Part of the debate – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 7 Ionawr 2020.
Diolch yn fawr i Jayne Bryant am godi'r tri mater hynny heddiw. Ynghylch y cyntaf, o ran y cyfyngiadau cyflymder o 50 mya, gwn fod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi bod yn cynnal rhai trafodaethau gyda'r heddlu ynghylch y ffordd orau o orfodi hyn, a gobeithio y bydd y trafodaethau hynny'n cael eu datrys yn llwyddiannus cyn gynted â phosibl.
O ran y rheilffordd rhwng Glynebwy a Chasnewydd, gofynnaf i'r Gweinidog roi diweddariad ysgrifenedig ichi y gallwch chi ei rannu gyda'ch etholwyr, ond gallaf i ddweud bod trafnidiaeth Cymru wedi cyflwyno trenau dosbarth 170 mwy modern ar linell Glynebwy fel rhan o'u hamserlenni newydd o fis Rhagfyr 2019. Mae'r trenau hynny'n darparu gwell profiad i gwsmeriaid, gan gynnwys gwybodaeth electronig ynghylch teithwyr, aerdymheru, socedi trydan a rhagor o gapasiti. Byddan nhw hefyd yn cyflwyno trenau newydd sbon i Flaenau Gwent o 2022, fel rhan o fuddsoddiad £800 miliwn a fydd yn cynnwys mynediad gwastad a mwy o le ar gyfer beiciau. Gwn hefyd fod Trafnidiaeth Cymru wedi cynnal astudiaeth o linell Glynebwy ar ran Llywodraeth Cymru, ac mae hynny'n canolbwyntio ar gynyddu amlder y gwasanaethau hynny a hefyd ddarparu gwasanaeth newydd rhwng Glynebwy a Chasnewydd. Ond, fel y dywedaf, byddaf yn gofyn i'r Gweinidog roi diweddariad ysgrifenedig manylach ichi.
O ran pris tocynnau trenau, gwn fod nifer o wahanol ffactorau yn rhan o'r anghyfartaledd hwn, megis y ffioedd mynediad trac, y costau cynnal a chadw amrywiol a'r galw gan gwsmeriaid am eu gwasanaethau. Felly, mae'n anodd iawn gwneud y cymariaethau uniongyrchol hynny ledled llwybrau'r rhwydwaith, ond mae'r Grŵp Cyflenwi Rheilffyrdd, sy'n cynrychioli holl weithredwyr trenau Prydain, wedi cynnal ymgynghoriad yn ddiweddar ar sut y gellir gwneud tocynnau trenau yn symlach er budd teithwyr. Cymerodd Trafnidiaeth Cymru ran lawn yn yr ymgynghoriad hwnnw, a chefnogi llawer o'r argymhellion a ddaeth yn ei sgil. Rydym ar hyn o bryd yn aros am ymateb ffurfiol gan Lywodraeth y DU, sydd yn y pen draw yn gyfrifol am system prisiau tocynnau rheilffyrdd y DU. Felly, unwaith eto, byddaf y gofyn i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi pan fydd y manylion hynny gennym.