2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru ar 7 Ionawr 2020.
5. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o bwerau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â lesddeiliadaeth ar dai? OAQ54883
Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ystyried dewisiadau i ddiwygio lesddaliadau. Disgwylir adroddiad Comisiwn y Gyfraith, yn dilyn ei ymgynghoriad ar ddiwygio cyfraith lesddaliad yng Nghymru a Lloegr, yn ystod y gwanwyn eleni a bydd yn helpu i fod yn sail i gamau gweithredu Llywodraeth Cymru o ran dewisiadau deddfwriaethol.
Cwnsler Cyffredinol, rwy'n siŵr y bydd yr ateb hwnnw yn galonogol iawn i lawer o ddeiliaid tai ledled Cymru, gan gynnwys yn fy rhanbarth i. Er enghraifft, ym mhentref Sant Edern yng Nghaerdydd, mae llawer o drigolion wedi bod mewn anghydfod gyda'r adeiladwyr tai Persimmon ac yn teimlo'n ddig iawn bod deiliadaeth lesddaliad yn cael ei gyflwyno ar safleoedd a fyddai wedi bod yn rhydd-ddaliad gynt. Weithiau, gallwch gael cyfuniad o'r ddau ar yr un safle, gan greu gwahaniaeth rhyfeddol mewn rhwymedigaethau. Rwyf yn sylweddoli bod papur ymgynghori Comisiwn y gyfraith ar y diwygiadau rydych chi newydd gyfeirio ato yn dweud, ac rwy'n dyfynnu:
Nid yw'n glir i ba raddau y mae rhyddfreinio lesddaliadau wedi'i ddatganoli i Gynulliad Cymru. Yn y gorffennol, mae agweddau ar ryddfreinio wedi cael eu trin fel mater datganoledig.
A ydych yn disgwyl i'r adroddiad egluro'r sefyllfa hon? Ac ar ôl ei egluro, a chan dybio y gallwch weithredu, a fyddwch yn gweithredu'n gyflym?
Wel, byddaf yn gwneud fy asesiad fy hun o'r cymhwysedd ar ran y Llywodraeth ynglŷn ag unrhyw ddewis deddfwriaethol a gyflwynir. Bydd yr Aelod yn gwybod—. Ni wnaf wneud dadansoddiad hirfaith o'r cwestiynau cymhwysedd, ond rwy'n credu, yn amlwg, efallai, ar y naill law, tra bod tai wedi'u datganoli'n benodol, mae cyfraith eiddo, yn fras, gydag eithriadau, wedi'i chadw'n ôl. Ac felly, mae'n fater o lywio o amgylch ffiniau'r rhannau perthnasol o Ddeddf Llywodraeth Cymru.
Rwy'n credu y bydd adroddiad Comisiwn y Gyfraith yn bwysig o ran gosod y cyd-destun hwnnw ar gyfer ystyried dewisiadau deddfwriaethol. Ac rwy'n gwybod hefyd fod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ystyried adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen a gyflwynodd adroddiad yn ystod yr haf y llynedd, ac sy'n bwriadu gwneud datganiad, yn yr wythnosau nesaf, rwy'n credu, o ran ei myfyrdodau ar waith yr adroddiad hwnnw, gan adeiladu ar y mesurau anneddfwriaethol yr ydym ni fel Llywodraeth wedi gallu eu cymryd, yn y tymor byr o leiaf, sydd wedi cael rhywfaint o effaith, i bob golwg, o ran lleihau nifer y tai lesddaliad a gaiff eu hadeiladu o'r newydd, yn benodol. Ond, yn amlwg, rydym yn rhannu'r amcan o sicrhau y caiff hynny ei leihau i'r lleiafswm lleiaf posibl.