Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 8 Ionawr 2020.
Diolch yn fawr am y sylw yna. Rydym ni wedi buddsoddi'n sylweddol yn barod drwy Chwaraeon Cymru, sy'n arwain ein buddsoddiad mewn caeau pêl-droed 3G ac artiffisial. Maen nhw wedi buddsoddi £3.731 miliwn yn y grŵp cyfleusterau chwaraeon cydweithredol, sy'n cynnwys Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru a Hoci Cymru. Mae hyn wedi helpu Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru i sefydlu 77 o gaeau chwarae 3G yng Nghymru. Y targed yw creu 100 o'r caeau yma erbyn 2024.