Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 7 Ionawr 2020.
Fel yr Aelod sydd yn arwain ar lywodraeth leol dros Blaid Cymru, dwi'n falch iawn i allu cymryd rhan yn y drafodaeth yma y prynhawn yma.
Dŷn ni i gyd yn ymwybodol o'r pwysau sydd ar wasanaethau llywodraeth leol a'r pwysau ariannol cynyddol. Roedd rheini'n amlwg yn ôl yn y dyddiau hynny pan oeddwn i arfer bod yn gynghorydd sir yn Ninas a Sir Abertawe, a gwaethygu mae'r pwysau a thynhau mae'r cyllidebau ers y dyddiau hynny pan oeddwn i'n gynghorydd sir. Nawr, mae'n wir i ddweud bod mwy o arian i'w gael i lywodraeth leol yn y gyllideb ddrafft yma, ond eto dim digon i ymateb i'r galwadau cynyddol am wasanaethau llywodraeth leol, fel y mae Rhun a Helen eisoes wedi ei olrhain. Mae cymaint o sôn am wasanaethau ataliol, ac yn llywodraeth leol mae nifer ohonyn nhw yn bodoli, megis iechyd amgylcheddol, tai, addysg ac, wrth gwrs, gofal cymdeithasol.
Ddoe, fel rydym ni wedi clywed eisoes, fe glywsom ni am heriau'r gwasanaeth iechyd yn Hywel Dda, gyda phwysau’r gaeaf yn golygu canslo mesurau nad oedd yn argyfwng. Ac, yn wir, gaeaf ar ôl gaeaf, os nad blwyddyn ar ôl blwyddyn, mae canran helaeth o gleifion ar wardiau ein hysbytai acíwt ni ddim ond yna yn aros am drefniant gofal cymdeithasol. Maent yn iach i adael yr ysbyty, ond eto, nid ydynt yn gallu gadael. Chwe chan punt y dydd yw’r gost i fod mewn gwely mewn ysbyty. Chwe chan punt yr wythnos ydy’r gost i fod mewn cartref preswyl. Pan mae yn agos i hanner y cleifion ar ambell ward heddiw—. Ar ambell ward yng Nghymru heddiw mae yn agos i hanner y cleifion yn iach i adael yr ysbyty yna yn feddygol. Mae’r sefyllfa yna’n warthus. Mae angen camau breision nawr i newid hyn—step change nawr. Mae’r bobl yma yn ein hysbytai ni; dylan nhw ddim bod yna. Dylai’r drefniadaeth fod ar waith. Mae angen cymryd y camau breision hynny nawr.
Hynny, yn ogystal â diffyg gwlâu a diffyg staff, ydy’r problemau oesol sydd yn dal yn heriau. Fel y mae eraill wedi dweud, rydym ni wedi bod yn ymdrin ac rydym ni wedi bod yn trafod blwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae angen camu i fyny i’r bwlch a gweithredu, fel dywedodd Helen Mary Jones. Felly, o feddwl am yr holl arian sydd yn mynd i mewn i ofal cymdeithasol ar hyn o bryd, ond mewn i system sydd yn ffaelu ac sydd yn rhanedig, gyda phobl, gyda chleifion yn dal i ddioddef ac yn marw cyn amser, system gofal sydd yn ddrud ac yn gymhleth, gyda staff gofal ar gytundebau tymor byr a zero hours a dim hyfforddiant ac yn y blaen—rydym ni i gyd yn gwybod—onid yw hi’n amser i gael cynllun radical newydd a chael gwasanaeth gofal cymdeithasol i Gymru wedi ei hariannu o drethiant cyffredinol yn union fel ein gwasanaeth iechyd gwladol ni ac yn cyd-weithio mewn partneriaeth wedi ei hariannu allan o drethiant cyffredinol, gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru yn union fel ein gwasanaeth iechyd cenedlaethol ni? Diolch yn fawr.