Part of the debate – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 7 Ionawr 2020.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod gyferbyn. Dau beth yn unig. Yn gyntaf, ei atgoffa bod y maes awyr, pan oedd dan berchnogaeth breifat, ar fin cau, ac fe ddywedwyd hynny wrthyf i gan y perchenogion ar y pryd. Yr unig ffordd o ymdrin â hynny oedd ei brynu—ei gymryd i berchnogaeth gyhoeddus. Yn ail, os yw'n dweud na ddylai'r Llywodraeth fuddsoddi mewn hedfan, a yw hynny'n golygu ei fod ef o'r farn y dylai'r maes awyr—ac wrth gwrs maes awyr Ynys Môn, sydd bellach yn rhan o'r un grŵp—gau?