Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 8 Ionawr 2020.
Diolch i Mike Hedges am godi'r mater penodol, pwysig hwnnw ac am ei gefnogaeth gyson i Cynllun Gwên. Cofiaf, yn y sesiwn graffu ddiweddar ar gyllid, iddo gyfeirio ato fel un o'r enghreifftiau rhagorol o wariant gwirioneddol ataliol sydd gennym yng Nghymru. Credaf ei bod ond yn deg ein bod yn ceisio canolbwyntio ein hymdrechion er mwyn gwella iechyd y geg ac iechyd deintyddol pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal, felly rwy'n falch iawn fod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi £0.25 miliwn yn ychwanegol i ymestyn rhaglen iechyd y geg Gwên am Byth—A Lasting Smile i'r flwyddyn nesaf, ac rydym yn dyblu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer hynny bellach i sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno ym mhob cartref gofal yng Nghymru yn 2020.