Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 8 Ionawr 2020.
Yn amlwg, buaswn yn anghytuno â'r hyn yr awgryma'r Aelod—fod y gyllideb hon yn cynrychioli busnes fel arfer. Wrth gwrs nad ydyw. Rydym yn gweld pecyn buddsoddi sylweddol mewn datgarboneiddio a bioamrywiaeth, ac mae'n flin gennyf na all ei groesawu.
Felly, byddwn yn gweld £5 miliwn yn cael ei ddefnyddio i greu seilwaith gwyrdd mewn canol trefi ac annog bioamrywiaeth. Pa mor aml rydym yn sôn yn y Siambr hon am ba mor bwysig yw hi ein bod yn gwyrddu canol ein trefi? Mae gennym gronfa twf amgylcheddol benodol, a fydd yn gofalu am leoedd lleol ar gyfer natur ac yn annog ceisiadau i gefnogi atal dirywiad natur yn ein cymunedau lleol. Dywed yr Aelod mai cynllun yw hwn—wrth gwrs ei fod yn gynllun, ond mae'n rhan o becyn ehangach sy'n newid cyfeiriad ac yn newid ffocws ein cyllideb.