Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 8 Ionawr 2020.
Mae'n rhaid i mi ddweud, yr hyn sy'n brin o arloesedd ac yn brin o uchelgais, yn fy marn i, yw pan fydd y gwrthbleidiau'n cyhoeddi datganiadau i'r wasg a allai fod wedi'u hysgrifennu o'r blaen. Credaf ei bod bron yn rhagweladwy, onid yw, y bydd gwrthblaid yn dweud bod cyfle wedi'i golli neu eu bod yn siomedig? Beth am astudio a chraffu ar y gyllideb a herio pethau o ddifrif os ydych o'r farn y dylent fod yn wahanol? Beth am gynnig cyllidebau amgen? Beth am gynnig syniadau ar gyfer ffyrdd eraill y dylid gwario arian Llywodraeth Cymru? Credaf y byddai hynny'n gyfraniad mwy defnyddiol o lawer i'r ddadl.