2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru ar 8 Ionawr 2020.
11. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn adnoddau pêl-droed 3G cymunedol? OAQ54851
Diolch yn fawr am y sylw yna. Rydym ni wedi buddsoddi'n sylweddol yn barod drwy Chwaraeon Cymru, sy'n arwain ein buddsoddiad mewn caeau pêl-droed 3G ac artiffisial. Maen nhw wedi buddsoddi £3.731 miliwn yn y grŵp cyfleusterau chwaraeon cydweithredol, sy'n cynnwys Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru a Hoci Cymru. Mae hyn wedi helpu Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru i sefydlu 77 o gaeau chwarae 3G yng Nghymru. Y targed yw creu 100 o'r caeau yma erbyn 2024.
Diolch yn fawr iawn am yr ymateb yna, a dwi am eich annog chi i fuddsoddi ymhellach ac i fuddsoddi'n benodol yn Ynys Môn. Gan gyfeirio at y cwestiwn blaenorol ynglŷn â phêl-droed rhyngwladol, fydd yna ddim pêl-droed rhyngwladol heb bêl-droed llwyddiannus yn ein pentrefi a'n trefi ni ym mhob cwr o Gymru. Dwi'n edrych ymlaen at ddilyn tîm Cymru draw i Azerbaijan yn nes ymlaen eleni, ond fyddwn ni ddim yn gallu gwneud hynny mewn blynyddoedd i ddod heb fuddsoddi yn y grass roots fel petai.
Mae yna gae 3G bendigedig yn Llangefni, mae yna fuddsoddiad yn mynd i fod mewn uwchraddio adnoddau ym Mhorthaethwy. Mae gwirioneddol angen caeau 3G newydd yng Nghaergybi ac yn Amlwch. Dwi wedi cynnal cyfarfodydd yn barod efo aelodau o'r cymunedau hynny sy'n barod i wneud beth bynnag sydd ei angen i ddod â'r buddsoddiad i mewn. Mae'r cyngor sir â chynllun dros y blynyddoedd nesaf o wneud buddsoddiad, ond mae angen y buddsoddiad rŵan. Gaf i ofyn am ymrwymiad gan y Llywodraeth i weithio efo fi ac eraill a'r cyngor sir a grwpiau cymunedol, cwmnïau budd cymunedol, yn Ynys Môn i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu chwilio am bob ffordd i dynnu'r arian i mewn i ddod â'r adnoddau yma sy'n hanfodol, nid dim ond ar gyfer dyfodol y gêm brydferth ond ar gyfer ein hiechyd ni fel cenedl?
Yn naturiol, rydw i'n mynd i gytuno efo hynny. Ces i'r cyfle i agor maes newydd ym Mharc Eirias yn y sir dwi'n byw ynddi, a dwi'n gwybod pa mor bwysig ydy'r adnodd yma ar gyfer pob math o chwaraeon lle mae'r meysydd yma'n addas. Felly, beth wnaf i ydy cyfleu'r hyn sydd wedi'i ddweud yma heddiw i Chwaraeon Cymru a gofyn am adroddiad pellach ar y cynnydd y maen nhw'n ei wneud yn Ynys Môn yn arbennig. Ac rydw i'n derbyn nad yw hi'n bosibl i gael pêl-droed rhyngwladol yng Nghymru os nad ydy o'n cynnwys y fam ynys yn ogystal.
Diolch i'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog am gwblhau'r holl gwestiynau ar eu cyfer nhw y prynhawn yma.