Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 7 Ionawr 2020.
Diolch i'r Aelod am y gyfres arall yna o gwestiynau. O ran y sylw am ddatrys ac osgoi, yn ddelfrydol, wrth gwrs, anghydfodau rhwng Llywodraethau'r DU, bu hynny'n rhywbeth y bu Llywodraeth Cymru yn galw amdano ers tro byd, a bu'n fater y buom yn pwyso arno mewn trafodaethau, gyda gweinidogion a swyddogion, gyda Llywodraeth y DU a chyda Llywodraethau datganoledig eraill ledled y DU.
Mae confensiwn Sewel yn parhau i fod yn gonfensiwn pwysig iawn, iawn er nad oes sail gyfreithiol iddo. Ond mae'n rhoi cryn ryddid i Lywodraeth y DU ynghylch pa amgylchiadau sy'n arferol neu'n anarferol, sef yr allwedd i gymhwyso'r confensiwn. Nid yw hynny, yn ein barn ni, fel Llywodraeth, yn ffordd gynaliadwy ymlaen ac rydym eisiau gweld manyleb glir o'r amgylchiadau lle gallai Llywodraeth y DU, mewn cyfyngder, fwrw ymlaen â deddfwriaeth i herio diffyg cydsyniad y sefydliad hwn. Dylem ystyried gosod hynny mewn statud, a fyddai wedyn yn ei gwneud hi'n bosib cael trosolwg barnwrol ar weithrediad y confensiwn. Ond ni fydd hynny, ar ei ben ei hun, yn ddigon, mae'n ymddangos i mi, i ddatrys y broblem sy'n ein hwynebu.
Pan wrthododd Senedd yr Alban ei chydsyniad yn 2018 i Fil ymadael yr UE, ni chafodd unrhyw un o dai'r Senedd unrhyw gyfle gwirioneddol i ystyried goblygiadau bwrw ymlaen heb gydsyniad. Felly, rydym ni eisiau gweld cyfnod seneddol mwy penodol ar gyfer ystyried goblygiadau symud ymlaen heb gydsyniad sefydliad datganoledig, gan gynnwys, efallai, datganiadau gan Weinidogion y DU i'r Senedd. Wrth gwrs, mae ateb cliriach a mwy radical hefyd, sef, yn syml, sicrhau na all y Senedd ddeddfu mewn meysydd sydd wedi'u datganoli heb ganiatâd y sefydliadau datganoledig democrataidd.