Cryfhau Undeb Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 7 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:36, 7 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, fel mae ei gwestiwn yn awgrymu, ni oedd y Llywodraeth gyntaf i dynnu sylw, dros ddwy flynedd yn ôl, at yr heriau cyfansoddiadol y mae Brexit yn eu cyflwyno, ac mae'n tynnu sylw at hynny yn ei gwestiwn. Ac mae'r 20 o gynigion o ran diwygio ein hundeb yn disgrifio'r DU fel cymdeithas wirfoddol o genhedloedd. Mae Cymru'n dal yn ymrwymedig i'r gymdeithas honno, ond rhaid iddi fod yn seiliedig ar gydnabod sofraniaeth boblogaidd ym mhob rhan o'r DU, ac nid y fersiwn hen ffasiwn o sofraniaeth seneddol, a grybwyllwyd gennym yn aml. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y comisiwn cyfansoddiad, democratiaeth a hawliau, y mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i'w sefydlu o fewn y 12 mis nesaf, yn ystyried y cynigion hynny, yn hytrach na chanolbwyntio ar fuddiannau mwy cul. Nid yw'r DU, fel y mae ei gwestiwn yn ei awgrymu, wedi'i llunio mewn gwirionedd drwy unrhyw gynllun ymwybodol, ond o ganlyniad i benderfyniadau pragmatig a gwleidyddol hwylus. Ond sefydlwyd sefydliadau datganoledig Cymru, a rhannau eraill o'r DU, ar sail cefnogaeth boblogaidd, drwy refferenda, sy'n dod â'u ffynhonnell eu hunain o ddilysrwydd iddynt, a bydd hynny'n hanfodol er mwyn i Lywodraeth y DU ei gydnabod mewn unrhyw drafodaethau yn y dyfodol a thrafodaethau dros ddyfodol yr undeb.