1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 8 Ionawr 2020.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Weinidog, a allwch ddweud wrthym sut y mae eich cyllideb ar gyfer y flwyddyn 2020-21 yn mynd i gefnogi busnesau Cymru?
Yn sicr. Ddoe ddiwethaf, fe gyhoeddais i, fel rhan o gyllideb 2020-21, y byddem yn parhau i ymestyn ein cynllun rhyddhad ardrethi'r stryd fawr ac ardrethi manwerthu i 2020-21. Felly, mae hynny’n fwy na £24 miliwn o gyllid, sy'n cefnogi dros 15,000 o fusnesau gyda'u hardrethi. Credaf fod hynny'n bwysig iawn, ond mewn gwirionedd, mae hynny ochr yn ochr â £213 miliwn o ryddhad arall i fusnesau yng Nghymru, sy'n golygu nad yw oddeutu hanner busnesau Cymru yn talu unrhyw ardrethi o gwbl.
Wel, wrth gwrs, rydym yn croesawu unrhyw ryddhad ardrethi busnes, ond y gwir amdani yw, er gwaethaf y rhyddhad hwnnw rydych yn ei ymestyn, ni sydd â’r drefn ardrethi busnes fwyaf cosbol yn y Deyrnas Unedig o hyd. Ac wrth gwrs, yn ogystal â’r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain, mae gennym hefyd dreth trafodiadau tir uchel iawn ar gyfer eiddo anfasnachol, a byddant yn parhau i fod yn uwch na'r Alban a Lloegr hyd y gellir rhagweld. Pam na wnaethoch chi achub ar y cyfle i ystyried lleihau'r trethi hynny er mwyn hyrwyddo buddsoddiad ac i hyrwyddo busnes fel y crewyr cyfoeth yng Nghymru yn eich cyllideb, ac a wnewch chi ailystyried y safbwynt hwnnw cyn cyflwyno'r gyllideb derfynol i’r Siambr yn ddiweddarach yn y flwyddyn?
Wel, buaswn yn dechrau, wrth gwrs, drwy awgrymu bod Darren Millar yn anghywir i awgrymu bod gennym ardrethi busnes cosbol yng Nghymru, oherwydd mewn gwirionedd, ceir cyfran fwy o fusnesau yng Nghymru nad ydynt yn talu unrhyw ardrethi o gwbl nag a geir dros y ffin yn Lloegr. Ac mae'r man lle rydym yn pennu ein hardrethi busnes yn adlewyrchu'r ffaith bod ein gwerth ardrethol cyfartalog yng Nghymru yn wahanol i’r hyn a geir yn Lloegr. Felly, yn Lloegr, mae oddeutu £50,000, a dim ond £30,000 yng Nghymru, felly credaf ei bod ond yn deg fod ein system yn adlewyrchu'r gwahanol werthoedd ardrethol a'r darlun gwahanol sydd gennym yma yng Nghymru.
O ran y dreth trafodiadau tir, yn amlwg, mae gennym gyfradd wahanol, uwch ar gyfer trethi amhreswyl. Ac mae'r rheini ar gyfer pryniannau dros £1 miliwn. Pan gyrhaeddwch £1.1 miliwn, mae'r dreth trafodiadau tir yn dechrau dod yn uwch na threth dir y dreth stamp. Wrth gwrs, cytunwyd ar y gyfradd honno gan y Cynulliad pan wnaethom bleidleisio ar hynny. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod mai hon yw blwyddyn gyntaf yr ardrethi penodol hynny, felly rydym yn amlwg yn cadw llygad barcud arnynt, ond rydym hefyd yn cadw llygad barcud ar yr hyn sy'n digwydd yn Iwerddon a'r Alban hefyd. Oherwydd mae pob un ohonom wedi dilyn gwahanol lwybrau ac nid oes gennym unrhyw arwydd hyd yn hyn fod yr ardrethi hynny'n atal busnesau rhag lleoli yng Nghymru, oherwydd pan fydd busnesau'n lleoli, maent yn gwneud hynny am lu o resymau, a bydd y dreth trafodiadau tir yn un ohonynt, ond yn amlwg, bydd materion eraill fel sgiliau a chefnogaeth y Llywodraeth i fusnes yn ffactorau.
Wel, cawsoch gyfle euraidd, Weinidog—ac rydych wedi ei golli, a dweud y gwir—i ostwng y lluosydd ardrethi busnes a'i gwneud yn fwy deniadol i bobl ddod yma a buddsoddi yng Nghymru— £600 miliwn yn ychwanegol wedi'i ddarparu gan Lywodraeth y DU, grant bloc Cymru ar y lefel uchaf erioed. Ac wrth gwrs, er gwaethaf hyn, rydych yn disgwyl i ni gredu nad oes unrhyw beth y gallwch ei wneud i leihau effaith y trethi hynny ar fusnesau.
Y gwir amdani yw bod gennym Lywodraeth yma nad yw’n rheoli ei gwariant yn iawn. Rydym wedi cael cost ychwanegol o £51 miliwn o ganlyniad i oedi a gorwario ar ffordd Blaenau'r Cymoedd, £221 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn ardaloedd menter anghystadleuol, ac wrth gwrs, rydym wedi gweld—ac amlygwyd hyn eto ddoe ddiwethaf—degau o filiynau o bunnoedd bob blwyddyn yn mynd i mewn i dwll du i lawr y ffordd ym Maes Awyr Caerdydd.
Nawr, gwyddom fod llawer o bobl, bob blwyddyn, ym mis Ionawr, yn achub ar y cyfle i fyfyrio a gwneud addunedau blwyddyn newydd. A gaf fi awgrymu adduned blwyddyn newydd i chi, sef rhoi’r gorau i wastraffu arian trethdalwyr a gwneud popeth y gallwch i gefnogi busnesau fel y crewyr cyfoeth yng Nghymru a fydd yn helpu i gynhyrchu’r incwm y dywed eich Llywodraeth fod ei angen yn enbyd?
O ran ein cefnogaeth i fusnes, credaf fod y ffigurau rydym eisoes wedi'u gweld ar gyfer y dreth trafodiadau tir yn siarad drostynt eu hunain, oherwydd ym mlwyddyn gyntaf y dreth trafodiadau tir, mae'r newidiadau i'r cyfraddau yn sicrhau ein bod yn parhau i fod yn atyniadol i fentrau masnachol. Ac o ganlyniad i'r cyfraddau treth newydd hyn, mae dros 90 y cant o drafodiadau amhreswyl yng Nghymru yn talu'r un faint neu lai o dreth nag y byddent dros y ffin yn Lloegr, ac rydym yn disgwyl i'r newidiadau hynny arwain at gynnydd mewn gweithgarwch masnachol yng Nghymru.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Weinidog, credaf ei bod yn gwbl afresymol fod yn rhaid craffu ar gyllideb Cymru ar gyfer y flwyddyn i ddod cyn i gynlluniau gwario Llywodraeth y DU, gan gynnwys manylion grant bloc Cymru, gael eu cyhoeddi. Disgwylir datganiad ar gyllideb y DU ar 11 Mawrth, ychydig ar ôl i'n gwaith craffu ar y gyllideb yma ddod i ben. Dyma enghraifft arall ar restr hirfaith a chynyddol o resymau pam nad yw San Steffan yn gweithio i Gymru. Ond ai dyma pam fod cyllideb Llywodraeth Cymru mor brin o uchelgais ac arloesedd?
Mae'n rhaid i mi ddweud, yr hyn sy'n brin o arloesedd ac yn brin o uchelgais, yn fy marn i, yw pan fydd y gwrthbleidiau'n cyhoeddi datganiadau i'r wasg a allai fod wedi'u hysgrifennu o'r blaen. Credaf ei bod bron yn rhagweladwy, onid yw, y bydd gwrthblaid yn dweud bod cyfle wedi'i golli neu eu bod yn siomedig? Beth am astudio a chraffu ar y gyllideb a herio pethau o ddifrif os ydych o'r farn y dylent fod yn wahanol? Beth am gynnig cyllidebau amgen? Beth am gynnig syniadau ar gyfer ffyrdd eraill y dylid gwario arian Llywodraeth Cymru? Credaf y byddai hynny'n gyfraniad mwy defnyddiol o lawer i'r ddadl.
Nid oes gennyf unrhyw syniad at ba ddatganiad i'r wasg y cyfeiriwch ato, ond byddaf yn parhau i graffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru. Nid oes unrhyw newidiadau sylweddol i'w gweld ym meddylfryd y Llywodraeth; rheoli'r gyllideb, dyna a welwn. Credaf fod y newid yn yr hinsawdd yn un o'r meysydd lle mae eich Llywodraeth wedi methu dangos mewn ffordd ystyrlon sut y mae gwariant yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd mewn gwirionedd—gwneud penderfyniadau mawr yn awr er ein lles hirdymor. Nawr, fel y nododd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, ni all y Llywodraeth ddweud wrthym hyd yn oed sut y bydd eich cynlluniau gwario yn effeithio ar allyriadau carbon. Er mwyn gweld pam fod angen y math hwnnw o asesiad arnom, edrychwch ar y diweddariad i'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru ar gyfer 2019; mae'n dangos buddsoddiad o £1.56 biliwn ar ffyrdd o gymharu â buddsoddiad o £818 miliwn mewn trafnidiaeth gynaliadwy, sy'n awgrymu i mi y gallai elfennau o'ch cyllidebu fod yn tanseilio eich amcanion i gyrraedd sero-net o ran carbon mewn gwirionedd. Nawr, a wnewch chi fel Gweinidog roi sicrwydd inni y bydd pob cyllideb yn y dyfodol yn darparu asesiad effaith carbon? Ac o ystyried bod yn rhaid i ni ganolbwyntio mwy ar wariant ataliol ar draws meysydd gwario'r Llywodraeth, a wnewch chi ddarparu dogfen fanwl yn y dyfodol hefyd ar ble mae'r Llywodraeth yn gwario ar atal?
Cefais gyfle i drafod y mater penodol hwn gyda Gweinidog yr amgylchedd a materion gwledig y bore yma, gan ein bod yn awyddus i allu dangos y penderfyniadau a wnawn a'r effaith y maent yn ei chael ar ostwng lefelau carbon. Fodd bynnag, nid yw pethau mor syml â hynny mewn gwirionedd.
Felly, er enghraifft, dim ond un rhan o'r darlun yw buddsoddi yn y seilwaith i gefnogi ceir trydan, gan y bydd y carbon sy'n cael ei arbed mewn gwirionedd o ganlyniad i hynny yn dibynnu ar y nifer sy'n defnyddio cerbydau trydan, ac mae hynny, mewn sawl ffordd, yn dibynnu ar wahanol ysgogiadau y bydd Llywodraeth y DU yn eu rhoi ar waith o ran treth. Felly, os gofynnwch i mi faint y byddwn yn ei arbed o ran carbon o ganlyniad i'n buddsoddiad mewn pwyntiau gwefru, er enghraifft, ni allwn ddweud. Gallwn ddweud sut y bydd ein buddsoddiad, er enghraifft, i newid y fflyd o lorïau sbwriel ledled Cymru yn arbed, gan y gallwn ddangos faint y mae pob lori yn ei allyrru.
Felly, wrth gwrs, mae'n anodd iawn dangos asesiad effaith carbon llawn. Yn aml, arbed carbon yw'r prif reswm pam y byddwn yn gwneud pethau, ac yn aml, maent yn fuddion eilaidd i'r rhesymau pam ein bod yn gwneud pethau. Felly, mae'r llun yn hynod gymhleth. Ond yn amlwg, fel y nodwyd yn ein cynllun i wella'r gyllideb, byddwn yn parhau i ymdrechu i egluro'r penderfyniadau a wnawn o ran asesiadau effaith carbon. Ond mewn gwirionedd, efallai nad yw pethau mor syml ag yr awgrymodd yr Aelod.
Ond, Weinidog, os gaf i awgrymu, y gwir amdani ydy, wrth gwrs ei bod hi'n anodd i chi fesur yr impact, achos dydych chi ddim yn gwneud asesiadau impact. Felly, gofyn i chi ydw i, fel Llywodraeth, i wneud yn siŵr eich bod chi, mewn cyllidebau yn y dyfodol, yn gwneud asesiad o sut yn union mae'r penderfyniadau gwariant rydych chi yn eu cymryd yn mynd i gael impact ar ein huchelgeisiau ni o ran torri allbwn carbon.
Cyfle wedi'i golli ydy'r gyllideb yma, fel y dywedais i ddoe. Mae yna rywfaint o ryddhad—dros dro y mae'r rhyddhad yna, dwi'n ofni—yn yr arian sydd ar gael i'w wario yn y flwyddyn ariannol nesaf, ond dydy'r cyfle ddim wedi cael ei gymryd i fuddsoddi go iawn rŵan yn yr hirdymor. Dŷn ni ddim yn meddwl yn ddigonol am lesiant ein cenedl yn yr hirdymor.
Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo yn barod i gyflwyno prosesau cyllidol llesol, yn cynnwys gwneud asesiadau carbon, er enghraifft. Does yna neb wir yn gweld hon fel cyllideb sy'n arloesi, cyllideb sy'n ennyn gobaith, yn dangos uchelgais ar gyfer dilyn llwybr newydd. Pa bryd fyddwch chi fel Gweinidog yn sylweddoli bod rheoli ynddo fo'i hun ddim yn ddigon?
Yn amlwg, buaswn yn anghytuno â'r hyn yr awgryma'r Aelod—fod y gyllideb hon yn cynrychioli busnes fel arfer. Wrth gwrs nad ydyw. Rydym yn gweld pecyn buddsoddi sylweddol mewn datgarboneiddio a bioamrywiaeth, ac mae'n flin gennyf na all ei groesawu.
Felly, byddwn yn gweld £5 miliwn yn cael ei ddefnyddio i greu seilwaith gwyrdd mewn canol trefi ac annog bioamrywiaeth. Pa mor aml rydym yn sôn yn y Siambr hon am ba mor bwysig yw hi ein bod yn gwyrddu canol ein trefi? Mae gennym gronfa twf amgylcheddol benodol, a fydd yn gofalu am leoedd lleol ar gyfer natur ac yn annog ceisiadau i gefnogi atal dirywiad natur yn ein cymunedau lleol. Dywed yr Aelod mai cynllun yw hwn—wrth gwrs ei fod yn gynllun, ond mae'n rhan o becyn ehangach sy'n newid cyfeiriad ac yn newid ffocws ein cyllideb.
Llefarydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Diolch, Lywydd. Weinidog Cyllid, siaradais â chi ar y diwrnod y cyhoeddwyd y gyllideb a gwneuthum rai o'r pwyntiau rydym wedi'u clywed gan Rhun heddiw, ac yn rhannol ddoe. Ac rwy'n falch o glywed eich bod wedi cyfarfod â Lesley Griffiths y bore yma i ystyried rhai o'r materion hyn. Fodd bynnag, yn eich datganiad ddoe, fe ddywedoch chi eich bod yn buddsoddi yn y meysydd lle gallwn gael yr effaith fwyaf ar gyfer ein hamgylchedd. Yna, fe ddyfynnoch chi bedwar ohonynt: teithio llesol; fflyd fysiau trydan; ffyrdd newydd o adeiladu cartrefi; a'r goedwig genedlaethol. A gaf fi ofyn, sut y gwnaethoch flaenoriaethu'r meysydd hyn a phenderfynu faint i'w fuddsoddi ym mhob un o'r gwahanol feysydd?
Lluniwyd y cynlluniau penodol hyn yn rhan o'r gwaith trawslywodraethol a wnaethom, pan aeth pob Aelod o'r Llywodraeth i'r afael ag un o'n hwyth maes trawsbynciol, sy'n faes na fyddent yn ei oruchwylio fel arfer, ac yna fe wnaethant ymdrechu i weithio ar draws y Llywodraeth gyda chyd-Aelodau i chwilio am gyfleoedd ar gyfer syniadau newydd, meysydd gwario newydd, a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol, a'r meysydd lle dywed y dystiolaeth wrthym y gellir gwneud gwahaniaeth. Felly, dyma'r cynlluniau a gafwyd o ganlyniad i'r gwaith trawslywodraethol hwnnw.
O edrych ar y dystiolaeth, nid oes angen inni wneud yr holl waith o gasglu tystiolaeth empirig ein hunain—dim ond edrych am enghreifftiau o arferion gorau yn fyd-eang o ran yr hyn y gwyddom sy'n gweithio, a chael cyngor gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd o ran yr hyn yr hoffent weld Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ei hymdrechion arno o ran datgarboneiddio a gostwng ein hallyriadau carbon ledled Cymru.
Gallaf weld bod y Gweinidog yn awyddus i ddilyn arferion gorau. Ac i'r graddau fod Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd yn bodoli a bod ganddo restr o wahanol brosiectau y mae'n ystyried y gallant fod yn effeithiol, gallaf weld pam ei bod yn defnyddio hynny fel man cychwyn. Ond fel Gweinidog cyllid sy'n gwneud penderfyniad ynghylch faint o'n hadnoddau gwerthfawr i'w buddsoddi mewn meysydd penodol, i'r graddau y caiff hyn ei gyflwyno fel rhywbeth sy'n ymwneud â'r newid yn yr hinsawdd, does bosibl na fyddai'n hoffi gwneud y gwahaniaeth mwyaf y gallai ei wneud gyda'r swm o arian sydd ar gael iddi? Nid wyf yn gwybod ai'r asesiad effaith hinsawdd a awgrymodd Rhun yw'r ffordd iawn ai peidio. Ond does bosibl nad oes angen iddi wneud mwy o waith ar ddeall beth yw'r gwerth am ei harian—os bydd yn cael arian o'r fath—ym mhob un o'r gwahanol feysydd hyn?
Er enghraifft, mae'n sôn am y goedwig genedlaethol—a rhwng popeth, ymddengys i mi ei bod yn fenter dda i blannu mwy o goed a chael coedwig genedlaethol a gweithio ar hynny yng Nghymru—ond beth yw cost gymharol hynny o gymharu ag un arall o’i mentrau, sef buddsoddi arian mewn plannu coed yn Uganda, o ystyried y gwahanol fathau o goed sy’n tyfu, pa mor gyflym y maent yn tyfu, faint o garbon deuocsid y maent yn ei amsugno, faint y mae’n ei gostio i’w plannu, a pha mor effeithiol y bydd y broses reoli mewn perthynas â hynny? Does bosibl nad oes angen i ni ystyried hynny?
Mae hi'n sôn am y ffordd rydym yn adeiladu cartrefi newydd, ac mewn mannau eraill yn y gyllideb, mae'n pwysleisio pwysigrwydd cartrefi fforddiadwy. Ond oni allai fod cyfaddawd rhwng y ddau uchelgais gwahanol? Un maes lle mae tystiolaeth gref o effeithiolrwydd gwariant yn fy nhyb i yw effeithlonrwydd ynni ac inswleiddio cartrefi, lle rydych yn lleihau biliau ynni ar gyfer yr unigolyn dan sylw ac efallai'n cael rhywfaint o effaith hefyd o ran yr hyn y ceisia ei wneud ynglŷn â'r newid yn yr hinsawdd. Onid yw hwnnw'n faes y dylai fod yn buddsoddi arian ynddo, o gymharu â meysydd eraill a allai fod yn ddrytach? Er enghraifft, beth yw cost cael bws trydan o gymharu, dyweder, â buddsoddi mewn rhagor o fysiau, er enghraifft, ym Mlaenau Gwent? Gallai hynny sicrhau bod pobl yn dod allan o'u ceir neu ganiatáu iddynt deithio mewn ffyrdd na allent ei wneud fel arall. Os gwelwch yn dda, cyn cyllideb y flwyddyn nesaf o leiaf, a allwn gael ffordd fwy trylwyr o gynnal yr asesiadau hyn?
Ac mae'n sôn am fod yn awyddus i fuddsoddi arian mewn cyfathrebu—tybiaf fod hynny'n golygu dweud wrth bobl pa mor wych yw Llywodraeth Cymru a'r hyn y mae'n ei wneud ar newid hinsawdd—ond a wnaiff hi ystyried cyfleu neges wirioneddol effeithiol? Un o'r pethau sy'n atal coed rhag cael eu plannu yw'r PAC, gan fod cymhorthdal yn cael ei roi i dir ffermio, ond nid i goetiroedd fel y cyfryw. Os yw hynny'n mynd i newid, sut y bydd yn rhoi cyhoeddusrwydd i hynny? Sut y bydd yn annog pobl i inswleiddio'u cartrefi, rhywbeth a fydd o fudd iddynt hwythau hefyd? A wnaiff hi weithio'n galetach i gydgysylltu a gwella polisi yn y maes hwn?
Credaf fod y ddau faes y canolbwyntiodd Mark Reckless arnynt—wel, dau o'r meysydd y canolbwyntiodd arnynt—yn ddau o'r meysydd lle nododd y dystiolaeth gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd y dylid canolbwyntio ymdrechion datgarboneiddio. Felly, un yw'r sector trafnidiaeth ffyrdd—un sy'n hanfodol i gyflawni targed o sero-net—ac felly, mewn ymateb i hynny a'r dystiolaeth a ddarparwyd gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, mae dros £60 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol wedi'i dargedu mewn datgarboneiddio wedi'i anelu'n uniongyrchol bellach at y sector trafnidiaeth yn ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Ac ynghyd â hynny, nododd Mark Reckless fod tai, gwresogi domestig ac ynni domestig yn feysydd pwysig i fynd i’r afael â hwy. Ac eto, dywed Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd fod hwnnw'n faes y dylem roi ein sylw iddo. Felly, mae'r gyllideb yn darparu £25 miliwn ychwanegol yn ein rhaglen tai arloesol i edrych ar hynny. Felly, rydym yn derbyn y dystiolaeth sy'n cael ei darparu i ni a'r argymhellion gan arbenigwyr ac yn eu defnyddio i lywio ein penderfyniadau cyllidebu.
Yn amlwg, mae yna ffyrdd o gymharu pethau. Felly, cyfeiria Mark Reckless at y prosiect plannu coed uchelgeisiol sydd gennym yn Uganda, ac yna mae'n edrych ar y gwaith a wnawn yma yng Nghymru ar y goedwig genedlaethol. Ac yn amlwg, rydym am wneud y ddau beth. Gallwch gael mwy o werth am eich arian os mai yn Uganda'n unig y byddwch yn plannu'r coed hynny. Yn gyffredinol, mae'n rhatach i wneud hynny, maent yn tyfu'n gyflymach ac yn y blaen. Yn dibynnu ar ba fath o goed sy'n cael eu plannu, byddwch yn cael canlyniadau gwahanol o ran carbon. Ond i'r un graddau, rydym yn awyddus i blannu coed yng Nghymru, gan y gwyddom beth fydd y budd i'ch llesiant ac ati os cewch gyfle i gerdded drwy goed ac mewn coetiroedd. Felly, mae'n amlwg fod sawl budd i blannu coed, ac maent yn sicr yn bethau y byddem yn awyddus i'w gwneud yng Nghymru, er y gallech, yn dechnegol, gael mwy o werth am eich arian o'i wneud yn rhywle arall.