Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 7 Ionawr 2020.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am gopi ymlaen llaw o'i datganiad heddiw? Rwy'n synnu braidd at gywair y datganiad, oherwydd, wrth gwrs, rydych chi'n dweud bod arnoch chi eisiau perthynas waith agos â Llywodraeth y DU ac eto rydych yn gwneud popeth a allwch chi i'w tramgwyddo o ran y pethau, a dweud y gwir, yr ydych chi newydd eu dweud.
Rydych chi'n dechrau eich datganiad drwy ganmol perfformiad y Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol diweddar, pan golloch chi nifer sylweddol o seddi yng Nghymru, ac rwy'n credu y byddai llawer o bobl yn cael hynny braidd yn hy, gan gynnwys rhai ar eich meinciau eich hun.
Rydych chi hefyd, wrth gwrs, wedi gwneud nifer o fygythiadau ofer ynghylch yr hyn yr ydych chi'n mynd i'w wneud os nad yw Llywodraeth y DU yn gwrando arnoch chi. Rydych chi'n mynd i gyflwyno gwelliannau yn Nhŷ'r Arglwyddi a byddwch chi'n rhoi terfyn ar hyn a therfyn ar llall pan, mewn gwirionedd, y gwir amdani yw nad oes gennych chi lawer o allu i atal beth bynnag y mae Llywodraeth y DU eisiau ei wneud. Felly, fel y dywedais yn fy nghyfraniad yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw, rwy'n credu y byddai'n well o lawer petaech yn mynd ati yn rhan o dîm y DU o ran ceisio cael y bargeinion gorau posibl i Gymru o ran ein trefniadau masnach yn y dyfodol yn rhyngwladol, yn hytrach na bod â'r agwedd ymosodol hon drwy'r amser. Nawr, fi yw'r un cyntaf i ddweud fy mod i'n ymosodol iawn fy hun ac i gydnabod—[torri ar draws.]—ac i gydnabod fy ngwendidau yn hynny o beth. Fodd bynnag, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn gweithredu'n briodol o ran perthnasoedd rhynglywodraethol. Mae gennym ni Lywodraeth newydd yn y DU, mae gennym ni Ysgrifennydd Gwladol newydd i Gymru a Gweinidog newydd i Swyddfa Cymru hefyd, ac rwy'n credu, a dweud y gwir, y byddai'n well o lawer petai Llywodraeth Cymru ychydig yn fwy cefnogol yng nghyswllt y berthynas honno, yn y dyfodol.
Rydych chi hefyd, wrth gwrs, yn ymddangos fel pe baech yn rhygnu ymlaen am ddadleuon cyn yr etholiad cyffredinol—yr un hen godi bwganod am y niwed y mae Brexit yn mynd i'w wneud i economi Cymru. Nawr, eich dewis chi yw a ydych yn mynd i barhau i rygnu ymlaen yn dragwyddol, ond, unwaith eto, nid wyf yn hollol siŵr bod hynny'n ddefnyddiol. Rwy'n credu bod pobl Cymru a phobl y Deyrnas Unedig wedi symud ymlaen, a dweud y gwir—maen nhw eisiau gwireddu Brexit, maen nhw'n cefnogi Llywodraeth y DU, sydd â mandad clir iawn a llawer mwy na'r hyn sydd gan eich Llywodraeth yma yng Nghymru o ran y rhifyddeg yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn, a chredaf, yn hytrach na chodi bwganod, mai'r hyn y dylech fod yn ei wneud yw rhoi sylw i'r cyfleoedd sydd ar gael i fusnesau Cymru ac edrych am y lleoedd yr ydych chi'n tybio y gallai busnesau Cymru yn rhyngwladol ffynnu.
Rydych chi'n sôn yn eich datganiad eich bod yn mynd i sefydlu grŵp cynghori arbenigol i randdeiliaid. Tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni am yr amserlen ar gyfer sefydlu'r grŵp hwnnw, pa mor fawr y dylai fod yn eich barn chi, pa ddiwydiannau y dylid ac na ddylid eu cynrychioli arno, a fydd hwnnw'n grŵp cynghori ffurfiol i randdeiliaid lle caiff Aelodau eu talu, ac, os felly, beth fydd eu tâl, oherwydd credaf y bydd o bosib—o ystyried y dylanwad yr ydych yn amlwg ei eisiau ym mhob cytundeb masnach, o ystyried yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud yn eich datganiad, rwyf yn credu y bydd problem o ran capasiti, problem arbenigedd a her i chi o fewn Llywodraeth Cymru os ydych chi eisiau dylanwad o'r fath, os ydych, i bob pwrpas, eisiau sedd wrth bob bwrdd trafod, y credaf ei fod braidd yn anymarferol i siarad yn blaen.
Rwyf fi, o'm rhan fy hun, yn ymddiried yn Llywodraeth y DU, gyda Swyddfa Cymru a'r Adran Masnach Ryngwladol, i gynrychioli pob rhan o'r Deyrnas Unedig a buddiannau'r Deyrnas Unedig yn gyffredinol. Ac, wrth gwrs, bydd cyfaddawdu. Yn Lloegr hefyd, bydd cyfaddawdau rhwng gwahanol ranbarthau yn Lloegr, heb sôn am rhwng gwahanol genhedloedd y Deyrnas Unedig. Ac, wrth gwrs, lle Llywodraeth ei Mawrhydi, a dweud y gwir, yw cloriannu'r agweddau hyn, a phenderfynu pa gytundebau masnach ddylai fynd rhagddynt ac ar ba sail.
Nawr rwy'n derbyn—rwy'n derbyn—ac rwy'n credu ei bod hi'n hollol briodol y dylai Llywodraeth Cymru gael ei hysbysu, y dylid ei diweddaru, y dylid caniatáu iddi ddatgan ei blaenoriaethau. Rwy'n credu bod y rhain i gyd yn bethau cwbl resymol i unrhyw Lywodraeth eu gwneud. Ond rwy'n credu bod awgrymu—. Ac rwy'n credu mai pendraw yr hyn yr oeddech yn ei ddweud oedd y byddwch yn gallu rhoi feto ar bethau, ac efallai y gwnewch chi ddweud wrthym ni ai dyna'ch bwriad datganedig fel Llywodraeth. Ni fydd hynny o reidrwydd yn ddefnyddiol iawn. Felly, edrychaf ymlaen at gyhoeddi eich strategaeth fasnach ryngwladol. Credaf y gallai strategaeth o'r fath fod yn ddefnyddiol ichi, oherwydd nid wyf yn hollol siŵr ein bod wedi cael yr holl fanylion yr oedd eu hangen arnom ni heddiw. Rwy'n gwybod bod gennych chi strategaeth ryngwladol, ond rwy'n credu y byddai strategaeth fasnach ryngwladol yn eithaf defnyddiol o ran o ble yr hoffech chi i'r buddsoddiad ddod, lle yr ydych chi'n credu y gallwn ni fasnachu yn y byd fel cenedl fach o fewn y DU. Ac, os ydych chi wedi gwneud unrhyw beth o'r gwaith cwmpasu hwnnw, efallai y gwnewch chi ei rannu gyda ni fel Aelodau Cynulliad.
Ond fe hoffwn i chi wybod hyn, wrth gloi. Fe hoffwn i chi wybod hyn: ar yr ochr hon i'r Siambr rydym yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru a'r sylfaen rhanddeiliaid ehangach yma yng Nghymru er mwyn hybu masnach. Un o'r pethau yr ydym ni wedi galw amdano dros y blynyddoedd yw i Lywodraeth Cymru benodi llysgenhadon masnach o bob plaid wleidyddol a rhai nad ydynt yn rhan o unrhyw blaid wleidyddol er mwyn cyflwyno'r achos dros well cysylltiadau masnach rhwng Cymru a'r byd ehangach. A wnewch chi ystyried hynny nawr er mwyn inni gael bwrw iddi fel tîm Cymru, yn rhan o dîm y DU, mewn modd fydd yn gweithio mewn gwirionedd er budd pawb?