Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 8 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:48, 8 Ionawr 2020

Ond, Weinidog, os gaf i awgrymu, y gwir amdani ydy, wrth gwrs ei bod hi'n anodd i chi fesur yr impact, achos dydych chi ddim yn gwneud asesiadau impact. Felly, gofyn i chi ydw i, fel Llywodraeth, i wneud yn siŵr eich bod chi, mewn cyllidebau yn y dyfodol, yn gwneud asesiad o sut yn union mae'r penderfyniadau gwariant rydych chi yn eu cymryd yn mynd i gael impact ar ein huchelgeisiau ni o ran torri allbwn carbon.

Cyfle wedi'i golli ydy'r gyllideb yma, fel y dywedais i ddoe. Mae yna rywfaint o ryddhad—dros dro y mae'r rhyddhad yna, dwi'n ofni—yn yr arian sydd ar gael i'w wario yn y flwyddyn ariannol nesaf, ond dydy'r cyfle ddim wedi cael ei gymryd i fuddsoddi go iawn rŵan yn yr hirdymor. Dŷn ni ddim yn meddwl yn ddigonol am lesiant ein cenedl yn yr hirdymor.

Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo yn barod i gyflwyno prosesau cyllidol llesol, yn cynnwys gwneud asesiadau carbon, er enghraifft. Does yna neb wir yn gweld hon fel cyllideb sy'n arloesi, cyllideb sy'n ennyn gobaith, yn dangos uchelgais ar gyfer dilyn llwybr newydd. Pa bryd fyddwch chi fel Gweinidog yn sylweddoli bod rheoli ynddo fo'i hun ddim yn ddigon?