Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 8 Ionawr 2020.
Weinidog, credaf ei bod yn gwbl afresymol fod yn rhaid craffu ar gyllideb Cymru ar gyfer y flwyddyn i ddod cyn i gynlluniau gwario Llywodraeth y DU, gan gynnwys manylion grant bloc Cymru, gael eu cyhoeddi. Disgwylir datganiad ar gyllideb y DU ar 11 Mawrth, ychydig ar ôl i'n gwaith craffu ar y gyllideb yma ddod i ben. Dyma enghraifft arall ar restr hirfaith a chynyddol o resymau pam nad yw San Steffan yn gweithio i Gymru. Ond ai dyma pam fod cyllideb Llywodraeth Cymru mor brin o uchelgais ac arloesedd?