2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru ar 7 Ionawr 2020.
1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith yn y DU ar ffyrdd o gryfhau Undeb Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon? OAQ54884
Byddaf yn trafod yn aml gyda phobl eraill ein perthynas o fewn y Deyrnas Unedig ac am gryfhau ein lle ynddi. Credwn fod Cymru ar ei hennill o fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig, a bod y Deyrnas Unedig yn well ac yn gryfach o gael Cymru ynddi.
A gaf i ddweud cymaint yw'r gefnogaeth i'r teimladau hynny ar yr ochr hon i'r Cynulliad hefyd? Efallai y clywsoch chi Brif Weinidog Cymru yn cyflwyno tystiolaeth ddoe i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn dweud y bydd Prif Weinidog y DU yn cymryd canfyddiadau adolygiad Dunlop o ddifrif, gymaint ag y gwnaiff y Llywodraeth a gomisiynodd yr adolygiad hwnnw. Ac rwy'n sylwi bod yr adolygiad hwn, wrth gwrs, yn edrych ar ffyrdd o gryfhau a chynnal yr Undeb. Ac un o'r pethau a adroddir fel canfyddiad tebygol—a dyfynnaf awdurdod mawr Herald yr Alban, yr wyf yn siŵr y bydd y cyd-Aelodau gyferbyn yn ei gael yn galonogol iawn—yw y bydd argymhelliad i ddisodli system Cyd-bwyllgor y Gweinidogion gyda strwythur rhynglywodraethol, wedi'i wasanaethu gan ysgrifenyddiaeth annibynnol, i ennyn mwy o hyder o'r gweinyddiaethau datganoledig. Bu hyn yn un o apeliadau craidd Llywodraeth Cymru, ac rwyf fi, yn y Siambr hon, wedi cymeradwyo llawer o'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i gryfhau strwythurau llywodraethu y Deyrnas Unedig, a bu cefnogaeth frwd i lawer o hynny ar yr ochr hon i'r Siambr.
Felly, a allwch chi ein sicrhau nawr y byddwch yn parhau i weithio gyda hyn mewn golwg, gan ein bod mewn maes cyfansoddiadol newydd oherwydd y ffaith y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd cyn hir, a dyna'r ysbryd y dylech fod yn cydweithio â Llywodraeth y DU ynddo, a defnyddio eich dylanwad i'r eithaf a chyflawni canlyniadau cynhyrchiol fel yr un yr ydych yn debygol o'i gyflawni pan fyddwn yn clywed argymhellion adolygiad Dunlop?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn arall yna. Rwyf wedi bod yn dilyn gyda diddordeb ei gyfres o bostiadau ar Twitter am ddyfodol yr undeb. Yr allwedd yw bod angen i'r trefniadau cyfansoddiadol ar gyfer undeb o bedair gwlad barchu hunaniaeth a dyheadau pob un o'r cenhedloedd hynny, gan warchod cyd-ddiddordeb y cyfan. Rwy'n gwybod y bydd wedi darllen cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ym mis Hydref y llynedd, 'Diwygio ein Hundeb: cydlywodraethu yn y DU', sy'n disgrifio, rwy'n credu, y math o ymgysylltu cadarnhaol y mae'r Aelod yn sôn amdano yn ei gwestiwn, sef yr ymagwedd a fu gan Lywodraeth y DU erioed at y gyfres hon o heriau—heriau sydd wedi dwysau ymhellach yng nghyd-destun y pwysau y mae Brexit wedi'i roi ar y perthnasoedd o fewn y Deyrnas Unedig.
Mae angen inni dderbyn—ac fe ddywedaf, yn benodol efallai gan Lywodraeth y DU, nad yw bob amser wedi derbyn, er gwaethaf y pwyntiau y mae wedi'u gwneud yn ei gwestiwn—yr angen am fwy o weledigaeth a rennir o ran llywodraethu'r Deyrnas Unedig yn y dyfodol, a diwylliant newydd lle yr ydym ni i gyd yn parchu ein gilydd a lle mae cydraddoldeb yn y math o gysylltiadau rhynglywodraethol sydd wedi bod yn heriol yn aml.
Rydym ni wedi gweld ar sawl achlysur y diffygion yn nhrefniadau Cyd-bwyllgor y Gweinidogion, ac mae gennym ni ddewis arall cadarnhaol ac adeiladol yn lle hynny. Os yw'r cynigion sy'n deillio o argymhellion Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn adlewyrchu'r mathau hynny o egwyddorion a chynigion, mae'n amlwg y byddwn yn croesawu hynny. Ond ynghyd â'r dull gweithredu hwnnw, mae angen i Lywodraeth y DU gydnabod bod angen inni weithredu mewn system sy'n seiliedig ar reolau, ac nid un sy'n rhoi llawer iawn o benrhyddid iddyn nhw weithredu yn y ffordd a ddewisan nhw. A'r her fydd, a'r prawf i Lywodraeth y DU fydd, ei pharodrwydd, neu fel arall, i fod yn rhan o system sy'n seiliedig ar reolau, a gytunir rhwng pedair rhan gyfansoddol y Deyrnas Unedig. Dyna'r unig ffordd i'r undeb barhau'n gynaliadwy yn y dyfodol.
Gan fod yr etholiad cyffredinol bellach yn hen hanes, mae'n amlwg bod cenhedloedd unigol y Deyrnas Unedig unwaith eto wedi dewis llwybrau gwahanol, a dim ond yn Lloegr y mae gan y Ceidwadwyr fwyafrif. Bydd Cymru unwaith eto dan reolaeth Llywodraeth Geidwadol er na phleidleisiodd dros un. Unwaith eto, mae Cymru'n cael y Llywodraeth y mae ar Loegr ei eisiau. Am faint yn rhagor y bydd Llywodraeth Cymru yn caniatáu i'r sefyllfa hon barhau? A ydych yn cytuno eich bod yn cael cyfle i ffurfio llwybr gwahanol? A pham felly nad ydych yn ymrwymo i fynnu newidiadau cyfansoddiadol sylweddol, i fynnu mwy o bwerau i'r Senedd hon fel a wnaed yn refferendwm 2011, er mwyn sicrhau y gellir cyflawni ystod o bolisïau gan Lywodraeth yr ydym ni yng Nghymru wedi'i hethol mewn gwirionedd?
Wel, efallai nad yw'r Aelod wedi dilyn y ddadl y mae'r Llywodraeth wedi bod yn ei harwain yma yng Nghymru, sydd wedi bod yn galw am ddatganoli mwy o bwerau i'r Cynulliad hwn, yn bennaf, ac yn fwyaf diweddar, ym maes cyfiawnder. Ac rwy'n gwybod ei fod yn rhannu'r dyhead hwnnw'n gryf iawn. Yng nghyd-destun yr undeb sy'n newid, mae angen dadl barhaus, ac mae cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru tua diwedd y flwyddyn ddiwethaf yn ceisio cyfrannu at y ddadl honno, ac arwain y ddadl honno. Ac rwy'n credu bod tystiolaeth yn awgrymu ein bod wedi llwyddo i newid dirnadaeth pobl o'r ddadl yma yng Nghymru, ac, i ryw raddau, dirnadaeth Llywodraeth y DU, a byddwn yn parhau i wneud hynny er budd pobl Cymru.
Waeth beth fo datblygiad hanesyddol undeb y Deyrnas Unedig, mae'r undeb fodern yn un o gydsyniad, ac mae'r cydsyniad hwnnw'n gofyn am barch ymysg llywodraethau cenedlaethol a rhanbarthol a seneddau'r Deyrnas Unedig. Ond mae'r undeb hwn hefyd yn gyfnewidiol ac yn llawn straen, sy'n gallu ei ddal gyda'i gilydd ond sy'n gallu yn yr un modd fygwth ei dynnu ar wahân, mewn ymateb i densiynau cymdeithasol ac economaidd a gwleidyddol, yng ngwahanol rannau y Deyrnas Unedig honno. Ac mae'r broses Brexit, a'r etholiadau diweddar, wedi dwysáu'r tensiynau hynny. Felly, wrth inni weld bod proses Brexit a'r etholiadau diweddar wedi dwysáu'r tensiynau hynny, a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit roi ei asesiad hyddysg i ni o'r goblygiadau i Gymru, a'r Deyrnas Unedig, o'r tensiynau hyn, yn enwedig y galw gan Blaid Genedlaethol yr Alban am refferendwm arall ar annibyniaeth yn yr Alban, ac absenoldeb parhaus llywodraeth weithredol yng Ngogledd Iwerddon? O'i safbwynt goleuedig, a ninnau newydd nodi diwedd un degawd, ac yn edrych ymlaen at un arall, a wnaiff ddweud wrthym ni: beth yw dyfodol Cymru yn y Deyrnas Unedig? Meddyliais y byddwn i'n dechrau'r flwyddyn newydd gyda chwestiwn hawdd.
Wel, fel mae ei gwestiwn yn awgrymu, ni oedd y Llywodraeth gyntaf i dynnu sylw, dros ddwy flynedd yn ôl, at yr heriau cyfansoddiadol y mae Brexit yn eu cyflwyno, ac mae'n tynnu sylw at hynny yn ei gwestiwn. Ac mae'r 20 o gynigion o ran diwygio ein hundeb yn disgrifio'r DU fel cymdeithas wirfoddol o genhedloedd. Mae Cymru'n dal yn ymrwymedig i'r gymdeithas honno, ond rhaid iddi fod yn seiliedig ar gydnabod sofraniaeth boblogaidd ym mhob rhan o'r DU, ac nid y fersiwn hen ffasiwn o sofraniaeth seneddol, a grybwyllwyd gennym yn aml. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y comisiwn cyfansoddiad, democratiaeth a hawliau, y mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i'w sefydlu o fewn y 12 mis nesaf, yn ystyried y cynigion hynny, yn hytrach na chanolbwyntio ar fuddiannau mwy cul. Nid yw'r DU, fel y mae ei gwestiwn yn ei awgrymu, wedi'i llunio mewn gwirionedd drwy unrhyw gynllun ymwybodol, ond o ganlyniad i benderfyniadau pragmatig a gwleidyddol hwylus. Ond sefydlwyd sefydliadau datganoledig Cymru, a rhannau eraill o'r DU, ar sail cefnogaeth boblogaidd, drwy refferenda, sy'n dod â'u ffynhonnell eu hunain o ddilysrwydd iddynt, a bydd hynny'n hanfodol er mwyn i Lywodraeth y DU ei gydnabod mewn unrhyw drafodaethau yn y dyfodol a thrafodaethau dros ddyfodol yr undeb.