Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 7 Ionawr 2020.
Cwnsler Cyffredinol, rwy'n siŵr y bydd yr ateb hwnnw yn galonogol iawn i lawer o ddeiliaid tai ledled Cymru, gan gynnwys yn fy rhanbarth i. Er enghraifft, ym mhentref Sant Edern yng Nghaerdydd, mae llawer o drigolion wedi bod mewn anghydfod gyda'r adeiladwyr tai Persimmon ac yn teimlo'n ddig iawn bod deiliadaeth lesddaliad yn cael ei gyflwyno ar safleoedd a fyddai wedi bod yn rhydd-ddaliad gynt. Weithiau, gallwch gael cyfuniad o'r ddau ar yr un safle, gan greu gwahaniaeth rhyfeddol mewn rhwymedigaethau. Rwyf yn sylweddoli bod papur ymgynghori Comisiwn y gyfraith ar y diwygiadau rydych chi newydd gyfeirio ato yn dweud, ac rwy'n dyfynnu:
Nid yw'n glir i ba raddau y mae rhyddfreinio lesddaliadau wedi'i ddatganoli i Gynulliad Cymru. Yn y gorffennol, mae agweddau ar ryddfreinio wedi cael eu trin fel mater datganoledig.
A ydych yn disgwyl i'r adroddiad egluro'r sefyllfa hon? Ac ar ôl ei egluro, a chan dybio y gallwch weithredu, a fyddwch yn gweithredu'n gyflym?