Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 7 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:04, 7 Ionawr 2020

Os gaf i wthio ychydig bach ymhellach ar hynny, rydyn ni yn symud tuag at fywyd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd rŵan, a rydyn ni'n gorfod edrych ar warchod buddiannau Cymru yn y cyd destun newydd hwnnw, a rydyn ni i gyd yn gytûn nad dim ond faint o arian ddaw yn lle arian yr Undeb Ewropeaidd sy'n bwysig, ond sut mae'r arian hwnnw yn cael ei wario. Ond, rydych chi'n sôn yn y fan yna am yr hyblygrwydd newydd a allai ddod mewn rhai meysydd. Pa sicrwydd ydych chi wedi'i gael hyd yma a pha fygythiadau ydych chi wedi sylwi arnyn nhw hyd yma ar yr egwyddor hwnnw y dylai blaenoriaethau gael eu gosod a phenderfyniadau gwariant gael eu gwneud yng Nghymru dan y gronfa newydd?