Adnoddau Pêl-droed 3G Cymunedol

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 8 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:10, 8 Ionawr 2020

Diolch yn fawr iawn am yr ymateb yna, a dwi am eich annog chi i fuddsoddi ymhellach ac i fuddsoddi'n benodol yn Ynys Môn. Gan gyfeirio at y cwestiwn blaenorol ynglŷn â phêl-droed rhyngwladol, fydd yna ddim pêl-droed rhyngwladol heb bêl-droed llwyddiannus yn ein pentrefi a'n trefi ni ym mhob cwr o Gymru. Dwi'n edrych ymlaen at ddilyn tîm Cymru draw i Azerbaijan yn nes ymlaen eleni, ond fyddwn ni ddim yn gallu gwneud hynny mewn blynyddoedd i ddod heb fuddsoddi yn y grass roots fel petai.

Mae yna gae 3G bendigedig yn Llangefni, mae yna fuddsoddiad yn mynd i fod mewn uwchraddio adnoddau ym Mhorthaethwy. Mae gwirioneddol angen caeau 3G newydd yng Nghaergybi ac yn Amlwch. Dwi wedi cynnal cyfarfodydd yn barod efo aelodau o'r cymunedau hynny sy'n barod i wneud beth bynnag sydd ei angen i ddod â'r buddsoddiad i mewn. Mae'r cyngor sir â chynllun dros y blynyddoedd nesaf o wneud buddsoddiad, ond mae angen y buddsoddiad rŵan. Gaf i ofyn am ymrwymiad gan y Llywodraeth i weithio efo fi ac eraill a'r cyngor sir a grwpiau cymunedol, cwmnïau budd cymunedol, yn Ynys Môn i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu chwilio am bob ffordd i dynnu'r arian i mewn i ddod â'r adnoddau yma sy'n hanfodol, nid dim ond ar gyfer dyfodol y gêm brydferth ond ar gyfer ein hiechyd ni fel cenedl?