetholwyr mewn cymorthfeydd ac fel arall, felly nid oes unrhyw un ohonom o dan unrhyw gamargraff na chamddealltwriaeth ynglŷn â'r angen i wneud cynnydd ar yr adroddiad hwn.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw i nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Iawn, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.