1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 7 Ionawr 2020.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi busnesau yng Nghanol De Cymru? OAQ54892
Lywydd, mae gweithredoedd Busnes Cymru, Banc Datblygu Cymru a sefydlu swyddfa ranbarthol benodedig ymhlith y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau yng Nghanol De Cymru.
Diolch am y diweddariad yna. Un ffactor sydd wedi achosi llawer o ansicrwydd i fusnesau yng Nghymru yw Brexit. Nawr, mae eich plaid chi newydd ymladd etholiad cyffredinol ar sail polisi o wrthwynebu Brexit. Efallai eich bod wedi sylwi, Prif Weinidog, na wnaeth y strategaeth hon weithio'n dda iawn i chi. A dweud y gwir, gadewch i ni fod yn onest, cafodd Llafur gweir go iawn. Nid yn unig y cawsoch chi eich curo; cawsoch eich dinistrio. Ond, er hyn, rwy'n gweld eich bod chi'n dal i sôn am wrthwynebu Brexit yn y fan yma yn y Cynulliad. Onid yw'n amlwg, er lles busnesau Cymru, bod angen i chi chwarae eich rhan nawr i roi diwedd ar yr ansicrwydd a chefnogi Bil Brexit Llywodraeth y DU.
Wel, Llywydd, bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr, a bydd busnesau yn canfod wedyn bod Brexit ymhell o fod drosodd, oherwydd, am fisoedd a blynyddoedd i ddod, byddwn yn parhau i weld yr angen i negodi cytundebau masnach rydd a threfniadau eraill, gyda'r Undeb Ewropeaidd a chyda rhannau eraill o'r byd. Mae gen i ofn bod unrhyw un sy'n credu y bydd sicrwydd wedi disodli ansicrwydd ar 1 Chwefror yn mynd i gael ysgytiad trist iawn.
Prif Weinidog, rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i groesawu'r newyddion ddoe bod Grŵp Bancio Lloyds yn disgwyl cefnogi cwmnïau yng Nghymru eleni trwy hyd at £1.1 biliwn mewn benthyciadau. Mae hyn yn rhan o'u haddewid i fuddsoddi £18 biliwn mewn busnesau yn y DU yn 2020, ac maen nhw'n edrych ar fusnesau newydd, microfusnesau sy'n ceisio cynyddu eu maint i fod yn fusnesau bach, a'r rhai sydd wedyn yn ystyried masnachu'n rhyngwladol am y tro cyntaf.
Pan fyddaf yn siarad â'm hetholwyr a phobl busnes, maen nhw'n tynnu sylw at yr angen i gael gafael ar ffynonellau cyllid masnachol rhesymol. Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau, pan fo hynny'n briodol, bod ffynonellau a rhaglenni Llywodraeth Cymru hefyd yn cymryd i ystyriaeth y cyfleoedd sy'n bodoli ar gyfer partneriaethau masnachol yn y rhaglenni hyn?
Diolchaf i David Melding am y cwestiwn yna. Mae'n ddiddorol, onid yw, a byddwn yn disgwyl ei fod wedi cael rhywfaint o'r un profiad, sef pan fyddwch chi'n siarad â benthycwyr masnachol, maen nhw'n dweud wrthych chi nad oes prinder hylifedd, a'u bod nhw'n rhoi symiau mawr o arian o'r neilltu ar gyfer buddsoddi mewn busnesau, ac eto, pan fyddwch chi'n siarad â busnesau, maen nhw'n aml yn cwyno am ba mor anodd yw cael y buddsoddiad sydd ei angen arnyn nhw i gyflawni'r cynlluniau y maen nhw'n ei ddweud fyddai'n ehangu eu busnesau.
Felly, rhan o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud fel Llywodraeth yw siarad â'r benthycwyr mawr i geisio eu perswadio nhw bod yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd i wahanol ffyrdd o gael sgyrsiau gyda phobl sy'n ceisio benthyg arian i'w perswadio nhw bod eu gwasanaethau ar gael iddyn nhw mewn gwirionedd.
Pan nad yw benthycwyr masnachol mawr yn barod i ymuno â'r farchnad, dyna pam mae gennym ni Fanc Datblygu Cymru—gwariwyd £5.2 miliwn yn y 12 mis diwethaf, Llywydd, gan helpu 240 o fusnesau yng Nghymru gyda micro fenthyciadau, o'r fath nad yw benthycwyr masnachol yn barod i'w cynnig. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu i geisio bod yn frocer rhwng y rhai sy'n chwilio am fuddsoddiad, a'r rhai sy'n gallu ei ddarparu ar sail fasnachol, oherwydd pan fo modd ei ddarparu'n fasnachol, dyna'r hyn y dylid ei wneud, a phan fo benthyciad masnachol yn annhebygol o fod ar gael, yna rydym ni'n ceisio defnyddio'r offerynnau sydd ar gael gennym i lenwi'r bylchau hynny yn y farchnad.
Prif Weinidog, cefais gyfarfod yn ddiweddar gyda'r Ffederasiwn Busnesau Bach i drafod eu hadroddiad 'Are We There Yet?', sy'n ystyried y ffordd orau o ddefnyddio gwariant ar seilwaith yng Nghymru i gefnogi twf busnesau bach a chanolig eu maint. Sut mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu hyn o fewn ei gwariant cyfalaf?
Diolchaf i Vikki Howells am hynna. Mae'n rhan gwbl annatod o'n rhaglenni gwariant cyfalaf ein bod ni'n ceisio gwneud yn siŵr bod cymaint o fusnes â phosibl yn cyrraedd dwylo cyflenwyr lleol a mentrau cynhenid. I roi un enghraifft yn unig i chi, mae gan raglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain hanes o weithio gyda chyflenwyr lleol, ac mae wedi datblygu cyfresi ar wahân o dargedau ar gyfer cynnwys y gadwyn gyflenwi leol yn y rhaglen honno—y rhaglen fuddsoddi fwyaf mewn ysgolion a cholegau mewn 50 mlynedd, a thuedd fwriadol o blaid gwneud yn siŵr bod arian cyhoeddus Cymru yn cyrraedd busnesau Cymru, gan greu rhagor o swyddi yng Nghymru.