1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 8 Ionawr 2020.
5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli ei hadnoddau i sicrhau gwerth am arian ac effeithiolrwydd? OAQ54857
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod penderfyniadau gwariant yn cael eu llywio gan dystiolaeth gadarn a bod gwerth am arian yn cael ei ystyried wrth ddatblygu polisi. Rydym yn cyfeirio at ystod o ganllawiau i wneud y defnydd gorau o adnoddau cyhoeddus, gan gynnwys yr egwyddorion lefel uchel a nodir yn Llyfr Gwyrdd Trysorlys EM.
Gŵyr y Gweinidog nad oes prinder ymgeiswyr am fwy o wariant lle mae gwir angen, boed hynny'n golygu'r gwasanaeth iechyd neu leihau tlodi tanwydd neu beth bynnag. Credaf y bydd y rhan fwyaf o drethdalwyr Cymru yn crafu eu pennau, felly, pan fyddant yn darganfod y bydd £1.2 miliwn yn cael ei wario ar sefydliadau fel Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru—lle mae dwy ran o dair o'i hincwm yn cael ei wario ar gyflogau ei staff. O'r rhan o'i hincwm nad yw'n cael ei wario ar gyflogau staff, mae'n cefnogi sefydliadau fel Hub Cymru Affrica, sy'n derbyn £640,000 y flwyddyn. Nid yw'n darparu unrhyw gyfrifon ei hun, felly nid oes gennym unrhyw syniad faint o bobl y mae'n eu cyflogi na faint o gyflog y maent yn ei ennill, ac mae'n gwario'r arian nad yw'n ei wario ar gyflogau staff yn bennaf ar eitemau nad ydynt yn dod o Gymru neu endidau eraill, sydd eu hunain yn gwario'r arian yn bennaf ar gyflogau staff, fel y panel cynghori is-Sahara, sydd ag incwm o £68,000 y flwyddyn, a chostau staff o £74,000.
Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gyfrifoldeb am gymorth tramor, datblygu tramor na pholisi tramor, felly pam rydym yn ymbleseru yn y sioe fawr hon o nodi rhinweddau a ariennir gan drethdalwyr ar gyfer gwleidyddion dosbarth canol ym Mae Caerdydd pan fo anghenion gwirioneddol y tu allan? Fel y mae'r blogiwr Jac o' the North wedi'i ddisgrifio'n fwy bachog, o bosibl:
Mae gan wlad â phobl ddigartref ar y strydoedd, lle mae plant yn mynd i'r ysgol yn llwglyd, lle mae pobl yn marw wrth aros am ambiwlansys, filiynau o bunnoedd i'w sbario, yn ôl pob golwg, fel y gall gweithredwyr diletantaidd o Loegr a gwleidyddion Cymreig diwerth deimlo'n well amdanynt eu hunain.
Mae Llywodraeth Cymru yn falch o fod yn Llywodraeth ryngwladol, fyd-eang sy'n cymryd ei chyfrifoldebau i'r blaned ac i eraill o ddifrif. Rydym yn gwbl falch o'r gwaith a wnawn drwy ein rhaglen Cymru o Blaid Affrica. Credaf y gallai apelio'n well at werthoedd yr Aelod pe byddwn yn gwneud y pwynt ei bod, mewn gwirionedd, yn fuddiol i ni os yw gwledydd tramor sy'n ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd yn gallu ymdopi'n well mewn cymaint o ffyrdd. Mae heddwch dramor yn fuddiol i ni. Mae sicrhau bod gwledydd tramor yn gallu gwneud cyfraniad gwell at yr argyfwng hinsawdd yn fuddiol i ni. Felly, credaf efallai y gallai'r syniadau cul hynny helpu'r Aelod i ddeall pa mor bwysig yw ein rhaglen Cymru o Blaid Affrica.
Yn amlwg, mae rheoli adnoddau i sicrhau gwerth am arian ac effeithiolrwydd yn cynnwys chwarae, sy'n allweddol i iechyd a lles plant. Nododd yr adolygiad diweddar o asesiadau digonolrwydd chwarae a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru gan Chwarae Cymru fod cyllid grant cyfleoedd chwarae Cymru gyfan gan Lywodraeth Cymru wedi arwain at fwy o weithgarwch i sicrhau cyfleoedd chwarae ledled Cymru, ac y dylai Llywodraeth Cymru fod yn glir ynghylch sut y dylid defnyddio buddsoddiadau gwrth-dlodi a buddsoddiadau eraill â ffocws i gefnogi digonolrwydd chwarae. Sut rydych yn ymateb, felly, i bryderon a godwyd gyda mi gan gynrychiolwyr y sector chwarae yr wythnos hon, sydd wedi cael gwybod na fydd y grant cyfleoedd chwarae Cymru gyfan yn parhau yn y flwyddyn ariannol nesaf; mai'r grant hwn yw'r unig beth sydd wedi bod yn cadw'r darnau olaf o seilwaith chwarae a gwaith chwarae i fynd ledled Cymru; a'u bod, fel sector, yn colli nifer o staff rhagorol sydd wedi gadael i fynd i feysydd eraill, ac er bod gwaith rhagorol yn mynd rhagddo mewn rhai ardaloedd, mae bylchau enfawr yn y seilwaith o hyd ac mae'r ddarpariaeth yn crebachu?
Rwy'n ymwybodol o waith da Chwarae Cymru. Rwyf wedi cael cyfle i weld rhai o'r pethau a wnânt yn lleol yn fy ardal fy hun. Yr hyn a ddywedaf yw nad wyf yn arbennig o gyfarwydd â'r grant penodol y cyfeiria'r Aelod ato, ond os ysgrifennwch ataf gyda mwy o wybodaeth, efallai y gallaf ei drafod gyda'r Gweinidog perthnasol sy'n gyfrifol.