Part of the debate – Senedd Cymru am 6:45 pm ar 7 Ionawr 2020.
Does dim amheuaeth yn fy marn i fod gwahardd anifeiliaid gwyllt o syrcasau teithiol y peth cywir i'w wneud. Mi oedd e'n sicr yn rhan o faniffesto Plaid Cymru yn yr etholiad diwethaf. Mae ecsbloetio anifeiliaid gwyllt i'r perwyl yma yn annerbyniol. Wrth gwrs, dŷn ni'n gwybod bod agweddau cymdeithas wedi newid. Mae yna sawl ymchwil a pôl piniwn yn dangos hynny, a dŷn ni hefyd yn gwybod bod rhyw 45 o wledydd ar draws y byd wedi cyflwyno gwaharddiad neu gyfyngiadau i'r perwyl hwnnw.
Mae yn siomedig, a dwi'n ategu sylwadau blaenorol, fod y Llywodraeth wedi cymryd cyhyd i gyrraedd y pwynt yma. Mi oedd sôn ein bod ni tu ôl i'r curve. Wrth gwrs, mi oeddem ni ar flaen y curve, fel y rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig oedd yn awyddus i ddeddfu yn y maes yma. Ond, fel mae'n digwydd nawr, ni fydd y wlad olaf yn y Deyrnas Unedig i lwyddo i wneud hynny. Ac, wrth gwrs, mi oedd bron iawn—fel dŷn ni wedi clywed awgrym gan y Cadeirydd, mi oedd bron iawn i'r Bil beidio â chael cydsyniad yn y pwyllgor amgylchedd i ganiatáu neu i dderbyn yr egwyddor cyffredinol tu ôl i'r Bil yng Nghyfnod 1. Dim ond o drwch blewyn y cytunodd y pwyllgor i wneud hynny.
Mi wnes i bleidleisio o blaid caniatáu i'r Bil fynd yn ei flaen, ac mi fyddaf i yn gwneud hynny eto heddiw, er gwaethaf y ffaith, mae'n rhaid i mi ei ddweud, fod y Gweinidog wedi gwneud gwaith caled iawn o gyfiawnhau pam fod y Llywodraeth wedi defnyddio sail foesegol dros ddeddfu ar hyn. Eto, fel clywom ni gan Gadeirydd y pwyllgor amgylchedd, os yw hi'n anfoesegol i ganiatáu anifeiliaid gwyllt i berfformio mewn syrcasau symudol, wel ydy hi'n anfoesegol iddyn nhw berfformio mewn sefyllfaoedd eraill? Pam dim ond syrcasau teithiol? Er nad oes syrcas statig yng Nghymru, does dim byd i ddweud na fydd yn y dyfodol.
'O', meddai'r Llywodraeth, 'mi fydd anifeiliaid sy'n cael eu harddangos at ddiben adloniant mewn lleoliadau heblaw syrcasau yn cael eu rheoleiddio.' 'A da o beth hynny', meddai fi. Ond nid ar sail foesegol, wrth gwrs—ar sail lles anifeiliaid. Fe fethodd y Gweinidog yn lân ag esbonio'r rhesymeg pam fod un grŵp o anifeiliaid yn cael eu gwarchod ar sail foesegol, ac un arall ar sail lles anifeiliaid—yn wir, yr un anifeiliaid mewn gwahanol gyd-destunau mewn rhai achosion. Dyna ni. Fe ddywedodd un o'r tystion fod yn rhaid i foesegau fod yn gyffredinol, yn unifersal, neu maen nhw'n peidio â bod yn foesegau. A dyna i chi efallai awgrym o'r cyfyng-gyngor roedd rhai o aelodau'r pwyllgor wedi ffeindio eu hunain ynddo fe.
Ond, wedi dweud hynny, mae gennym ni Fil o'n blaenau ni. Mae'n Fil cul sydd yn mynd i effeithio, yn y cyd-destun sydd ohoni, ar 19 o anifeiliaid—nid 19 o rywogaethau, ond 19 o anifeiliaid yn unig. Ond dwi yn meddwl bod angen diolch i bawb gyfrannodd at y dystiolaeth. Mae angen gwella'r Bil, ac mae'r dystiolaeth a dderbyniom ni, dwi'n meddwl, wedi bod yn dystiolaeth gryf iawn o'r ddwy ochr, ac wedi peri tipyn o waith pwyso a mesur. A dwi eisiau talu teyrnged i bawb sydd wedi ymgyrchu yn ddiflino dros ddeddfwriaeth o'r fath. Fe wnaf i gyfeirio yn benodol at un person sy'n etholwraig i mi ac sydd yma heddiw, Linda Joyce-Jones, sydd wedi bod ar flaen y gad yn yr ymgyrch yma ac wedi brwydro'n ddiflino i drio cael y maen i'r wal. Wel, gobeithio y byddwn ni gam yn nes ar ôl y ddadl yma y prynhawn yma.
Ond mae angen gwella'r Bil, fel roeddwn i'n ei ddweud, ac mae hynny wedi dod yn glir o'r dystiolaeth. Mi gyfeiriodd y Gweinidog at hyn yn gynharach: er na fydd anifeiliaid gwyllt yn cael perfformio, mi fyddan nhw'n dal i gael mynd ar daith gyda syrcas. Dydy hynny ddim yn dderbyniol yn fy marn i. Mae'r teithio a'r cadw mewn amgylchiadau symudol cyfyng yn gymaint yn rhan o'r broblem i fi ac yw'r perfformio ei hunan. Felly, mae hwnna'n rhywbeth y byddwn i'n awyddus i weld y Llywodraeth yn ei gywiro.
Mae angen cryfhau'r pwerau gorfodi i gynnwys pwerau'r heddlu, fel sydd yn yr Alban. Yn fy marn i nawr, wrth gwrs, mi fyddai hynny'n gofyn cydsyniad gan San Steffan, ond dwi yn meddwl bod angen inni wneud hynny nawr tra ein bod ni'n deddfu, fel bod y pŵer yna yn ei le ar gyfer y posibilrwydd o'i angen e yn y dyfodol. Mi ddylem ni hefyd fedru gwahardd troseddwyr rhag cadw anifeiliaid gwyllt am gyfnodau penodol er mwyn atal ailadrodd troseddu. Mi fyddwn i'n licio gweld y Llywodraeth yn ymgorffori hynny oddi fewn i'r Bil yma yn ogystal. Nawr, bwriad y Llywodraeth yw i'r Ddeddf ddod i rym ar 1 Rhagfyr eleni. Pan osodwyd y Bil nôl yng Ngorffennaf, a phan fuom ni’n trafod yn y Siambr yma y Bil y tro diwethaf, yr adeg honno mi wnes i ofyn i'r Llywodraeth am y posibilrwydd iddo fe ddod i rym yn gynharach. Mi ddywedodd y Gweinidog ar y pryd ei bod hi'n agored iawn i hynny a fyddwn i'n hoffi clywed os ydy hi'n dal i deimlo felly. Oherwydd dwi'n gwybod yn ymarferol, efallai, y byddai'n golygu cryn ymdrech, ond mi fyddwn i'n awyddus i weld gwaharddiad yn dod i rym yn hytrach na'n bod ni'n gorfod gweld haf arall o anifeiliaid gwyllt yn teithio trwy Gymru yn y syrcasau symudol yma. Felly, gadewch i ni weithredu'r ddeddfwriaeth yma ar frys er mwyn rhoi stop ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol eleni ac nid gorfod aros am flwyddyn arall.