2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 15 Ionawr 2020.
2. Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog yn eu cael gyda byrddau iechyd a phartneriaid cysylltiedig i wella’r broses o drosglwyddo cleifion o ysbytai yn ôl i leoliadau cymunedol? OAQ54912
Diolch i David Rees am ei gwestiwn. Fel y Gweinidog, rwy’n cael trafodaethau rheolaidd am y materion hyn gyda phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys cyfarfodydd ym Mae Abertawe yr wythnos diwethaf. Mae'n hanfodol atal derbyniadau diangen, a throsglwyddo pobl o'r ysbyty i'w cartrefi neu leoliadau cymunedol cyn gynted ag y byddant yn barod.
Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Fel y darganfu’r Gweinidog drosto’i hun yr wythnos diwethaf, pan ymwelodd â’r uned mân anafiadau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, ar y diwrnod penodol hwnnw, roedd 125 o gleifion yn Nhreforys yn aros i gael eu rhyddhau am eu bod yn ddigon iach yn gorfforol i fynd o’r ysbyty, ond roeddent yn dal i eistedd yno am na allent adael. Mae'n amlwg fod perthynas i'w chael â phartneriaid i sicrhau bod pecynnau gofal ar waith, fod lleoedd ar gael mewn cartrefi gofal, neu gartrefi nyrsio, a bod yr addasiadau'n cael eu gwneud. Mae hyn yn peri problem, gan ein bod bob amser yn tynnu sylw at y ffaith bod ambiwlansys wedi'u parcio y tu allan i ysbytai a bod adrannau damweiniau ac achosion brys yn wynebu anawsterau, ond y llif drwy'r ysbytai ac anawsterau wrth ryddhau cleifion sy'n blocio popeth mewn gwirionedd.
Beth a wnewch i sicrhau bod yr adrannau hynny a'r gwasanaethau cymdeithasol hynny, y partneriaid hynny, yn gwneud eu gorau glas? Gwn eu bod dan bwysau—rwy'n llwyr sylweddoli'r pwysau sydd arnynt—ond mae angen iddynt allu sicrhau y gall y cleifion adael cyn gynted â phosibl fel bod modd rhyddhau'r gwelyau er mwyn sicrhau bod y llif drwy ysbytai yn gwella.
Diolch, David Rees, am godi'r pwyntiau pwysig iawn hynny. Rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd weithio gydag awdurdodau lleol a chyda'r trydydd sector i sicrhau bod pobl yn dychwelyd adref o'r ysbyty cyn gynted ag y byddant yn iach i wneud hynny, gan y credaf fod pob un ohonom yn gwybod am y niwed i bobl sy'n aros yn hwy yn yr ysbyty, yn ogystal â'r effaith ar y llif drwy'r ysbyty. Gwn o ymweliadau diweddar, yn enwedig â Bae Abertawe, fod ymrwymiad gwirioneddol i wneud hyn.
Felly, rydym yn gwneud ymdrech ac yn darparu arian. Rydym yn cefnogi gwelliannau drwy raglen genedlaethol Every Day Counts a'r llwybrau rhyddhau i adfer ac asesu. Rydym wedi buddsoddi mewn mentrau newydd drwy'r gronfa gofal integredig a'r gronfa trawsnewid, lle mae awdurdodau lleol, byrddau iechyd a'r trydydd sector yn gweithio gyda'i gilydd, wrth gwrs, i ddod o hyd i atebion.
Mae rhanbarth Bae Abertawe yn rhoi nifer o fesurau ar waith, gan gynnwys drwy fuddsoddi dros £1 filiwn yn eu gwasanaeth ysbyty i'r cartref, y soniasant wrthyf yn fanwl amdano yr wythnos diwethaf. Mae hynny'n cefnogi rhyddhau cynnar. Mae'r camau hyn wedi arwain at welliannau, felly yn sicr, ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr, gostyngwyd cyfraddau oedi wrth drosglwyddo gofal.
Fe sonioch chi am y gronfa trawsnewid, Weinidog, ac oedi wrth ryddhau i leoliadau cymunedol. Un o'r rhwystrau o hyd yw cyllido, yn enwedig os oes angen cyllid ar unigolyn gan y gwasanaeth iechyd a chan y gwasanaethau cymdeithasol oherwydd y pecyn gofal cymysg sydd ei angen arnynt. Yn eithaf aml, ceir mân ryfeloedd llwythol—sy'n ffordd garedig o'i ddisgrifio efallai. Mae gan bobl eu cyllidebau eu hunain, mae'n rhaid iddynt ddiogelu eu cyllidebau ac mae'n rhaid iddynt roi cyfrif am eu cyllidebau. Tybed pa waith sy'n mynd rhagddo, drwy'r gronfa trawsnewid, yn enwedig yn 'Gorllewin Cymru Iachach', lle mae'r holl sefydliadau i fod i ddod at ei gilydd i sicrhau gwell canlyniadau i gleifion a sicrhau eu bod yn gadael ysbytai ac yn mynd yn ôl i leoliadau cymunedol. Tybed a oes modd i ni ddechrau dysgu gwersi ynglŷn â sut y gallwn ddatrys y materion cyllido hyn, fel bod cael rhywun allan o'r ysbyty ac yn ôl i'w cartref neu i ofal preswyl, ni waeth beth arall sy'n digwydd—fel nad cyllid fydd yn achosi'r rhwystr, a phwy sy'n talu am ba elfen o'r gofal sydd ei angen ar yr unigolyn hwnnw.
Mae Angela Burns yn llygad ei lle, ceir anawsterau weithiau mewn perthynas â'r gwahanol elfennau hynny o gyllid. Ond mae'n gwbl hanfodol fod y claf, yr unigolyn, yn gwbl ganolog i'r ffordd y caiff penderfyniadau eu gwneud. A gwn fod rhai prosiectau, o dan y cyllid trawsnewid, wedi edrych ar sut y gall hynny ddatblygu, a gobeithiaf y bydd modd i ni ddysgu drwy hynny. Mae gofal parhaus yn un mater y mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef, a chredaf ein bod wedi cael datganiad ar hynny'n weddol ddiweddar, a gwn ein bod yn edrych ar rai elfennau o ofal cymunedol ac yn eu hadolygu.