Cryfhau Undeb Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 7 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:33, 7 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Gan fod yr etholiad cyffredinol bellach yn hen hanes, mae'n amlwg bod cenhedloedd unigol y Deyrnas Unedig unwaith eto wedi dewis llwybrau gwahanol, a dim ond yn Lloegr y mae gan y Ceidwadwyr fwyafrif. Bydd Cymru unwaith eto dan reolaeth Llywodraeth Geidwadol er na phleidleisiodd dros un. Unwaith eto, mae Cymru'n cael y Llywodraeth y mae ar Loegr ei eisiau. Am faint yn rhagor y bydd Llywodraeth Cymru yn caniatáu i'r sefyllfa hon barhau? A ydych yn cytuno eich bod yn cael cyfle i ffurfio llwybr gwahanol? A pham felly nad ydych yn ymrwymo i fynnu newidiadau cyfansoddiadol sylweddol, i fynnu mwy o bwerau i'r Senedd hon fel a wnaed yn refferendwm 2011, er mwyn sicrhau y gellir cyflawni ystod o bolisïau gan Lywodraeth yr ydym ni yng Nghymru wedi'i hethol mewn gwirionedd?