Ariannu Gwasanaethau Deintyddol

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 8 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:01, 8 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'n ddealladwy fod gan lawer o breswylwyr cartrefi gofal iechyd deintyddol gwael i gychwyn pan fyddant yn mynd i gartref gofal, gan eu bod yn aml yn mynd i gartref gofal gan fod eu hiechyd yn dirywio ac oherwydd diffyg symudedd. Gan fod mynediad deintyddol i blant ar lefel uwch nag erioed, ac fel y gwyddoch, rwy'n sôn yn rheolaidd iawn am ba mor dda yw Cynllun Gwên, a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod yn newyddion gwych i bobl hŷn y bydd cyllideb rhaglen Gwên am Byth yn dyblu y flwyddyn nesaf, gan sicrhau bod y cynllun yn cyrraedd pob cartref gofal ledled Cymru?