Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Nid oes angen ailadrodd y ddadl ganolog yn fanwl yma. Gyda thua 27,000 o gartrefi gwag yng Nghymru, gallai sicrhau bod y rhain yn cael eu defnyddio unwaith eto wneud gwahaniaeth sylweddol i'n cyflenwad tai, yn enwedig pe gallem alluogi darparwyr tai cymdeithasol i'w prynu, eu hadnewyddu, a'u defnyddio i gartrefu teuluoedd incwm isel. Tra bod tai'n parhau’n wag mewn cymunedau, gallant fod yn falltod i’r cymunedau hynny. Ac mae'r dadleuon hyn wedi cael eu derbyn i raddau helaeth ar draws y Siambr, ac maent wedi cael eu derbyn ers cryn dipyn o flynyddoedd bellach.
Pam felly nad yw problem cartrefi gwag wedi'i datrys? Wel, yn rhannol am nad y cartrefi sy'n wag heddiw yw’r un cartrefi ag a oedd yn wag flwyddyn yn ôl. Wrth i un gael ei ddefnyddio unwaith eto, daw un arall yn wag. Ond rheswm arall yw am nad yw'r gwahanol haenau o Lywodraeth yn defnyddio'r pwerau sydd ganddynt i wneud tolc go iawn yn y broblem. Nid yw rhai awdurdodau lleol yn defnyddio'u pwerau i osod cyfraddau cosbol o’r dreth gyngor ar berchnogion eiddo gwag. Ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, mae cymaint â 14 o awdurdodau lleol yn dal i roi gostyngiad i berchnogion cartrefi gwag, ac mae bylchau yn y gyfraith sy'n golygu bod yr awdurdodau lleol sydd am godi tâl ychwanegol am gartrefi gwag wedi cael eu rhwystro rhag gwneud hynny.
Ceir rhywfaint o ddryswch hefyd. Dywedodd un cynghorydd Plaid Cymru wrthyf, mewn dadl yn y cyngor ar gael gwared ar y gostyngiad hwn, nad oedd swyddogion yn yr awdurdod lleol penodol hwnnw, nad wyf yn mynd i’w enwi, i’w gweld yn ymwybodol fod gan awdurdodau lleol bŵer nid yn unig i gael gwared ar y gostyngiad ond hefyd i osod cyfradd gosbol. A dengys hyn fod problem gyfathrebu glir rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.
At hynny, gwyddom nad oes gan bob awdurdod lleol swyddogion cartrefi gwag penodol, y dangosodd tystiolaeth ein pwyllgor eu bod yn eithaf hanfodol ar y mater hwn. Pan fydd swyddogion cartrefi gwag ar waith, nid yw pob un ohonynt yn gallu cael cymorth cyfreithiol ac ar brydiau, gall defnyddio pwerau gorfodi arwain at risg ansicr.
Mae rhwystrau eraill a amlygwyd gan ein hadroddiad yn ymwneud â'r anawsterau sy’n codi mewn awdurdodau lleol mewn perthynas â rhannu data, yn ogystal â'r adnoddau a ddefnyddir ar gyfer ymchwilio i ymdrechion i osgoi premiymau’r dreth gyngor. Gwneir nifer o argymhellion yma i fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn, er y gallem ddadlau bod un allweddol ar goll, sef bod cyni parhaus ar lywodraeth leol yn anghydnaws â llawer o’r amcanion ar yr agenda hon y mae’r mwyafrif ohonom am eu gweld.
Gobeithio bod hon yn ddadl ddefnyddiol i'r Gweinidog, pe na bai ond er mwyn sefydlu bod angen seilwaith mwy sylfaenol i gyflawni'r polisïau y mae pawb ohonom wedi'u cefnogi ac y mae pawb ohonom am eu gweld yn cael eu gweithredu.