Part of the debate – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Fel y dywed ein hadroddiad, mae tua 27,000 o gartrefi sector preifat yng Nghymru wedi bod yn wag am fwy na chwe mis. Nodwyd gennym fod llawer o berchnogion,
'nad ydynt yn dymuno gweld eu heiddo yn gorwedd yn segur a dylid eu cynorthwyo i’w hailddefnyddio. Pan fydd ymdrechion i fynd i’r afael â’r broblem yn methu’n anffurfiol, mae gan awdurdodau lleol bwerau i ymdrin ag eiddo gwag; ond nid yw hyn yn fater syml.’
Fel y clywsom, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn 10 o'n 13 argymhelliad. Bydd cael cynllun gweithredu cenedlaethol ar waith, mabwysiadu dulliau cymunedol go iawn, mesurau atebolrwydd a sefydlu ffynhonnell o arbenigedd cyfreithiol i dimau eiddo gwag gael mynediad ati yn allweddol. Fel y dywedasom, dylai hyn gynnwys gwaith i ddeall yr effeithiau y gall cael swyddog penodol â chyfrifoldeb am eiddo gwag eu cael, a bydd hyfforddiant i swyddogion ac aelodau o awdurdodau lleol ar yr opsiynau gorfodi sydd ar gael yn hanfodol, ynghyd â darparu atebion cyllido hyblyg sy'n sensitif i anghenion lleol a chynorthwyo perchnogion eiddo.
Fel cyn aelod o fwrdd gwirfoddol cymdeithas dai, rwy’n croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru i’r ffaith bod cymdeithasau tai yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto, ond bydd angen inni weld tystiolaeth eu bod wedi'u cynnwys yn iawn gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.
Er bod Llywodraeth Cymru yn gwrthod clustnodi refeniw a gesglir gan awdurdodau lleol trwy bremiwm y dreth gyngor ar gartrefi gwag at ddibenion tai, rhaid inni weld tystiolaeth fod awdurdodau lleol wedi cael eu hannog i ddefnyddio'r cyllid i fynd i'r afael ag anghenion y cyflenwad tai lleol.
Mae'n destun gofid mawr nad yw Llywodraeth Cymru ond wedi cytuno mewn egwyddor i'n hargymhelliad eu bod yn cynnal adolygiad gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru o'r pwerau gorfodi statudol cyfredol sydd ar gael i awdurdodau lleol fynd i'r afael ag eiddo gwag er mwyn eu symleiddio a'u gwneud yn fwy effeithiol.
Mae'n destun pryder hefyd nad ydynt ond wedi cytuno mewn egwyddor i'n hargymhelliad eu bod hwy a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cynnal ymarfer i asesu a yw perchnogion ail gartrefi yn osgoi talu premiwm y dreth gyngor trwy gofrestru eu heiddo'n ffug fel busnes hunanarlwyo neu honni bod aelod o'r teulu wedi symud i mewn. Gwnaethpwyd honiadau difrifol wrthym ynglŷn â hyn ac mae angen y ffeithiau arnom, yn enwedig lle gallai hyn gynnwys gweithgaredd twyllodrus.
Fodd bynnag, fel y dywedais pan oeddem yn trafod Cyfnod 3 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, mae perygl mai perchnogion ail gartrefi sydd wedi rhoi eu cynilion bywyd tuag at wireddu eu breuddwydion fydd yn cael eu taro galetaf gan bremiwm y dreth gyngor, ac sydd felly'n gosod eu hail gartrefi ar rent yn hytrach na'u colli, pan na fydd yn effeithio ar y bobl sy'n gallu ei fforddio. Wrth ymateb i mi yn y pwyllgor, nododd cynrychiolydd Cyngor Gwynedd:
'[nid yw’r] syniad yma bod lot o'n heiddo gwag ni o dan berchnogaeth pobl o'r tu allan i Wynedd ddim… yn llwyr, oherwydd mae yna nifer o dai gwag yng Ngwynedd dan berchnogaeth pobl leol’
Ychwanegodd fod dros 1,000 eiddo wedi trosglwyddo. Ac fel y dywedais yma ym mis Hydref:
'gan weithio gyda'r swyddfa brisio, rhaid i Lywodraeth Cymru, felly, roi sylw i ganlyniad ei deddfwriaeth a allai fod yn anochel... ni ddylent gosbi'r cyfraniad a wneir gan fusnesau hunanddarpar... i'n heconomi dwristiaeth, na pherchnogion ail gartrefi sy'n dilyn y rheolau, ond [a orfodir] i gynhyrchu incwm ychwanegol ar sail fforddiadwyedd.’
Clywsom gan dystion yn y pwyllgor y bydd sawl awdurdod yn Lloegr yn mabwysiadu model partneriaeth ranbarthol, gan benodi swyddog rhyngddynt i rannu'r gost ac adnoddau; fod cael swyddog cartrefi gwag yn hollbwysig a bod dull strategol corfforaethol yn helpu i fynd i'r afael ag oedi a rhwystrau enfawr; fod chwe phrosiect cymunedol yn Lloegr wedi cael £3 miliwn ar gyfer adnewyddu cartrefi gwag ac wedi creu 65 o gartrefi ar gyfer pobl leol dros dair blynedd; fod angen cyllid mwy hirdymor os yw'r cynllun Troi Tai’n Gartrefi yn mynd i gyrraedd y nod; fod y bonws cartrefi newydd yn Lloegr yn sicrhau bod cartrefi a fu’n wag yn hirdymor yn cael eu defnyddio unwaith eto; fod profiant a phrofedigaeth yn yr Alban yn eithriad penodol o bremiwm y dreth gyngor; fod Cymru ar ei hôl hi yng nghyd-destun y safon tai addas symlach a fabwysiadwyd yn yr Alban; a bod dulliau cymunedol effeithiol yn chwarae rhan allweddol oherwydd bod pobl yn teimlo eu bod yn rhan o’r broses a bod ganddynt lais go iawn yn y modd yr adnewyddir cartrefi.
Fel y dywedais yma yn 2011, gan ddyfynnu swyddog cartrefi gwag Sir Ddinbych ar y pryd, a gyllidwyd gan gymdeithasau tai yng ngogledd Cymru, mae gan bob cartref gwag stori wahanol, a'r allwedd yw deall pam y mae'n wag a gweithio'n agos gyda'r perchennog i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio unwaith eto. Diolch yn fawr.