1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 15 Ionawr 2020.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn falch iawn pan wnaethoch chi ddiwygio'r canllawiau, sydd i'w dilyn gan awdurdodau lleol yn bennaf, gan ei gwneud yn ofynnol iddynt roi camau ychwanegol ar waith cyn gwneud penderfyniad ar gau ysgolion bach, gwledig. Ac er nad oedd hynny'n cynnwys pob ysgol fach, roedd yn ddatganiad o gydnabyddiaeth i le ysgolion bach, gwledig yn y gymuned a'u cyfraniad i safonau, ac wrth gwrs, y canlyniadau negyddol o gludo plant ifanc dros bellteroedd mawr, ac mewn rhai achosion, wrth gwrs, yr effaith negyddol ar y Gymraeg fel iaith gymunedol.
Ond mae ysgolion bach yn ddrutach i'w cynnal y pen, ac i gynorthwyo gyda hyn, ers mis Ebrill 2017 rydych wedi cynnig dyrannu grant o £2.5 miliwn o'r canol bob blwyddyn i gefnogi mwy o waith rhwng ysgolion mewn ardaloedd gwledig. Mae'n grant blynyddol, ond tybed a allwch chi ddweud wrthyf lle gallwn ddod o hyd iddo yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2020-21, a pha ddefnydd sydd wedi'i wneud ohono ers iddo gael ei gyflwyno.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am gydnabod y rôl bwysig y mae ysgolion bach yn ei chwarae yn ein system addysg? Pan ddeuthum i’r swydd, gwneuthum addewid i ddiwygio’r cod trefniadaeth ysgolion i gynnwys rhagdybiaeth yn erbyn cau, ac rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu gwneud hynny.
Mae'r Aelod yn iawn fod gennym grant ysgolion bach a gwledig, sydd yno i gefnogi addysg plant mewn ysgolion bach a gwledig, i sicrhau ei bod gystal ag y dylai fod. Mae yna rai heriau penodol i ddarparu ysgolion bach a gwledig: y ffaith bod gofyn i athrawon addysgu ystod eang o grwpiau oedran, er enghraifft, a'r gallu i wahaniaethu, yn ogystal â phenaethiaid sy'n ymdopi â cyfrifoldebau addysgu yn yr ystafell ddosbarth yn ogystal â chyfrifoldebau rheolaethol.
Mae'r swm o arian sydd ar gael yn y flwyddyn ariannol newydd ar gyfer y grantiau ysgolion bach a gwledig yn parhau ar yr un lefel a bydd hwnnw ar gael. Mae awdurdodau lleol yn gwneud cais am yr arian hwnnw ac maent wedi’i ddefnyddio mewn amryw o ffyrdd i gefnogi amser cynllunio, paratoi ac asesu ar gyfer penaethiaid a chyflogi cymorth ychwanegol yn yr ysgolion hynny, neu, mewn un achos penodol rwy'n ymwybodol ohono, gallu sicrhau bod yr ysgol honno'n rhan o rwydwaith rhannu addysgeg ehangach i wneud yn siŵr bod yr addysgu cystal ag y gallai fod pan nad oes gan ysgolion arbenigedd penodol, weithiau, mewn pwnc unigol.
Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw. Yn amlwg, rwy'n hynod falch o glywed ei fod yn y gyllideb yn rhywle a’i fod yn cael ei ddefnyddio fel y bwriadwyd iddo gael ei ddefnyddio. Er mai awdurdodau lleol, fel y gwyddom, sy'n bennaf gyfrifol am gyllid ysgolion, mae ysgolion, heb os, yn cael eu heffeithio gan y penderfyniadau a wnewch ar y gyllideb addysg. Yn ystod y Cynulliad hwn, rydych yn sicrhau bod £36 miliwn ar gael i leihau maint dosbarthiadau babanod, wedi'i dargedu at y rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan amddifadedd, ond o fewn ei derfynau clir, mae'n agored, rwy'n credu, i gryn dipyn o ysgolion—nifer o ysgolion. A oes gennych unrhyw syniad faint o ysgolion gwledig sy'n cael yr arian i leihau maint dosbarthiadau babanod?
Mae'r £36 miliwn sydd ar gael yn ystod y Senedd hon i gefnogi dosbarthiadau llai yn cynnwys elfen refeniw ac elfen gyfalaf. Mae'r Aelod yn iawn: un o'r meini prawf ar gyfer cais llwyddiannus yw canran uchel o blant sydd â hawl i brydau ysgol am ddim. Ond rydym hefyd yn cefnogi ysgolion lle nad yw'r safonau, o bosibl, mor dda ag y mae angen iddynt fod ac mae angen iddynt gwella, ac rydym hefyd yn edrych ar ysgolion lle nad yw canran uchel o'r plant yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel iaith gyntaf. Rydym yn dewis y meini prawf hynny oherwydd gwyddom mai dyna lle bydd yr arian yn gwneud gwahaniaeth.
Awdurdodau lleol sy’n gwneud ceisiadau. Felly, mae'r awdurdodau lleol eu hunain yn blaenoriaethu pa ysgolion y maent eisiau eu cefnogi—maent yn amrywiaeth o ysgolion ar draws pob un o’n hawdurdodau lleol—ac rwy'n hapus i ddarparu rhestr i'r Aelod o bob ysgol sydd wedi cael yr elfen refeniw a’r elfen gyfalaf.
Diolch am yr ateb hwnnw. Roeddwn yn deall bod yr arian yn cael ei dargedu at ardaloedd o amddifadedd, ond roedd yn ymddangos, yn y ffordd y cafodd ei lunio, y gallai o bosibl fod wedi mabwysiadu cwmpas ychydig yn ehangach na'r grant amddifadedd disgyblion.
Mae'r £36 miliwn hwn, serch hynny—byddwch wedi'i weld yn y wasg yr wythnos hon—eisoes wedi ysgogi rhai cwestiynau am ei werth am arian o ran ei ganlyniadau. Rydych wedi clywed hefyd fod ysgolion yn poeni y gallai cynnal lefelau cyflogaeth yr holl aelodau staff newydd hyn, a phoblogi'r ystafelloedd newydd y gallai'r £36 miliwn fod wedi'u prynu, fod yn eithaf anodd pan ddaw'r ymrwymiad i gyllido maint dosbarthiadau i ben.
Bydd rhai o'r ysgolion sydd wedi defnyddio'r arian hwn hefyd yn gymwys i gael cryn dipyn o incwm grant datblygu disgyblion, ond wrth gwrs, nid pob un ohonynt. Felly, yn gyntaf, a allwch chi ddweud wrthyf a ydych yn disgwyl i'r grant datblygu disgyblion ychwanegol a gyhoeddwyd gennych ar gyfer babanod yr wythnos hon dalu am gost y gweithgaredd hwn o 2020-21 ymlaen, gan amsugno unrhyw gynnydd yn y llinell wariant honno?
Yn ail, beth rydych yn ei ddweud wrth ysgolion gwledig a allai fod wedi gwneud y buddsoddiad hwnnw mewn staff ac adeiladau i leihau maint dosbarthiadau babanod, ond nad oes ganddynt fynediad at lefelau uchel o grant datblygu disgyblion, sydd hefyd yn cefnogi cynaliadwyedd ysgolion o ran niferoedd staff, ysgolion y mae eu darpariaeth o gymorth AAA, sy'n mynd yn ôl at fy nghwestiwn cyntaf heddiw, ddwywaith mor anodd oherwydd teneurwydd y boblogaeth ac felly nid ydynt yn gallu mynd i'r afael ag effeithiau tlodi yn y ffordd y byddent yn hoffi ac yn ôl pob tebyg, yn y ffordd y byddech chi’n hoffi?
Mae rhai ysgolion yn fy rhanbarth yn gwneud yn eithaf da drwy'r gyllideb addysg ganolog, ond nid fy ysgolion gwledig. Ni allaf ond dychmygu beth yw’r sefyllfa yn eich etholaeth hynod wledig chi.
Wel, yn fy etholaeth i, rwy'n falch iawn fod y grant lleihau maint dosbarthiadau yn darparu athro dosbarth ychwanegol yn ysgol gynradd Trefonnen yn Llandrindod ac yn darparu canolfan blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn ardal Ystradgynlais a chwm Tawe. Felly, rwyf wrth fy modd gyda'r effaith y mae'n ei chael yn fy etholaeth i.
Ond gadewch i ni fod yn glir, yn y flwyddyn academaidd hon, bydd tua 95 o athrawon ychwanegol yn cael eu cyflogi o ganlyniad i'r grant hwnnw; bydd tua 40 o gynorthwywyr addysgu ychwanegol yn cael eu cyflogi o ganlyniad i'r grant hwnnw; ac o ran ei gynaliadwyedd, bydd y grant yn bodoli tra byddaf yn Weinidog addysg a hyd at ddiwedd y Senedd hon. O ran Senedd yn y dyfodol, buaswn yn gobeithio y bydd y dystiolaeth a ddaeth i law gan rieni ac athrawon ynglŷn â pha mor werthfawr yw'r grant yn dangos i Lywodraeth yn y dyfodol pa mor bwysig fydd ei barhau.
Llefarydd Plaid Cymru, Bethan Sayed.
Diolch. Hyd y gwn, dyma fy sesiwn graffu olaf cyn i mi fynd ar gyfnod mamolaeth, os aiff popeth yn iawn, felly hoffwn ddymuno’r gorau i bwy bynnag a ddaw yn fy lle. Erasmus yw craidd cyfleoedd ein myfyrwyr i astudio dramor a hebddo, fel y dywedasom ddoe, ni fyddai miloedd o fyfyrwyr yn cael cyfle i deithio a phrofi bywyd dramor. Mae'n fy synnu y byddai'r Torïaid, sy'n honni eu bod yn uchelgeisiol, hyd yn oed yn ystyried neu'n awgrymu’r posibilrwydd o adael Erasmus y flwyddyn nesaf. Os na fydd Llywodraeth y DU yn cymryd rhan yn y rhaglen olynol neu'n cwblhau trafodaethau ar bartneriaethau addysg yn ddigon cyflym gyda’r UE, gallai ein cyfranogiad fod yn y fantol a bydd miloedd o fyfyrwyr, yn enwedig rhai o gefndiroedd incwm is, fel y dywedodd Lynne Neagle ddoe, yn colli’r cyfleoedd bywyd hynny.
Yn sgil y ffaith nad yw'n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn siŵr iawn beth i'w wneud â’r trafodaethau yn y dyfodol yn hyn o beth, a yw'n peri pryder i chi fel Gweinidog fod Senedd y DU—Llywodraeth y DU, mae'n ddrwg gennyf—wrth wrthod y gwelliant i barhau i gymryd rhan yn rhaglenni olynol Erasmus+ yr wythnos diwethaf yn Nhŷ'r Cyffredin, yn chwarae gwleidyddiaeth ideolegol gyda dyfodol addysg uwch? Oni fyddai’n arwain at fwy o ansicrwydd i brifysgolion a cholegau yma yng Nghymru ar ôl blynyddoedd o ansicrwydd beth bynnag o dan gysgod Brexit?
Lywydd, rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran pawb yn y Siambr wrth fynegi fy nymuniadau gorau i Bethan wrth iddi ddechrau ar ei chyfnod mamolaeth. Os caf fi gynnig rhywfaint o gyngor yn hyn o beth, peidiwch â bod ar ormod o frys i ddod yn ôl. [Chwerthin.] Ac rwy’n dweud hynny am resymau cwbl anhunanol. Bethan, rydych ar fin cychwyn ar y gwaith anoddaf y byddwch chi byth yn ei wneud, ac mewn rhai ffyrdd bydd dod yn ôl i'r Siambr hon yn orffwys, gallaf eich sicrhau o hynny. [Chwerthin.] Ond hoffwn ddymuno'r gorau i chi a'ch gŵr ar y daith ryfeddol rydych ar fin cychwyn arni.
Mae Bethan yn codi cwestiwn amserol iawn y prynhawn yma, oherwydd rwy'n deall, Lywydd, fod nifer o gyfranogwyr o raglen Erasmus yn yr oriel uwch ein pennau heddiw—athrawon sydd, fel rhan o'r rhaglen honno, yn gallu gweithio'n rhyngwladol i ddatblygu sgiliau a dealltwriaeth a chryfhau systemau addysg ei gilydd. Mae'r gwaith gwerthfawr hwnnw mewn perygl o gael ei golli os nad ydym yn sicrhau bod y penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud mewn perthynas â chyfranogiad parhaus yn rhaglen Erasmus+.
Fel y dywedasom yn y Siambr ddoe, nid oes unrhyw reswm pam y dylai gadael yr Undeb Ewropeaidd fod yn anghydnaws â’n gallu i barhau i fod yn bartneriaid llawn yn y rhaglen honno, ar draws ystod gyfan y rhaglen, sy'n cefnogi teithiau cyfnewid addysgol i ymarferwyr, i'r rheini mewn addysg uwch, i'r rheini mewn addysg bellach, i'n hysgolion ac i'r rheini yn ein clybiau ieuenctid a'n gwasanaethau ieuenctid. Mae Cymru wedi elwa’n anghymesur ac wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth fanteisio ar gronfeydd Erasmus+ i ehangu cyfleoedd bywyd i ystod gyfan o blant a phobl ifanc a gweithwyr proffesiynol, a gallai hynny fod mewn perygl.
Nawr, mae'n wir nad yw'r bleidlais yr wythnos hon yn ein hatal rhag cynnal trafodaethau parhaus, ac rwyf wedi defnyddio pob cyfle a gefais a byddaf yn parhau i orfod perswadio Chris Skidmore, a'r Trysorlys yn arbennig, o wir werth yr arian hwnnw. Ac weithiau, mae angen atgoffa gwleidyddion a gweision sifil y gallwn wybod cost popeth heb sylwi ar werth rhai pethau weithiau, ac mae Erasmus+ yn enghraifft o rywbeth sy'n werth cymaint yn fwy na'r symiau ariannol a fuddsoddir.
Diolch. I fynd ar ôl eich pwynt cyntaf am gyfnod mamolaeth, rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl yn falch na fyddaf yn rhuthro yn ôl. [Chwerthin.]
O ran senarios gwaethaf, gofynnais i'r Prif Weinidog ddoe, ac roeddech chi yma ar y pryd, ynglŷn â chynlluniau wrth gefn y gellir eu gwneud, yn benodol o ran y posibilrwydd o sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch yma yn gweithio'n uniongyrchol gyda sefydliadau Ewropeaidd. Ac felly, a allwch ddweud wrthyf pa drafodaethau a gawsoch gyda phartneriaid yn yr UE ynglŷn â gwneud hynny? Rwy'n deall nad ydym yn gallu ymrwymo i gytundebau dwyochrog penodol rhwng y DU a'r UE ar deithiau cyfnewid addysgol, ond mae'n debyg y gallem edrych ar feithrin ein perthynas ein hunain â sefydliadau addysg uwch ledled Ewrop, fel rydym eisoes yn ei wneud rwy'n siŵr, ond rydym bellach o dan rywfaint o bwysau i sicrhau y byddai rhaglen Erasmus+ yn gallu parhau. Felly, a allwch roi syniad i mi o’r hyn rydych yn ei wneud yn hynny o beth, a pha gynlluniau wrth gefn sydd ar y gweill?
Mae gan Lywodraeth Cymru a minnau hierarchaeth o ddewisiadau. Ein dewis cyntaf yw parhau i allu cymryd rhan yn y rhaglen Erasmus+ lawn ar sail y DU. Dyna ein dewis cyntaf oherwydd credwn fod cryfder i'r brand hwnnw, mae'n ddealladwy, ac mae'n cyd-fynd â'r nodau strategol a fyddai gennym fel Llywodraeth. Rwy'n ymwybodol fod Llywodraeth San Steffan a swyddogion cyfatebol yn Lloegr yn edrych ar gynllun DU gyfan o bosibl. Mae hwnnw, rwy’n credu, yn ail ddewis gan nad oes iddo’r un gydnabyddiaeth a hanes—fel y dywedais—â’r cynllun Erasmus presennol. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda fy swyddog cyfatebol yn yr Alban a chynrychiolwyr y gwasanaeth sifil yn Iwerddon i edrych ar gynllun Celtaidd os nad oedd cynllun DU ar gael neu os nad oedd Llywodraeth Lloegr yn fodlon buddsoddi yn y maes penodol hwn. Felly, rydym yn edrych ar hynny yn ogystal â chael sgyrsiau sefydliadol unigol lle mae ein sefydliadau yng Nghymru yn ceisio sicrhau partneriaethau â sefydliadau ledled Ewrop. Felly, fel y gallwch weld, mae yna hierarchaeth.
Yr hyn rwy’n ei ofni fwyaf, yn dilyn y trafodaethau rwyf wedi’u cael, yw y gallai'n hawdd fod cynllun newydd i gymryd ei le ar yr ochr addysg, ond rwy'n ofnus iawn mewn perthynas ag addysg bellach yn enwedig, a gwasanaethau ieuenctid yn enwedig, ac ynglŷn ag a oes unrhyw warantau neu unrhyw debygolrwydd y bydd Llywodraeth y DU yn gweld gwerth yn hynny. Felly, rwy'n poeni llai am brifysgolion, ond rwy'n bryderus iawn am y rhaglen yn ehangach.
Diolch yn fawr am hynny. Mae hynny'n glir. Mae mater Erasmus yn codi rhai cwestiynau eraill yn fy meddwl, lle na fyddem, efallai, yn cytuno i’r un graddau, rwy'n credu—ond nid wyf wedi’i grybwyll eto—yn ymwneud ag iechyd ehangach y sector addysg uwch. Roedd adroddiadau ar y cyfryngau dros y penwythnos yn dweud yn glir fod addysg uwch yn wynebu heriau mawr iawn. Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd—ac rwy’n dyfynnu—mai’r sgwrs o fewn y sector yn awr yw, ‘Pa mor fawr yw eich diffyg?’, nid a oes diffyg neu beidio.
Rwy'n deall bod rhai costau, fel y rhai sy'n gysylltiedig â phensiynau, wedi achosi i ddiffygion edrych yn fwy eleni, ond mae'n amlwg fod y mwyafrif o sefydliadau yn gweithredu yn y coch a bod gostyngiad parhaus hefyd yn nifer yr ymgeiswyr a dderbynnir yng Nghymru a chwymp o 17,000 yng nghyfanswm y ceisiadau ers 2016. Nawr, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol iawn o effaith economaidd ehangach prifysgolion Cymru, ac rydym wedi gwyntyllu rhai o'r dadleuon hynny yma dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Mae'n peri pryder i ni ym Mhlaid Cymru fod hanner myfyrwyr Cymru wedi dewis gadael y wlad a mynd i astudio mewn prifysgol yn rhywle arall. Nid ydym yn dweud na ddylent fynd, ond rydym yn pryderu bod dros eu hanner wedi penderfynu mynd, ac rydym yn gweld na chafodd y draen dawn o Gymru a fu'n digwydd dros ddegawdau mo'i atal gan Lywodraethau blaenorol yma yng Nghymru.
Felly, fy nghwestiwn i chi, fy nghwestiwn olaf, yw hwn: beth rydych yn ei wneud yn wahanol i sicrhau y gallwn newid y sefyllfa ac annog llawer mwy o bobl i aros ac i gael eu haddysg yng Nghymru? A hoffwn ddweud, i gloi, nid yw'n ymwneud â pheidio ag annog pobl i fynd i rywle arall i astudio, ond er mwyn sicrhau bod gennym sector addysg uwch llwyddiannus a bywiog yma yng Nghymru, mae'n rhaid inni gydnabod yr angen i edrych ar sut y gallwn gadw rhai o’r myfyrwyr hynny yma yng Nghymru oherwydd mae hynny'n rhan annatod o'r broblem ar hyn o bryd.
Wel, materion i sefydliadau unigol yw cwricwlwm, marchnata, recriwtio a chadw myfyrwyr ac nid mater i'r Llywodraeth. Yn ystod y Senedd hon, buaswn yn dadlau ein bod wedi cyflwyno’r system gymorth decaf, fwyaf blaengar a chynaliadwy yn y Deyrnas Unedig, system sy'n trin myfyrwyr Cymru yn dda iawn. Ond hefyd, rwy’n cydnabod bod prifysgolion yn gyflogwyr mawr a’u bod yn hanfodol i’n heconomi leol a llawer o’n cymunedau, a dyna pam rydym wedi symud i system ariannu fwy cynaliadwy a pham y byddwn yn gweld cyllideb Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn cynyddu’n sylweddol yn 2020-21 wrth inni gyflawni ein diwygiadau Diamond. Ond mater i'r prifysgolion unigol yw'r cyrsiau y maent yn eu cynnig a'u gallu i farchnata a recriwtio myfyrwyr i'r cyrsiau hynny.