Cryfhau Undeb Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 7 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:35, 7 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Waeth beth fo datblygiad hanesyddol undeb y Deyrnas Unedig, mae'r undeb fodern yn un o gydsyniad, ac mae'r cydsyniad hwnnw'n gofyn am barch ymysg llywodraethau cenedlaethol a rhanbarthol a seneddau'r Deyrnas Unedig. Ond mae'r undeb hwn hefyd yn gyfnewidiol ac yn llawn straen, sy'n gallu ei ddal gyda'i gilydd ond sy'n gallu yn yr un modd fygwth ei dynnu ar wahân, mewn ymateb i densiynau cymdeithasol ac economaidd a gwleidyddol, yng ngwahanol rannau y Deyrnas Unedig honno. Ac mae'r broses Brexit, a'r etholiadau diweddar, wedi dwysáu'r tensiynau hynny. Felly, wrth inni weld bod proses Brexit a'r etholiadau diweddar wedi dwysáu'r tensiynau hynny, a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit roi ei asesiad hyddysg i ni o'r goblygiadau i Gymru, a'r Deyrnas Unedig, o'r tensiynau hyn, yn enwedig y galw gan Blaid Genedlaethol yr Alban am refferendwm arall ar annibyniaeth yn yr Alban, ac absenoldeb parhaus llywodraeth weithredol yng Ngogledd Iwerddon? O'i safbwynt goleuedig, a ninnau newydd nodi diwedd un degawd, ac yn edrych ymlaen at un arall, a wnaiff ddweud wrthym ni: beth yw dyfodol Cymru yn y Deyrnas Unedig? Meddyliais y byddwn i'n dechrau'r flwyddyn newydd gyda chwestiwn hawdd.