Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 8 Ionawr 2020.
Diolch, Llywydd. Yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog ddoe, mi wnes i godi achos dyn oedrannus Cymraeg ei iaith o Ynys Môn sy'n byw efo dementia. Mae'r ffaith bod bwrdd iechyd sydd i fod yn gweithredu'n unol â'r safonau iaith hyd yn oed yn ystyried darparu gofal iddo yn Lloegr, lle, wrth gwrs, na fyddai yna wasanaeth Cymraeg ar gael, yn brawf gwbl ddiamheuol fod y safonau ar y byrddau iechyd yn ddiffygiol.
O dan eich safonau chi fel maen nhw ar hyn o bryd, mae'r sefyllfa oedd yn wynebu'r gŵr o Fôn yn berffaith gyfreithlon a does dim gwarchodaeth gyfreithiol o gwbl i gleifion. Does bosib y dylai hi fod yn ddisgwyliad ar fwrdd iechyd i ddarparu gwasanaeth i gleifion bregus, megis cleifion dementia, yn eu hiaith gyntaf, ac na ddylai hi syrthio ar deuluoedd, gwleidyddion a grwpiau pwyso i ddiogelu hawliau dynol sylfaenol siaradwyr Cymraeg i wasanaeth yn eu hiaith. Ydych chi'n cytuno ag awgrym y Prif Weinidog ddoe fod yna ddiffygion sylfaenol i'r safonau iechyd a bod rhaid ail-ymweld â nhw ar fyrder?