Deddf Cymru 2017

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 7 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:38, 7 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Cwnsler Cyffredinol, yr hyn a oedd yn bwysig am Ddeddf 2017, wrth gwrs, oedd ei bod yn ymgorffori confensiwn Sewel. Fodd bynnag, fe'i hymgorfforwyd mewn ffordd lle mae amwysedd ynghylch sut i'w ddehongli ac ansicrwydd ynghylch ei statws gwirioneddol. Nawr, yn yr amgylchedd ôl-Brexit, lle rydym yn gweld pwysau cynyddol ar yr ymyrryd mewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig, ymddengys i mi fod holl statws confensiwn Sewel bellach dan fygythiad difrifol. A ydych chi'n credu mai dyma'r amser i roi ystyriaeth ddifrifol i sefydlu gweithdrefn anghydfodau rhwng cenhedloedd y DU, mewn perthynas â'r hyn sydd wedi'i ddatganoli a'r pwerau cyfrifoldeb datganoledig? Ac a ydych chi'n cytuno â mi hefyd ei bod hi bellach yn bryd ystyried y dylid rhoi confensiwn Sewel mewn diwyg sy'n rhoi sail gyfreithiol iddo?