Part of the debate – Senedd Cymru am 5:39 pm ar 7 Ionawr 2020.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw a dymuno blwyddyn newydd dda ar ddechrau blwyddyn dyngedfennol i Gymru.
Rydych yn dweud bod Llywodraeth Cymru bellach yn cydnabod y bydd y Deyrnas Gyfunol yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ac mae Plaid Cymru'n cytuno. Nawr bod gan y Ceidwadwyr fwyafrif, rydym yn gwybod am ffaith y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ddiwedd y mis. Byddwn felly'n defnyddio ein hegni oll o hyn ymlaen er mwyn gwneud popeth o fewn ein gallu i warchod buddiannau Cymru a'i phobl wrth i'r broses fynd yn ei blaen. Ac felly, rwy'n croesawu'r datganiad amserol yma.
Mae'n destun pryder nad oes strwythurau rhynglywodraethol wedi'u sefydlu eto fel dŷch chi newydd gyfeirio atyn nhw er mwyn galluogi Llywodraethau a Seneddau datganoledig i ddylanwadu ar y trafodaethau masnach cyn iddyn nhw ddechrau. Roedd sôn—a dŷch chi wedi cyfeirio at hyn yn barod—am sefydlu cydbwyllgor gweinidogol, neu JMC, yn benodol yn ymwneud â masnach. A all y Gweinidog roi diweddariad i ni ynghylch a oes bwriad i sefydlu'r corff hwn? Oherwydd, hebddo, mae'n anodd iawn gen i i weld sut y bydd eich Llywodraeth yn llwyddo i sicrhau bod buddiannau Cymru'n cael eu cynrychioli. Allaf i ofyn hefyd a ydych chi wedi cael cyfle i gwrdd â'r Ysgrifennydd masnach, Elizabeth Truss, ers yr etholiad i bwysleisio'r angen bod llais Cymru'n cael ei chlywed?
Rwy'n cytuno gyda chi y bydd y gwaith o graffu ar y Mesur masnach yn San Steffan yn hanfodol, felly, a allwch chi roi syniad i ni ynglŷn â sut y bydd y Senedd hon yn cael cyfle i gyfrannu at y gwaith yma, gan y bydd yn cael effaith uniongyrchol ar ein heconomi yng Nghymru? Mae gen i ddiddordeb hefyd ynghylch eich cynlluniau i gyflwyno gwelliannau i'r Bil cytundeb masnach yn Nhŷ'r Arglwyddi. Allwch chi roi syniad i ni o ran pa fath o welliannau y byddwch chi'n ceisio amdanynt?
Gan droi nawr at fanylion y cytundebau masnach bydd yn cael eu negodi gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, fe gawsom ni ddadl danbaid ar ddiwedd y tymor diwethaf ynglŷn â sut byddai'r ffordd orau o warchod ein gwasanaeth iechyd yn wyneb bygythiadau posib o gytundeb masnach â'r Unol Daleithiau. Mae Plaid Cymru eisiau feto Gymreig dros unrhyw gytundeb, ond safbwynt eich Llywodraeth chi, fel dŷch chi newydd ddweud, oedd y byddai sicrhau rôl swyddogol i'r Senedd yn fwy addas. A ydych chi wedi gwneud unrhyw gynnydd o ran ceisio sicrhau hyn?
Nid America, yn amlwg, yw'r unig wlad y byddwn yn gwneud cytundebau â nhw. Mi fydd Awstralia a Seland Newydd, fel dŷch chi wedi cyfeirio atyn nhw, hefyd yn uchel ar y rhestr. Rwy'n gwybod y bydd sector amaeth Cymru eisiau clywed datganiad cadarn gennych y bydd eich Llywodraeth yn gwneud popeth er mwyn gwarchod ei buddiannau yn ystod y trafodaethau, gan fod llawer yn poeni y gallai gig eidion a chig oen rhad o'r gwledydd hyn lifo i farchnad, gan roi ffermwyr Cymru dan anfantais. Byddwn hefyd yn erfyn arnoch i'w gwneud hi'n glir i Lywodraeth Prydain y byddai corff investor-state dispute settlement yn annerbyniol i ni yng Nghymru, gan y byddai hyn yn galluogi busnesau i 'sue-io'r Llywodraeth am roi cytundebau cyhoeddus i gyrff cyhoeddus.
Rydych wedi sôn bod angen blaenoriaethu parhad masnach gydag Ewrop, yn hytrach na'r gwledydd pellennig rydw i wedi sôn amdanynt. Felly, hoffwn wybod os oes gennych unrhyw gynlluniau i gyflwyno Mesur parhad er mwyn sicrhau bod ein rheoliadau ni'n cadw lan gyda newidiadau yn Ewrop.
Yn olaf, mae'r holl faterion rydym wedi bod yn eu trafod heddiw yn digwydd yn absenoldeb strategaeth ryngwladol gan Lywodraeth Cymru. Mae strategaeth o'r fath yn gwbl angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y Llywodraeth yn gweithredu mewn modd cydlynol ac yn ceisio tuag at dargedau a chanlyniadau pendant. Dyw hi ddim yn ddigon da bod hyn dal heb ei chyhoeddi a ninnau'n gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn 24 diwrnod. Allwch chi felly sicrhau y byddwch yn cyhoeddi'r strategaeth hon mewn amser i'r deadline diweddaraf, sef diwedd y mis hwn? Bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gosod heriau anferth i ni fel cenedl, ond rydym ni wedi goroesi heriau o'r fath yn y gorffennol. Er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau i bobl Cymru, mae dyletswydd ar bawb ohonom yn y Senedd hon i dorchi’n llewys a gweithio'n galed er mwyn dyfodol Cymru ac mae hynny'n golygu cael cynllun masnach cadarn mewn lle. Rwy'n gobeithio eich bod yn barod i gwrdd â'r her hon, Weinidog.