Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 10 Rhagfyr 2019.
A gaf i ddiolch i chi am eich datganiad, Gweinidog, ac i Lywodraeth Cymru am ei hymdrechion wrth geisio mynd i'r afael â'r mater hwn? Oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod nad oes gan Lywodraeth Cymru yr holl rymoedd economaidd allweddol yn y sefyllfa hon, a'ch bod wedi gweithio yn erbyn y cefndir hwnnw o gyni'r Torïaid yr ydych chi eisoes wedi cyfeirio ato, ac sydd, fel yr ydych yn gywir yn dweud, yn cynnwys diwygiadau lles didrugaredd sy'n gyfrifol am lawer o sgandal parhaus tlodi plant, ynghyd â, fel yr ydych chi eisoes wedi crybwyll, tlodi mewn gwaith llawer o rieni sy'n gweithio sydd wedi'u dal mewn swyddi ansicr â chyflogau bychain.
Nawr, o dan Lywodraeth Lafur ddiwethaf y DU, yn groes i'r hyn a glywsom ni gan Mark Isherwood yn gynharach, cafodd 600,000 o blant eu codi allan o dlodi cymharol, ond o dan y Llywodraeth Dorïaidd hon, er mawr gywilydd iddynt, rhagwelir nawr y bydd tlodi plant yn codi i'w lefel uchaf mewn 60 mlynedd. Yn wir, yn fy etholaeth fy hun ym Merthyr Tudful a Rhymni, mae tlodi plant yn dal i fod ymhlith yr uchaf yng Nghymru, er gwaethaf rhai gwelliannau sylweddol mewn ardaloedd fel y Gurnos.
Gweinidog, o ystyried mai menywod yw'r prif ofalwyr o hyd yn y rhan fwyaf o deuluoedd a chartrefi, mae'n hanfodol ein bod yn mynd i'r afael â thlodi menywod er mwyn mynd i'r afael â thlodi plant, a gwneud yn siŵr bod ein polisïau yn seiliedig ar ddealltwriaeth o'r gwahaniaethau rhwng y rhywiau o ran achosion a chanlyniadau tlodi. Ac rwyf wedi sylwi ar ychydig o ystadegau sydd, yn fy marn i, yn helpu i greu darlun o'r sefyllfa honno: mae 46 y cant o aelwydydd un rhiant yn y DU yn byw mewn tlodi, ac mae 90 y cant o rieni sengl yn fenywod. Ac mae 27.8 y cant o fenywod yn economaidd anweithgar, o gymharu ag 19.6 y cant o ddynion, ac mae hyn bedair gwaith yn fwy tebygol o fod oherwydd eu bod yn gofalu am y teulu neu eu bod gartref.
Mae 58 y cant o'r rhai sydd o oedran gweithio ac yn hawlio budd-daliadau yn fenywod hefyd, felly mae unrhyw newidiadau neu doriadau i fudd-daliadau ac unrhyw gyfnodau hir o aros am daliadau yn fwy tebygol o effeithio ar fenywod. Felly, mae mynd i'r afael â'r materion hyn yn gofyn i bob un ohonom ni yn y llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU gydweithio. Ac os ydym ni'n mynd i wneud cynnydd gwirioneddol, mae angen dwy Lywodraeth sy'n cyd-dynnu ar achos cyffredin i fynd i'r afael â thlodi. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, ar hyn o bryd, mae'n teimlo fel bod Llywodraeth Cymru yn gwario er mwyn lliniaru effeithiau tlodi plant a achosir gan bolisïau Llywodraeth y DU nad yw'n rhannu'r un angerdd a blaenoriaethau yn amlwg. Ac rwy'n gobeithio, fel chi, Gweinidog, y bydd hynny'n dod i ben ddydd Iau yr wythnos hon. Wrth ddatblygu ein camau gweithredu i fynd i'r afael â thlodi plant, a allwch chi fy sicrhau bod polisïau Llywodraeth Cymru hefyd yn rhoi sylw i rywedd, o gofio'r ystadegau y cyfeiriais atynt yn gynharach?