Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Er nad wyf yn aelod o'r pwyllgor hwn, hoffwn eu canmol am yr hyn y credaf ei fod yn waith pwysig iawn. Bydd pawb ohonom wedi gweld canfyddiadau syfrdanol Shelter y bydd y nifer uchaf o blant ers 12 mlynedd mewn tai dros dro y Nadolig hwn ledled Prydain. Nawr, mae cyfraddau Cymru yn is nag mewn mannau eraill o'r DU ond maent yn dal i fod wedi codi dros chwarter dros y pedair blynedd diwethaf. Mae llawer o’r bai ar gyni a newidiadau lles creulon. Ond un ateb i hyn yw troi eiddo gwag yn gartrefi ac mae'n dda iawn gweld bod yr adroddiad hwn yn rhoi cyfle inni ganolbwyntio ar y cysyniad hwn heddiw. Yn fy nghyfraniad, roeddwn eisiau canolbwyntio ar yr hyn y mae fy awdurdod lleol, Rhondda Cynon Taf, yn ei wneud i fynd i'r afael â chartrefi gwag, a chrybwyllir eu strategaeth cartrefi gwag yn yr adroddiad, felly roeddwn yn meddwl y byddai'n ddefnyddiol pe bawn yn ei archwilio’n fanylach yn y Siambr.
Datblygodd y cyngor y polisi am eu bod yn cydnabod bod y cartrefi gwag yn y fwrdeistref yn gyfle i ddarparu tai fforddiadwy mawr eu hangen i breswylwyr, a hefyd am eu bod yn cydnabod y problemau a achosir gan gartrefi gwag. Gallant niweidio lles cymunedol, a pheri trallod i breswylwyr yr effeithir arnynt gan eu hymddangosiad hyll, a gweithredu fel magnedau ar gyfer trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Felly, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae cyngor Rhondda Cynon Taf wedi datblygu ystod o wahanol offer a dulliau i annog defnyddio cartrefi gwag unwaith eto. Ac fe af drwy rai o brif elfennau eu strategaeth yn sydyn.
Y cyntaf yw gweithgaredd gorfodi yn maes tai; yn ail, darparu benthyciadau Troi Tai’n Gartrefi, gan ddefnyddio cyllid ad-daladwy Llywodraeth Cymru; y trydydd yw darparu grantiau, gan ddefnyddio cyllid y cyngor ei hun, a olygodd dros £4 miliwn yn y blynyddoedd 2016-17 yn unig; yn bedwerydd, cynlluniau tai fforddiadwy sy'n sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto; pump, cyngor a chymorth i ddarpar berchnogion tai; y chweched elfen ohono yw darparu cartrefi uwchben adeiladau manwerthu yng nghanol trefi, rhywbeth a fu'n llwyddiant arbennig yn Aberdâr, gan ailddefnyddio adeiladau a fu’n wag yn y gorffennol; y seithfed yw dileu gostyngiad y dreth gyngor o 50 y cant ar gyfer cartrefi gwag, ac roedd grant cartrefi gwag disgresiynol y cyngor yn allweddol i hyn, grant sy'n cefnogi cyflawniad blaenoriaeth fuddsoddi'r cyngor a Llywodraeth Cymru o sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto.
Mae'n cynnig llety addas i bobl leol ond mae hefyd yn helpu i adfywio cymunedau ehangach hefyd. Rhoddir meini prawf cymhwysedd cadarn ar waith hefyd i sicrhau cynaliadwyedd y cynllun. Felly, yn allweddol, er enghraifft, rhaid i ymgeiswyr fod yn ddarpar berchen-feddianwyr, nid yn landlordiaid, sy'n bwriadu byw yn yr eiddo fel eu prif breswylfa am gyfnod o bum mlynedd o leiaf. Rhaid bod yr eiddo wedi bod yn wag am gyfnod o chwe mis cyn ei brynu ac ar adeg y cais am grant, rhaid iddo fodloni anghenion tai teulu'r ymgeisydd sy'n bwriadu meddiannu'r eiddo, ac mae'n ofynnol i ymgeiswyr wneud uchafswm cyfraniad o 15 y cant o gyfanswm cost gwaith sy'n gymwys i gael grant. Gall y grant hwnnw fod yn unrhyw beth rhwng £1,000 ac £20,000, ac fe'i defnyddir wedyn i wneud yr eiddo'n saff ac yn ddiogel.
Mae'r fenter wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Ers 2016, fe'i defnyddiwyd yn uniongyrchol i sicrhau bod 165 o gartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto, ac yn gyffredinol mae dull y cyngor o fynd i'r afael â chartrefi gwag yn effeithio’n sylweddol ar nifer y cartrefi gwag ar draws y fwrdeistref. Felly, os edrychwch ar gofnodion y dreth gyngor, er enghraifft, rhwng 2017-18 a 2018-19, y cyfnod y gweithredwyd y strategaeth cartrefi gwag mewn gwirionedd, dangosant fod 671 yn llai o gartrefi gwag ar draws y fwrdeistref. Rwy'n credu bod hwnnw'n ffigur rhagorol. At hynny, yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, sicrhaodd Rhondda Cynon Taf fod cyfanswm o 213 o gartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto yn uniongyrchol yn sgil ymyrraeth y cyngor. Ar 7.4 y cant, mae'n gynnydd o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol a bron i 3 y cant yn uwch na chyfartaledd Cymru.
Mae dull Rhondda Cynon Taf o fynd i'r afael â chartrefi gwag yn feiddgar ac yn edrych tua'r dyfodol. Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod eu hymarfer fel un sy'n arwain y sector. Yn fwyaf arbennig, mae'n newyddion gwych fod Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, fel cadeirydd tasglu'r Cymoedd, wedi cytuno i ddarparu cyllid o £10 miliwn i gyflwyno grant cartrefi gwag Rhondda Cynon Taf ar draws holl awdurdodau tasglu'r Cymoedd. Bydd Rhondda Cynon Taf yn gweithredu fel y corff arweiniol ac yn cydlynu’r gwaith o ddarparu'r grant. Bydd y buddsoddiad llwyddiannus hwn yn darparu cefnogaeth bellach ac yn cyflymu nifer y cartrefi gwag sy'n cael eu defnyddio eto ar draws y Cymoedd i gyd. Roeddwn yn falch iawn o ymuno â'r Dirprwy Weinidog, y Gweinidog tai, cynghorwyr a swyddogion o Rondda Cynon Taf ar gyfer y cyhoeddiad y bydd yn cael ei gyflwyno yn Ynys-y-bŵl, ac edrychaf ymlaen at ddilyn cynnydd y polisi yn y dyfodol.