7. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:51 pm ar 7 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 6:51, 7 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae synnwyr ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o ran trin anifeiliaid wedi newid yn sylweddol dros y degawdau diwethaf. Nid yw'r hyn a oedd yn dderbyniol yn y 1950au yn dderbyniol mwyach yn yr unfed ganrif ar hugain. Dylai lles anifeiliaid, nid eu gwerth o ran adloniant, fod wrth wraidd unrhyw ddadl ynghylch eu defnydd mewn syrcasau ac yn wir mewn unrhyw sefyllfa o adloniant.

Mae anifeiliaid gwyllt yn perthyn i'w cynefin naturiol. Yn yr un modd ag y mae ffwr anifeiliaid bob amser yn edrych yn well ar yr anifail, eu cynefin naturiol sy'n darparu'r amodau byw gorau ar gyfer unrhyw greadur o'r fath. Mae bywyd syrcas deithiol yn peryglu lles anifeiliaid gwyllt yn ddifrifol. Mae caethiwo, cludo dan straen, hyfforddiant dan orfodaeth a grwpiau cymdeithasol annormal i gyd yn realiti annymunol i'r anifeiliaid, sy'n dangos yn glir pam mae angen i'r sioeau hen ffasiwn hyn fynd i ebargofiant.

Mae arwyddion clir hefyd o gryfder y teimlad cyhoeddus yn erbyn y defnydd o anifeiliaid gwyllt sy'n cael eu harddangos mewn syrcasau. Nid yw anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau a sioeau teithiol eraill yn byw yn unol â'u hanghenion lles arferol. Felly, byddai tystiolaeth yn cefnogi gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol a sŵau symudol ar sail lles anifeiliaid. Nid yw eu bywydau yn fywydau da nac hyd yn oed yn fywydau o ansawdd derbyniol.

Mae 45 o genhedloedd naill ai wedi gwahardd neu gyfyngu ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Mae'n bryd bellach i Gymru ychwanegu ei henw at y rhestr honno drwy wahardd y math hwn o gam-fanteisio ar anifeiliaid gwyllt yn llwyr. Rydym ni ym mhlaid Brexit yn cefnogi'r Bil hwn yn llwyr, ond rydym ni hefyd yn cefnogi argymhellion yr RSPCA gan eu bod o'r farn bod rhannau o'r Bil yn rhy gul o ran atal anifeiliaid gwyllt rhag teithio gyda syrcas, pwerau gorfodi ac anghymhwyso. Ni ddylai Cymru'r unfed ganrif ar hugain ganiatáu i'r math hwn o adloniant barhau.