Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 7 Ionawr 2020.
Wel, efallai nad yw'r Aelod wedi dilyn y ddadl y mae'r Llywodraeth wedi bod yn ei harwain yma yng Nghymru, sydd wedi bod yn galw am ddatganoli mwy o bwerau i'r Cynulliad hwn, yn bennaf, ac yn fwyaf diweddar, ym maes cyfiawnder. Ac rwy'n gwybod ei fod yn rhannu'r dyhead hwnnw'n gryf iawn. Yng nghyd-destun yr undeb sy'n newid, mae angen dadl barhaus, ac mae cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru tua diwedd y flwyddyn ddiwethaf yn ceisio cyfrannu at y ddadl honno, ac arwain y ddadl honno. Ac rwy'n credu bod tystiolaeth yn awgrymu ein bod wedi llwyddo i newid dirnadaeth pobl o'r ddadl yma yng Nghymru, ac, i ryw raddau, dirnadaeth Llywodraeth y DU, a byddwn yn parhau i wneud hynny er budd pobl Cymru.