Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 7 Ionawr 2020.
Wel, dŷn ni ddim wedi cael sicrwydd o gwbl am unrhyw agwedd o'r gronfa newydd, a does dim manylion ym maniffesto'r parti Ceidwadol, a dŷn ni ddim wedi clywed dim byd eto gan y Llywodraeth newydd. Dyna pam y dywedais i mae'n hollol bwysig i'r Llywodraeth newydd gyhoeddi'r manylion a siarad gyda ni am y manylion. Bydd yn rhaid i ni yma yng Nghymru—ac nid jest yn y Llywodraeth, ond gyda phob un sydd wedi bod yn rhan mor bwysig yn y ffordd rydym ni wedi gwario'r arian sydd wedi bod gyda ni o dan yr Undeb Ewropeaidd—fod yn glir am beth yw awgrymiadau'r Llywodraeth newydd, i roi sicrwydd i ni am yr egwyddorion rydym ni wedi sôn amdanynt heddiw, a chydweithio gyda ni i gynllunio cynllun effeithiol am y dyfodol.