Lesddeiliadaeth ar Dai

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 7 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:49, 7 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, byddaf yn gwneud fy asesiad fy hun o'r cymhwysedd ar ran y Llywodraeth ynglŷn ag unrhyw ddewis deddfwriaethol a gyflwynir. Bydd yr Aelod yn gwybod—. Ni wnaf wneud dadansoddiad hirfaith o'r cwestiynau cymhwysedd, ond rwy'n credu, yn amlwg, efallai, ar y naill law, tra bod tai wedi'u datganoli'n benodol, mae cyfraith eiddo, yn fras, gydag eithriadau, wedi'i chadw'n ôl. Ac felly, mae'n fater o lywio o amgylch ffiniau'r rhannau perthnasol o Ddeddf Llywodraeth Cymru.

Rwy'n credu y bydd adroddiad Comisiwn y Gyfraith yn bwysig o ran gosod y cyd-destun hwnnw ar gyfer ystyried dewisiadau deddfwriaethol. Ac rwy'n gwybod hefyd fod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ystyried adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen a gyflwynodd adroddiad yn ystod yr haf y llynedd, ac sy'n bwriadu gwneud datganiad, yn yr wythnosau nesaf, rwy'n credu, o ran ei myfyrdodau ar waith yr adroddiad hwnnw, gan adeiladu ar y mesurau anneddfwriaethol yr ydym ni fel Llywodraeth wedi gallu eu cymryd, yn y tymor byr o leiaf, sydd wedi cael rhywfaint o effaith, i bob golwg, o ran lleihau nifer y tai lesddaliad a gaiff eu hadeiladu o'r newydd, yn benodol. Ond, yn amlwg, rydym yn rhannu'r amcan o sicrhau y caiff hynny ei leihau i'r lleiafswm lleiaf posibl.