1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 7 Ionawr 2020.
3. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Phrif Weinidog y DU ynghylch y Gronfa Ffyniant Gyffredin? OAQ54889
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Rwy'n manteisio ar bob cyfle i godi'r gronfa ffyniant gyffredin gyda Prif Weinidog y DU, ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac rwyf i wedi gwneud hynny eto ers canlyniad etholiad cyffredinol 2019.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ac mae wedi sefyll yn gadarn iawn, a hynny'n briodol, ar yr egwyddor 'dim ceiniog yn llai, dim un grym wedi'i golli' o ran y gronfa ffyniant gyffredin. Ac eto, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ychydig iawn o ymgysylltu, os o gwbl, a fu gan Lywodraeth y DU â Llywodraeth Cymru, a phrin fu'r manylion y tu hwnt i'r pennawd hwnnw. Yn y cyfamser, yn dawel ond yn ddyfal yn y cefndir, mae grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol Cymru, yr wyf i â'r fraint o'i gadeirio, wedi bod yn cwmpasu cynigion ariannu ar gyfer Cymru yn y dyfodol a fyddai'n parchu'r fframwaith polisi ar wahân yng Nghymru, yn parchu egwyddorion datganoli a sybsidiaredd yng nghyswllt Bae Caerdydd a'r Senedd hon a'r tu hwnt iddynt, a hefyd yn parchu'r angen i ymateb i flaenoriaethau lleol a rhanbarthol. Ond mae hefyd yn nodi'r angen i weithio mewn ffordd drawsffiniol ar gyllid a mentrau ar draws y DU ac yn wir ar draws Ewrop yn y dyfodol. Felly, ni fydd y Prif Weinidog yn synnu o glywed y byddai'r grŵp llywio'n croesawu ymgysylltiad llawer mwy agored a thryloyw gan Lywodraeth newydd y DU, ac Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru, o ran y gronfa ffyniant gyffredin. A wnaiff ef a'r Gweinidog Brexit geisio ymgysylltiad adeiladol ac ar frys gyda Llywodraeth y DU ar y materion hyn nawr, ond ar delerau eglur iawn dim ceiniog yn llai hefyd, fel y sicrhawyd i ni, a dim un grym wedi'i golli?
Diolchaf i Huw Irranca-Davies am hynna, ac a gaf i ddechrau, Llywydd, drwy ddiolch iddo ef ac Aelodau'r grŵp llywio am y darn o waith hynod ymgysylltiedig y maen nhw wedi cymryd rhan ynddo drwy gydol y llynedd? Gwn fod y grŵp yn bwriadu cyfarfod eto ym mis Chwefror, ac y byddwn ni'n cael ymgynghoriad ffurfiol gan ddefnyddio ei gynigion unwaith eto ym mis Mawrth, oherwydd ni all y Llywodraeth hon barhau i oedi ynghylch mater y gronfa ffyniant gyffredin yn y ffordd y gwnaeth ei rhagflaenydd oedi yn ei chylch yn barhaus.
Nawr, rwyf i wedi cael sgwrs gydag Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru, Llywydd. Rhoddodd sicrwydd i mi ei fod wedi ymrwymo i weithio mewn ffordd gydsyniol gyda'r weinyddiaeth ddatganoledig, y bydd yn chwilio am ffyrdd o gytuno ar ffyrdd ymarferol ymlaen ar faterion polisi allweddol, ac rwy'n cymryd y sicrwydd hwnnw ar ei olwg ac edrychaf ymlaen at gyfarfod ag ef i drafod y gronfa ffyniant gyffredin a materion eraill sydd o ddiddordeb i'r ddwy ochr. Ond, pan fyddwn ni'n dod i'r trafodaethau hynny, bydd yn rhaid iddo fod, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, ar sail yr egwyddorion yr ydym ni eisoes wedi eu cyfleu yn y fan yma.
Addawyd i bobl yng Nghymru a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd na fyddai Cymru yr un geiniog yn waeth ei byd. Mae'n rhaid i hynny gael ei sicrhau drwy'r gronfa ffyniant gyffredin. Datganolwyd polisi economaidd rhanbarthol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ers 1999. Nid yw'n ychwanegiad newydd at y gyfres o gyfrifoldebau sydd gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn, a phan ddaw'r gronfa ffyniant gyffredin i'r amlwg ac y caiff pawb ohonom ni gyfle i allu edrych arni'n iawn a'i thrafod, yna mae'n rhaid iddi gyflawni hynny hefyd. Ond, dylai'r cyfrifoldeb am ddefnyddio'r arian hwnnw fod mor agos â phosibl at y man lle gellir gwneud y gwahaniaeth.
Dyna'r hyn y mae'r holl lenyddiaeth yn ei ddweud wrthym ni am ddatblygu economaidd rhanbarthol, dyna mae'r OECD, yr ydym ni'n gweithio gydag ef ar hyn, yn ei ddweud wrthym ni hefyd, a dyna pam mae gwaith y grŵp llywio y mae Huw Irranca-Davies wedi ei gadeirio wedi cael ei gefnogi gan Ffederasiwn y Busnesau Bach, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Prifysgolion Cymru, CCAUC, CGGC, yn ogystal â melinau trafod y tu allan i Gymru fel Sefydliad Joseph Rowntree a'r grŵp seneddol hollbleidiol yn San Steffan. Mae ein hegwyddorion yn egwyddorion sy'n cael eu rhannu'n eang y tu hwnt i'r Siambr hon ac rydym ni'n disgwyl iddyn nhw gael eu hanrhydeddu yn y gronfa ffyniant gyffredin.
Wrth gwrs, dim ond i rannau penodol o Gymru y mae cronfeydd strwythurol yr UE ar gael, ac o ystyried yr hyn yr ydych chi newydd ei ddweud yn eich ateb blaenorol o ran bod yn ymwybodol bod arian yn cael ei wario ac yn cael ei benderfynu yma yng Nghymru, tybed, Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi bod y gronfa ffyniant gyffredin yn gyfle newydd i fuddsoddi mewn rhannau o Gymru y tu allan i'r Cymoedd a'r gorllewin—yn wir, ar gael i'w gwario mewn ardaloedd fel y canolbarth.
Wel, Llywydd, o'i wneud yn iawn, byddai gan gronfa ffyniant gyffredin y potensial i gynnig hyblygrwydd newydd yn y ffordd y gallai cyllid economaidd rhanbarthol gael ei wario yng Nghymru, ac efallai fod hynny'n ddaearyddol—er y byddai gan y rhannau hynny o Gymru sy'n elwa ar y cyllid hwnnw ar hyn o bryd yn sicr rhywbeth i'w ddweud pe bydden nhw'n credu bod y dyfodol yn un lle byddai'r cymorth y maen nhw wedi ei gael hyd yn hyn yn cael ei wanhau.
Ond, ceir ffyrdd eraill y gellid cyflwyno hyblygrwydd pe byddai'r gronfa ffyniant gyffredin yn cael ei chynllunio'n iawn, fel bod arian o Ewrop wedi bod ar gael at ddibenion penodol. Ac yna efallai bod dibenion eraill a fyddai'n cael effaith datblygu economaidd rhanbarthol mwy y gallem ni ddefnyddio cyllid ar ei gyfer mewn gwahanol fath o gronfa. Mae wedi bod yn anodd o dan gyllid Ewropeaidd weithiau i gyfuno cyllid sydd yn nwylo Llywodraeth Cymru at ddibenion eraill gyda chyllid yr Undeb Ewropeaidd, a gallai cronfa ffyniant gyffredin, o'i chynllunio yn briodol, fod yn fwy hyblyg o ran y ffordd y gellid dod â gwahanol ffrydiau ariannu at ei gilydd i gael yr effaith sydd ei hangen arnom.
Felly, nid wyf i'n anghytuno â rhagosodiad sylfaenol cwestiwn Russell George, ond o'i wneud yn iawn, mae'n bosibl y bydd hyblygrwydd newydd y gallwn ni ddod o hyd iddo. Byddai'n rhaid ei ystyried yn ofalus a chytuno arno gyda phartneriaid darparu yma yng Nghymru i wneud yn siŵr na fyddai'n cael canlyniadau negyddol anfwriadol yn ogystal ag effeithiau cadarnhaol newydd posibl.
Os gaf i wthio ychydig bach ymhellach ar hynny, rydyn ni yn symud tuag at fywyd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd rŵan, a rydyn ni'n gorfod edrych ar warchod buddiannau Cymru yn y cyd destun newydd hwnnw, a rydyn ni i gyd yn gytûn nad dim ond faint o arian ddaw yn lle arian yr Undeb Ewropeaidd sy'n bwysig, ond sut mae'r arian hwnnw yn cael ei wario. Ond, rydych chi'n sôn yn y fan yna am yr hyblygrwydd newydd a allai ddod mewn rhai meysydd. Pa sicrwydd ydych chi wedi'i gael hyd yma a pha fygythiadau ydych chi wedi sylwi arnyn nhw hyd yma ar yr egwyddor hwnnw y dylai blaenoriaethau gael eu gosod a phenderfyniadau gwariant gael eu gwneud yng Nghymru dan y gronfa newydd?
Wel, dŷn ni ddim wedi cael sicrwydd o gwbl am unrhyw agwedd o'r gronfa newydd, a does dim manylion ym maniffesto'r parti Ceidwadol, a dŷn ni ddim wedi clywed dim byd eto gan y Llywodraeth newydd. Dyna pam y dywedais i mae'n hollol bwysig i'r Llywodraeth newydd gyhoeddi'r manylion a siarad gyda ni am y manylion. Bydd yn rhaid i ni yma yng Nghymru—ac nid jest yn y Llywodraeth, ond gyda phob un sydd wedi bod yn rhan mor bwysig yn y ffordd rydym ni wedi gwario'r arian sydd wedi bod gyda ni o dan yr Undeb Ewropeaidd—fod yn glir am beth yw awgrymiadau'r Llywodraeth newydd, i roi sicrwydd i ni am yr egwyddorion rydym ni wedi sôn amdanynt heddiw, a chydweithio gyda ni i gynllunio cynllun effeithiol am y dyfodol.