Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 7 Ionawr 2020.
Dwi'n cyfrannu i'r ddadl yma, wrth gwrs, yn fy rôl fel llefarydd fy mhlaid ar yr amgylchedd. Ac fel mae ambell un eisoes wedi ei awgrymu, mae yna deimlad o fusnes fel arfer yn perthyn i'r gyllideb yma. Ac mae hynny'n siomedig, yn enwedig yn sgil datgan argyfwng hinsawdd. Fel rŷn ni wedi ei glywed, byddech chi'n disgwyl y byddai yna drawsnewidiad yn y ffordd y mae'r Llywodraeth yn defnyddio'i chyllideb i fynd i'r afael â'r argyfwng hynny. Ond, byddwch yn onest, pe baech chi'n edrych ar y gyllideb yma a'i chymharu hi â chyllideb y llynedd, ydych chi yn gweld newid sylfaenol, newid go iawn? Oes yna rywbeth yn y gyllideb ddrafft yma sy'n rhoi signal clir bod yna shifft sylfaenol tuag at daclo yr argyfwng hinsawdd wedi digwydd ym mlaenoriaethau y Llywodraeth? Ac os na allwch chi weld gwahaniaeth sylfaenol, yna mae e yn dwyn i gwestiwn, yn fy marn i, hygrededd y datganiad o argyfwng hinsawdd hwnnw, ac, yn wir, pa mor o ddifrif y mae'r Llywodraeth yma i daclo'r her fwyaf sy'n wynebu dynoliaeth heddiw.
Nawr wrth gwrs mae yna ambell i eitem o wariant unigol i'w groesawu, a fyddwn i ddim yn peidio â chroesawu unrhyw arian ychwanegol, ond wrth gwrs dyw e ddim i'r graddau y byddwn i wedi ei obeithio. Mae'r £140 miliwn yma o wariant cyfalaf tuag at ddadgarboneiddio wedi cael ei gyfeirio ato fe—nid yr unig un, wrth gwrs, mae yna rai eraill. Mae £140 miliwn i'w groesawu, wrth gwrs, ond gadewch i ni ein hatgoffa ein hunain bod y Llywodraeth yma wedi gwario £100 miliwn ar baratoadau ar gyfer ffordd lliniaru'r M4 na fydd byth yn digwydd. Mae hynny'n rhoi'r swm yna yn ei gyd-destun, yn fy marn i.
Nawr, mi gyhoeddodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru gynllun 10 pwynt y llynedd i amlygu lle roedd angen blaenoriaethu gwariant. Ac roedd hi'n sôn am drafnidiaeth, retroffitio tai, defnydd tir, ynni adnewyddadwy. Mae gennym ni sector ynni hydro sy'n dal i aros i glywed gan y Llywodraeth a fydd yna rhyddhad treth yn parhau yn y flwyddyn ariannol nesaf, er wrth gwrs eu bod nhw wedi ei gwneud hi'n glir y byddai hynny yn golygu, heb y newid yna, y byddai llawer iawn o fusnesau hydro yn anghynaliadwy. Nawr, mae'r comisiynydd safonau, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol—mae yna ormod o gomisiynwyr yn y byd yma, dwi'n meddwl—wedi amlinellu, o safbwynt retroffitio, £5 biliwn dros 15 mlynedd ar gyfer hynny. Nawr, mae hynny'n swm uchel iawn; dros 15 mlynedd, wrth gwrs, mae e'n dipyn mwy fforddiadwy. Ond nid dim ond stryd un ffordd yw'r gwariant yna, wrth gwrs, oherwydd mae e'n wariant i arbed yn y pen draw, mae e'n wariant i greu twf. Rŷn ni'n gweld sut y byddai, yn ôl y comisiynydd, GVA economaidd Cymru yn cynyddu o £2.2 biliwn o wneud y buddsoddiad yna. Mi fyddai'n arbed £350 y flwyddyn i fil y teulu cyffredin. Mi fyddai hefyd yn arbed bron i £70 miliwn bob blwyddyn i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, oherwydd byddai'n help i ni fynd i'r afael â rhai o'r problemau iechyd sy'n wynebu ein pobl ni. Ac wrth gwrs, dŷn ni'n sôn felly am yr economaidd, yr amgylcheddol, a'r cymdeithasol, a dyna ni'r greal sanctaidd o safbwynt Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ond bedair blynedd ar ôl pasio y Ddeddf yna, dŷn ni'n dal i aros i weld y shifft yna yn digwydd yn y modd y mae Llywodraeth Cymru yn creu ac yn blaenoriaethu ei chyllideb.
Nawr, fel Aelod dros y gogledd hefyd, roeddwn i'n gweld bod yna, yn naratif y gyllideb, gyfeiriad at £200 miliwn cyfalaf ar gyfer metro de a metro gogledd Cymru. Ond dwi'n gweld wedyn wrth gwrs mai £20 miliwn o hwnnw—prin 10 y cant o hwnnw—sydd yn dod i'r gogledd. Mi fydd y Llywodraeth, dwi'n tybio—yn sicr ar ôl yr etholiad cyffredinol—yn ymwybodol bod yna ddisgwyliad gan etholwyr y gogledd i gael y buddsoddiad a'r swyddi y maen nhw'n eu haeddu, nid o reidrwydd y buddsoddiad y maen nhw wedi ei gael yn y gorffennol. A byddwn i'n galw ar y Llywodraeth i graffu'n ofalus ar ei chyllideb yn y cyd-destun hwnnw hefyd, er mwyn sicrhau tegwch o safbwynt buddsoddiad ar draws Cymru.