Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 8 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:29, 8 Ionawr 2020

Wel, gaf i ategu at yr hyn ddywedodd y Prif Weinidog ddoe? Mae'n anodd inni drafod materion personol ynglŷn ag un unigolyn, ond mae yn bwysig ein bod ni'n deall hefyd fod yna faterion clinigol ambell waith sydd yn golygu ei fod e'n ofynnol i bobl adael ein gwlad ni. Ond dwi yn cyd-fynd â'r Prif Weinidog wrth iddo ddweud bod angen inni gydnabod bod hawliau siaradwyr Cymraeg i gael eu materion nhw wedi ymdrin â nhw trwy gyfrwng y Gymraeg a'u gofal nhw trwy gyfrwng y Gymraeg yn rhywbeth rŷm ni'n ei weld fel rhywbeth elfennol a sylfaenol y dylem ni fod yn cael ein cynnig yng Nghymru.